Agenda item
Cydnabyddiaeth o Wasanaeth gan Colin Everett, Prif Weithredwr ar fin gadael
Pwrpas: I gydnabod 14 mlynedd o wasanaeth gan Colin Everett fel Prif Weithredwr sydd wedi gwasanaethu hiraf ar y Cyngor.
Cofnodion:
Gwahoddodd Cadeirydd y Cyngor Colin Everett, Prif Weithredwr ar fin gadael i siarad. Yn ei sylwadau agoriadol, diolchodd y Prif Weithredwr i Swyddogion a chydweithwyr yn y Gwasanaethau Democrataidd, Theatr Clwyd, Cyfathrebu Corfforaethol, a Picturehouse am eu gwaith yn trefnu cyfarfod technegol a chymhleth o ran logisteg.
Dywedodd y Prif Weithredwr nad oedd gan yr Awdurdod y dylanwad rhanbarthol na chenedlaethol yr oedd yn ei haeddu pan ymunodd o â Chyngor Sir y Fflint yn 2007. Siaradodd am ei friff pan gafodd ei benodi, sef dod ag egni newydd ac arweinyddiaeth broffesiynol, a gwneud i newid cadarnhaol ddigwydd. Heddiw, roedd yna gydnabyddiaeth gan nifer o ffynonellau, yn cynnwys y Prif Weinidog, Aelodau Eraill o’r Cabinet, sylwebwyr cenedlaethol bod Cyngor Sir y Fflint yn Gyngor cryf, oedd yn perfformio’n uchel, gan ddarparu arweinyddiaeth i awdurdodau a sefydliadau eraill, a’r awdurdod gorau yng Nghymru am weithio mewn partneriaeth.
Rhoddodd y Prif Weithredwr grynodeb byr o’i yrfa ym maes llywodraeth leol dros 40 mlynedd. Dywedodd y byddai Cyngor Sir y Fflint yn atgof arbennig iddo a’i bod wedi bod yn anrhydedd i wasanaethau ei breswylwyr a chymunedau lleol. Yna rhoddodd gyflwyniad byr gan dynnu sylw at rhai o’r cyflawniadau niferus a digwyddiadau nodedig yn ystod ei gyfnod yn y swydd. Roedd yn teimlo bod yr Awdurdod mewn sefyllfa hyderus, gadarn a chymwys i symud ymlaen yn y dyfodol o dan arweinyddiaeth Neal Cockerton, y Darpar Brif Weithredwr.
Gan gloi, dywedodd y Prif Weithredwr fod y dyfodol yn dda i Ogledd Cymru; a bod ei lleoliad, tirwedd, treftadaeth ac economi yn unigryw. Roedd wedi mwynhau byw yng Ngogledd Cymru yn ystod ei amser fel arweinydd gwasanaethau cyhoeddus ac roedd yn hyderus y byddai’n adfer yn dda o effaith pandemig Covid-19 ac yn parhau i fod yn lle diogel i fyw a gweithio.
Mynegodd y Prif Weithredwr ddiolch eto i Gadeiryddion presennol a chyn Gadeiryddion Cyngor Sir y Fflint, Arweinwyr y Cyngor, Arweinwyr Grwpiau, Aelodau Cabinet, Cadeiryddion Pwyllgorau, ac Aelodau am eu cefnogaeth. Diolchodd hefyd i gydweithwyr oedd yn uwch swyddogion, Prif Swyddogion, Rheolwyr Gwasanaeth a thîm y Prif Weithredwr am eu cefnogaeth a chyfeillgarwch trwy gydol y 14 blynedd diwethaf. Fe soniodd am ei gynlluniau personol at y dyfodol a dywedodd y byddai’n dychwelyd i ymweld pan fyddai yna gyfle.
Croesawodd y Prif Weithredwr Yr Arglwydd Barry Jones a’r Foneddiges Janet Jones i’r cyfarfod. Diolchodd yn arbennig i’r Arglwydd Barry Jones am ei gefnogaeth bersonol fel mentor. Rhoddodd deyrnged i’w waith a rhinweddau personol ac wrth gloi, dywedodd ei fod yn ymgorfforiad o eiriolaeth ar gyfer Sir y Fflint a’i phobl. Er mwyn cydnabod ei wasanaeth fel Aelod o’r Senedd am 50 mlynedd, gofynnodd y Prif Weithredwr i’r Aelodau sefyll fel teyrnged i’r Arglwydd Barry Jones.
Rhoddodd y Prif Weithredwr deyrnged i’w olynydd Neal Cockerton, y Darpar Brif Weithredwr a chyfeiriodd at ei rinweddau personol a’i foeseg gwaith a’i werthoedd enghreifftiol. Diolchodd Neal Cockerton i’r Prif Weithredwr am ei gyngor, ei fentoriaeth, ei arweiniad a’i gefnogaeth broffesiynol. Diolchodd hefyd ar ran tîm y Prif Weithredwr, y gweithlu, a sefydliadau partner am ei arweinyddiaeth gref drwy rhai o’r digwyddiadau mwyaf heriol y mae’r Cyngor wedi’u hwynebu. Siaradodd am berthynas y Prif Weithredwr gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid rhanbarthol oedd yn allweddol i gyflawni rhaglenni trawsnewidiol a rhyng-genhedlaeth a fyddai’n gadael gwaddol hirdymor yn y rhanbarth. Cyflwynodd y Darpar Brif Weithredwr ffilm fer oedd yn nodi’n gryno beth oedd ei feddyliau a dyheadau ar gyfer dyfodol y Cyngor.
Cyflwynodd y Cadeirydd anrheg ar ran Aelodau a chydweithwyr i’r Prif Weithredwr oedd ar fin gadael, i nodi ei ymddeoliad.
Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod ar y Cyngor ddiolchgarwch i’r Prif Weithredwr oedd ar fin gadael. Siaradodd am ei arweinyddiaeth a’i gadernid, a’i rinweddau personol o gyfeillgarwch, caredigrwydd a chefnogaeth a gynhigiwyd i Aelodau pan oedd angen. Fe soniodd am her blynyddoedd o galedi a chyfyngiadau cyllideb difrifol a wynebodd y Cyngor o dan arweiniad y Prif Weithredwr, a gofynion digyffelyb pandemig Covid-19 a ddilynodd. Siaradodd hefyd am bwysigrwydd partneriaeth weithio effeithiol rhwng Swyddogion ac Aelodau a diolchodd i’r Prif Weithredwr am ei allu i weithio gydag Aelodau i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer y Cyngor fel darparwr uniongyrchol sylweddol o wasanaethau. I gloi, gofynnodd y Cynghorydd Roberts i Aelodau ymuno ag o ar eu traed i gymeradwyo’r Prif Weithredwr.
Rhoddodd y Cynghorwyr Mike Peers, Marion Bateman, Clive Carver, Carol Ellis, Aaron Shotton a Neville Phillips deyrnged i’r Prif Weithredwr, gan gyfeirio at enghreifftiau o’i waith yn y cefndir yn ymateb i anghenion pobl eraill ac er budd Sir y Fflint a’i phreswylwyr, a diolchasant iddo am ei wasanaeth a’i ymroddiad. Dymunodd yr Aelodau y gorau iddo at y dyfodol a dymuno pob llwyddiant i’r Darpar Brif Weithredwr yn ei swydd newydd.
Cyflwynodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ‘Llyfr Atgofion’ wedi’i rwymo mewn lledr i’r Prif Weithredwr oedd wedi cael ei lunio gan dîm o swyddogion oedd yn cynnwys atgofion, negeseuon o ewyllys da, a straeon gan Aelodau, Swyddogion a chydweithwyr proffesiynol ar draws Cymru. Roedd y llyfr wedi cael ei bwytho â llaw a’i rwymo mewn lledr gyda llythrennau aur gan Mark Allen, Uwch Gadwraethwr yng ngwasanaeth Archifau Gogledd Cymru. Gwahoddodd y Prif Archifydd i egluro’r broses y tu ôl i’r llyfr. Mynegodd y Prif Weithredwr ei werthfawrogiad i bawb oedd wedi cyfrannu at y Llyfr Atgofion, a dywedodd y byddai’n ei drysori.