Agenda item

YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG

Pwrpas:        Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth yngl?n â’r camau gweithredu a gymerwyd dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

 

  • Gwaharddiad Arfaethedig ar Aros ar Unrhyw Adeg – Ffordd Owen, Ffordd Gwynedd, Ffordd Glynd?r, Ffordd Edwin, Stryd Fawr, Parc Sant Pedr a Connah’s Quay Road, Llaneurgain – Cyngor Sir y Fflint

I hysbysu’r Aelodau o’r gwrthwynebiadau a ddaeth i law yn dilyn hysbysebu’r Gwaharddiad ar Aros ar y ffyrdd uchod.

 

  • Diwygiad i reoliadau mynwentydd Cyngor Sir y Fflint

Mae Rheoliadau Mynwentydd Cyngor Sir y Fflint yn llywodraethu’r gweithrediadau a wneir o fewn ei fynwentydd ac yn darparu arweiniad ar yr hyn a ddisgwylir gan ymwelwyr a’r rheiny sy’n berchen ar feddau yn y mynwentydd. Adolygir y rheoliadau hyn yn gyson i sicrhau eu bod yn gyfoes, yn cyrraedd safonau’r diwydiant ac yn addas i’r diben. Mae’r diwygiadau a amlinellir yn sicrhau mai dyma fydd yr achos yn 2021-2015.

 

Refeniw

 

  • Rhent Tai Cyngor – Cais i Ddileu Ôl-ddyledion Rhent

Mae’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol a'r Aelod Cabinet Tai ac Asedau yn gyfrifol am ystyried achosion i ddileu dyledion dros £5,000.

 

Mae penderfyniad i ddileu ôl-ddyledion rhent wedi’i wneud mewn perthynas â thenant sy’n destun Gorchymyn Methdalu. Mae ôl-ddyledion rhent o £7,268.89 wedi’u cynnwys yn y Gorchymyn Methdalu ac o ganlyniad i’r dyfarniad nid oes modd ad-ennill yr ôl-ddyledion bellach.

 

  • Rhent Tai Cyngor – Dileu Hen Ôl-Ddyledion Rhent yn Dilyn Achos o Droi Allan

Mae Rheolau’r Weithdrefn Ariannol (Adran 5.2) yn nodi bod drwgddyledion a dyledion na ellir eu hadennill, sydd dros £5,000, yn cael eu dileu drwy bwerau dirprwyedig ar y cyd â’r Aelod Cabinet perthnasol.

 

Mae’r penderfyniad i ddileu dyled yn ymwneud ag un achos o rent heb ei dalu, lle bu i’r tenant adael yr eiddo cyn cael ei droi allan i ddod â’r denantiaeth i ben. Yn dilyn camau cyfreithiol i ddiweddu’r denantiaeth, ystyrir nad oes modd ad-ennill yr ôl-ddyledion rhent o £10,100 ac nad oes unrhyw obaith o sicrhau taliad.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

 

  • Cytundeb Perfformiad Cynllunio

Ceisiwyd pwerau dirprwyedig i ymrwymo i gytundeb perfformiad cynllunio i gwrdd â chostau’r Cyngor wrth ddarparu cyngor cyn ymgeisio ar gyfer Gorchymyn Caniatâd Datblygu a Chais Cynllunio ar gyfer Prosiect Isadeiledd Sylweddol Cenedlaethol.

 

Tai ac Asedau

 

  • Dynodi tir ym meddiant y Cyngor yn Llwybr Troed Cyhoeddus ar ran o reilffordd segur rhwng Llwybr Troed Cyhoeddus rhif 5 a 6 yng nghymuned Bwcle yn ôl-weithredol

Dynodi tir sydd ar hyn o bryd yn eiddo i Gyngor Sir y Fflint yn Llwybr Troed Cyhoeddus, fel y dangosir gyda llinell doredig ddu rhwng pwyntiau A a B ar y cynllun.

 

  • Trosglwyddo Ased Cymunedol, Canolfan Ieuenctid a Chwt Sgowtiaid Penyffordd

Trosglwyddo Ased Cymunedol Canolfan Ieuenctid a Chwt Sgowtiaid Penyffordd, Ffordd Penarlâg, Penyffordd, Sir y Fflint.

 

Addysg ac Ieuenctid a Thai ac Asedau

                                        

  • Gwaredu Adeiladau Diangen

Datganiad ar y cyd o Adeiladau Diangen – trosglwyddo adeiladau Cyngor Sir y Fflint, sef Canolfan Ieuenctid (Addysg ac Ieuenctid) a Chwt Sgowtiaid Penyffordd (Tai ac Asedau), Ffordd Penarlâg, Penyffordd, Sir y Fflint ar ffurf Trosglwyddiad Ased Cymunedol i Gr?p Cymunedol Penyffordd a Phenymynydd (Cwmni Buddiannau Cymunedol) ar brydles o 27 o flynyddoedd.

Dogfennau ategol: