Agenda item
Cynllun Rheoli Asedau
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, Dydd Gwener, 23ain Medi, 2022 10.00 am (Eitem 24.)
- Cefndir eitem 24.
Pwrpas: Cyflwyno’r Cynllun Rheoli Asedau 2022 - 2027 ar gyfer ei adolygu.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Rheolwr Corfforaethol (Rhaglen Gyfalaf ac Asedau) y Cynllun Rheoli Asedau ar gyfer 2022-2027 sy’n disodli’r Cynllun blaenorol ar gyfer 2019-2026. Roedd y ddogfen ddiweddaraf yn adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru (LlC) ar leihau carbon a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yn ogystal â Strategaeth Newid Hinsawdd y Cyngor a fabwysiadwyd yn gynharach yn y flwyddyn.
Gofynnodd y Cynghorydd Sam Swash am waredu ffermydd blaenorol ac unrhyw newidiadau a wnaed i’r polisi. Rhoddodd y Rheolwr Corfforaethol wybod y byddai modd darparu gwybodaeth benodol am werthiant ffermydd ar wahân ac eglurodd bod y polisi wedi cymryd elfennau amgylcheddol amrywiol i ystyriaeth, ac roedd yn debyg y byddai rhagor o newidiadau i ddeddfwriaeth LlC.
Cynghorodd y Rheolwr Asedau, hyd eithaf ei gwybodaeth, bod ffermydd Cyngor a werthwyd bellach yn gweithredu dan berchnogaeth newydd. Eglurodd y cymal contractio lle byddai caniatâd cynllunio ar gyfer defnydd gwahanol yn golygu bod canran o’r gwerth yn cael ei ddychwelyd i’r Cyngor.
Siaradodd y Prif Weithredwr am newidiadau polisi dros y blynyddoedd gan gynnwys annog tenantiaid ifanc i ymgymryd â ffermydd a daliadau, gan symud at ffocws ar hawliau olyniaeth a thenantiaethau busnes fferm, ac roedd rhai o’r rhain wedi arwain at brynu’r ffermydd. Dywedodd y gellid cynnwys adolygu’r polisi gwaredu ffermydd ar raglen ar gyfer cyfarfod yn y dyfodol.
Ceisiodd y Cynghorydd Bernie Attridge wybodaeth am y tabl eiddo gweithredol a rhoddwyd gwybod iddo fod rhagor o fanylion ar gael ar gais gan y system rheoli asedau. Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) wybod y byddai Aelodau’n derbyn dolen i fanylion cyhoeddus am berchnogaeth rydd-ddaliadol y Cyngor unwaith y byddant ar gael. Byddai ymholiad am gyfraniadau tuag at fuddsoddiad yn Theatr Clwyd yn cael ei drafod fel rhan o’r eitem yn nes ymlaen yn y rhaglen.
Yn dilyn sylwadau’r Cynghorydd Attridge ar ailddatblygu campws Neuadd y Sir, dywedodd y Cynghorydd Alasdair Ibbotson y dylid adlewyrchu’r lefelau disgwyliedig mewn perthynas â gweithio o gartref er mwyn cynllunio ar gyfer y dyfodol yn y Cynllun. Rhoddodd y Swyddogion wybod, er nad oedd yr amserlenni wedi’u cadarnhau eto, bod ystod o ystyriaethau ynghlwm â’r angen i nodi cyfleusterau democrataidd allweddol ac arbedion posibl drwy ardrethi annomestig. Yn ystod trafodaeth ar y mater, siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am Gyfraniad Aelodau ac eglurodd y Prif Weithredwr ddatblygiad y strategaeth gweithio hyblyg.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bill Crease, eglurodd y Rheolwr Corfforaethol na fyddai’r tâl gwasanaeth ar gyfer campws 3-16 Mynydd Isa’n fwy na’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad i’r Cabinet a Throsolwg a Chraffu.
Gofynnodd y Cynghorydd Ibbotson am sail y strategaeth gostwng carbon a adlewyrchwyd yn y Cynllun. Rhoddodd y Prif Weithredwr wybod bod yr adroddiad hwn yn un lefel uchel sy’n amlinellu’r cyd-destun strategol ar gyfer cyfeirio at strategaethau a pholisïau amrywiol. Cadarnhaodd bod Rheolwr Rhaglen Chynllun Gweithredu Newid Hinsawdd a Lleihau Carbon y Cyngor (Alex Ellis) wedi’i ymgynghori ar y Cynllun ac yn gallu ymateb i gwestiynau penodol ar gais.
Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Sam Swash, siaradodd y Rheolwr Corfforaethol a’r Rheolwr Asedau am y categorïau gwahanol o asedau yn y tabl o eiddo gweithredol.
Roedd y Rheolwr Corfforaethol yn cydnabod pwynt y Cadeirydd ar nifer yr ysgolion a ystyrir eu bod mewn cyflwr gwael, fodd bynnag, mae ystâd ysgolion y Cyngor yn cymharu’n ffafriol gydag awdurdodau eraill yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, roedd ffigurau’r gwaith cynnal a chadw sy’n aros i gael ei wneud mewn ysgolion wedi gostwng yn sylweddol drwy fuddsoddiad gan y Cyngor a LlC. Er y croesawyd cyllid LlC ar ddiwedd y flwyddyn sy’n cyfrannu’n sylweddol at gyflawniadau’r tîm i leihau’r ôl-groniad gwaith, roedd yr ansicrwydd mewn perthynas â’r cyllid hwnnw wedi cael effaith ar gapasiti i reoli’r sefyllfa.
Cytunodd y Rheolwr Corfforaethol i fynd i’r afael â’r anghysondeb rhwng y geiriad a’r siart sy’n dangos asedau a werthwyd, dan adran 3 o’r Cynllun.
Cynigiodd y Cynghorydd Bernie Attridge yr argymhellion, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Jason Shallcross.
PENDERFYNWYD:
Cefnogi Cynllun Rheoli Asedau 2022-2027, er mwyn ei fabwysiadu fel y brif ddogfen ar gyfer rheoli eiddo corfforaethol ac asedau adnoddau tir y Cyngor.
Dogfennau ategol:
- Asset Management Plan 2022 - 2027, eitem 24. PDF 101 KB
- Enc. 1 - Draft Asset Management Plan, eitem 24. PDF 3 MB