Agenda item
Effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc
Pwrpas: Derbyn diweddariad ar lafar i roi sicrwydd i’r Pwyllgor ynghylch yr amcan adfer a amlygir o ystyried cyfarfod diweddar y Pwyllgor Adfer.
Cofnodion:
Darparodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) ddiweddariad ar lafar ar y tair risg fwyaf a nodwyd yn ystod cyfarfod diweddar o’r Pwyllgor Adfer.
Darparodd y Prif Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau wrth reoli ansicrwydd a newidiadau gweithredol a all fod angen eu gwneud ar ddechrau’r tymor newydd.Dywedodd fod yr ysgolion wedi bod ar agor am hanner tymor ac yn parhau i wynebu heriau sylweddol wrth reoli effaith achosion Covid-19 ar ddisgyblion a staff.Mae newidiadau Llywodraeth Cymru i ganiatáu i ddysgwyr aros yn yr ysgol, hyd yn oed os ydynt wedi dod i gysylltiad â rhywun sydd wedi derbyn prawf positif, wedi arwain at niferoedd uchel o heintiau ymhlith disgyblion a staff.Mae argaeledd cyfyngedig staff llanw ar gyfer amrywiaeth o swyddi ysgol yn rhoi pwysau ar allu gweithredol ysgolion ac yn cadw lefelau gorbryder staff ac arweinyddion ar lefel uchel.Mae newidiadau i ganllawiau ysgolion arbennig wedi bod yn broblemus iawn.Mae canllawiau’r broses Profi, Olrhain a Diogelu hefyd wedi’u hadolygu’n ddiweddar ac wedi’u diweddaru er mwyn ceisio symleiddio rhannu gwybodaeth a lleihau llwyth gwaith y Gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu ac ysgolion. Fodd bynnag, dim ond newydd ddigwydd mae hyn ac felly mae'n rhy gynnar i asesu'r effaith.Mae’r Portffolio Addysg, Swyddogion Iechyd yr Amgylchedd a’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu yn parhau i ddarparu lefelau uchel o gymorth i ysgolion. Fodd bynnag, mae gwytnwch arweinyddion ysgol yn cael ei ymestyn ac mae’r risg barhaus o amhariadau ar addysg yn dal yn uchel.
Mynegodd y Cynghorydd Dave Mackie bryderon ynghylch yr anawsterau wrth recriwtio staff ysgol llanw a chyfeiriodd at raglen deledu ddiweddar a amlygodd hyn fel problem genedlaethol. Cytunodd y Prif Swyddog fod hyn yn heriol ac yn cynnwys cymorthyddion dosbarth, arlwywyr, glanhawyr ac aelodau eraill o staff yn ogystal ag athrawon.Mae hyn wedi effeithio ar bob ysgol, ac nid yw’n rhywbeth y gall yr awdurdod ei ddatrys. O ran cyllid Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, cadarnhaodd fod ysgolion wedi derbyn y cyllid yma ers peth amser bellach ac roedd hi’n hyderus, os yw ysgolion wedi cael yr aelodau hynny o staff, y bydd y cyllid hwn yn galluogi ysgolion i barhau â’r contractau.Adroddodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi nodi carfan o athrawon newydd gymhwyso heb brofiad digonol mewn ysgol. Mae Llywodraeth Cymru wedi ariannu 20 athro newydd gymhwyso i ennill profiad mewn ysgolion er mwyn iddynt dderbyn eu statws athro cymwysedig a darparu cymorth ychwanegol mewn ysgolion. Mae’n debyg y bydd y cyllid hwn yn cael ei estyn i dymor y gwanwyn, a fyddai’n galluogi ysgolion i gadw eu hathrawon newydd gymhwyso. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn lleddfu rhywfaint o’r heriau ac mae’n braf gweld bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod llwyddiant y rhaglen a’r cymorth y mae’n ei ddarparu i ysgolion.
Darparodd y Prif Swyddog ddiweddariad ar lafar ar y risg o ran effaith y pandemig ar blant a phobl ifanc. Eglurodd fod cyswllt rheolaidd yn cael ei wneud gydag ysgolion a'i bod wedi cwrdd yn ddiweddar â Ffederasiynau Penaethiaid Cynradd ac Uwchradd i dderbyn gwell dealltwriaeth o’r pwysau sydd ar ysgolion.Yn ôl adborth ysgolion mae effaith colli cyfnodau hir o addysg i’w weld yn glir ar rai disgyblion. Caiff hyn ei adlewyrchu yn eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u gallu i ganolbwyntio, yn ogystal â’u hymddygiad. Mae ysgolion hefyd yn rhoi gwybod am lefelau uwch o ddisgyblon sydd yn ei chael hi’n anodd ail-ymgysylltu a bod rhai yn ei chael hi’n anodd cydymffurfio â disgwyliadau ymddygiad priodol yn yr ysgol oherwydd diffyg strwythur am gyfnod hir o amser.Dywedodd yr ysgolion fod yr heriau ymddygiadol hyn, sydd yn amlwg yn enghraifft o effaith y pandemig ar les emosiynol dysgwyr, yn cymryd llawer o amser i’w rheoli a’u datrys, ac mae hynny, ynghyd ag absenoldebau staff, yn ychwanegu at y pwysau.
Dywedodd y Prif Swyddog fod y prosiect peilot rhanbarthol ar gyfer y fframwaith Iechyd a Lles Emosiynol cenedlaethol yn mynd rhagddo a bod ychydig o ysgolion Sir y Fflint yn rhan ohono. Mae ysgolion nad ydynt yn rhan o’r peilot yn parhau i dderbyn cefnogaeth i ddefnyddio deunyddiau effeithiol y Cynllun Ysgolion Iach ochr yn ochr â strategaethau iechyd meddwl eraill.Mae’r risg yn parhau'n uchel.
Soniodd yr Uwch-Reolwr am yr hyfforddiant a ddarparwyd ar les, gyda phenaethiaid yn darparu sylwadau cadarnhaol am ansawdd yr hyfforddiant a ddarperir i ysgolion.Soniodd am Grant Lles Llywodraeth Cymru sydd wedi cynyddu’r gallu cwnsela a’r rhaglenni hyfforddiant a ddarperir i ysgolion ar gefnogi llythrennedd emosiynol.Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda'r Gwasanaethau Cymdeithasol a CAMHS i gefnogi rhieni sy’n methu ymdopi gyda phobl ifanc oherwydd eu hymddygiad.
Soniodd y Prif Swyddog am y meysydd gwasanaeth ar gyfer unigolion yn eu harddegau hwyr, sydd wedi derbyn cymorth gan y timau Gwasanaeth Ieuenctid a Chyfiawnder Ieuenctid i’w helpu nhw gyda’u materion heriol.Ychwanegodd fod llawer o’r ymddygiad yn yr ysgol yn deillio gartref neu yn y gymuned, a'i fod yn bwysig edrych ar yr holl wasanaethau sy'n gallu cefnogi'r unigolyn ifanc a'r ysgol.
PENDERFYNWYD:
(a) Nodi’r diweddariad ar lafar; a
(b) Bod y Pwyllgor yn parhau i bryderu ynghylch y pwysau sydd ar swyddogion ac ysgolion, ond eu bod yn cefnogi ac yn gwerthfawrogi bod tîm y Prif Swyddog yn gwneud popeth o fewn eu gallu i reoli’r risg.