Agenda item

Cyllideb 2022/23 - Cam 2

Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn rhoi sylwadau ar bwysau ariannol y Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a'r strategaeth gyllideb gyffredinol ac yn cynghori ar unrhyw feysydd effeithlonrwydd cost yr hoffai eu harchwilio ymhellach

Cofnodion:

Darparodd y Prif Weithredwr wybodaeth gefndirol a chyd-destun. 

 

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad am ail gam y gyllideb a oedd yn rhoi manylion y rhagolygon a'r pwysau o ran costau a fyddai'n arwain at ofynion cyfanswm y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol ym Mehefin yn darparu’r sefyllfa ddiwygiedig ar y gyllideb ar gyfer 2022/23.  Cafodd y pwysau o ran costau a nodwyd eu hatgyfeirio ar y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu perthnasol gyda chais eu bod oll yn cyflawni adolygiad trylwyr.  Roedd manylion y pwysau o ran costau ar gyfer Gofal Cymdeithasol wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Darparodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol, Uwch Reolwr (Plant a’r Gweithlu), Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynu ac Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion, gyflwyniad ar y cyd a oedd yn cynnwys y meysydd canlynol:

 

  • Pwrpas a chefndir
  • Crynodeb o gyfansymiau pwysau costau
    • Pwysau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol
    • Pwysau Cyllideb Ysgolion
  • Crynodeb holl Bwysau Costau
  • Pwysau cyllideb y tu allan i’r sir
  • Datrysiadau Strategol
  • Y wybodaeth ddiweddaraf am effeithlonrwydd
  • Amserlenni Cyllideb

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dave Mackie at y Pwysau Gwasanaethau Cymdeithasol (1) mewn perthynas â Chartref Gofal Preswyl i Blant ac awgrymodd, gan fod y Pwyllgor wedi cytuno ar y swm hwn y llynedd, y dylai’r Pwyllgor gytuno ar y pwysau eleni.

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Hilary McGuill at y newidiadau a gyhoeddwyd mewn perthynas ag Yswiriant Gwladol ac y byddai’r costau yn effeithio ar y Cyngor fel cyflogwr, a hefyd ar y sector preifat, ac y byddai’n cael goblygiadau ar gyllido’r sector preifat wrth symud ymlaen.   Cytunodd y Prif Weithredwr ac amlinellodd sefyllfa’r Cyngor.  Dywedodd fod hyn wedi cael ei uwchgyfeirio i Weinidogion a disgwylir y bydd cyrff sector cyhoeddus allweddol sy’n comisiynu a darparu gofal cymdeithasol yn cael ychwanegiadau er mwyn ysgwyddo eu costau Yswiriant Cenedlaethol eu hunain.  Ychwanegodd fod y Cyngor wedi rhoi achos ymlaen i Weinidogion gyda’r golwg y bydd darparwyr Gofal Cymdeithasol ac Iechyd yn cael eu heithrio rhag cyfradd cyflogwyr Yswiriant Gwladol.

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carol Ellis at y pwysau o £1.952 miliwn o dan Gomisiynu Gofal Cymdeithasol a theimlai nad oedd hyn yn adlewyrchu’r prinder a phwysau cyfredol mewn perthynas â recriwtio staff - gyda phwysau o bosibl yn llawer uwch na £1.952 miliwn.  Gofynnodd faint o gyllid oedd wedi cael ei neilltuo yn y SACT i fodloni’r ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ a chostau ychwanegol darparwyr gofal, a faint o gymorth oedd y Cyngor yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru (LlC).  Mewn ymateb dywedodd y Prif Weithredwr fod llythyr gan chwe arweinydd y Cyngor yng Ngogledd Cymru, gyda chefnogaeth yr Heddlu, Ambiwlans, Iechyd a phartneriaid eraill, yn cael ei gyflwyno i LlC gyda gofyniad wedi ei gostio o amgylch y materion a godwyd er mwyn lleihau’r pwysau. 

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Dave Mackie o ran dyfodol pwysau busnes mewn perthynas â Chartrefi Gr?p Gwasanaethau Plant, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu fod achos busnes wedi cael ei ddatblygu gan nodi angen i ddatblygu dau gartref gr?p newydd ar gyfer y 3 blynedd nesaf.  Ychwanegodd pe byddai’r Cyngor yn symud ymlaen gyda’r dyhead honno, byddai’r pwysau cyllidebol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon ac yna ei ailadrodd ddwywaith. Ychwanegodd y byddai dau gr?p o gartrefi newydd yn cael eu datblygu, ac er eu bod yn gofyn am ymrwymiad o dair blynedd, cydnabu fel rhan o’r rhaglen bob blwyddyn bydd adolygu trothwy.

 

 

Mynegodd y Cynghorydd Carol Ellis ei phryderon o amgylch y pwysau ar y gwasanaeth Gofal Cartref a gofynnodd pa gymorth oedd ar gael gan y Bwrdd Iechyd.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion, fod y Bwrdd Iechyd yn rhan o’r ymateb cymunedol a bod y Cyngor yn gweithio ar y cyd gyda Thimoedd Ymateb Cymunedol, a oedd yn cynnwys nyrsys, ffisiotherapyddion a therapyddion galwedigaethol. Ychwanegodd fod cyllid wedi cael ei wneud ar gael ar gyfer capasiti ychwanegol i gefnogi pobl gydag iechyd meddwl ar gyfer diagnosis a thriniaeth.

 

 

Mewn ymateb i gwestiwn ar gyllid gan y Bwrdd Iechyd, amlinellodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion y cyfraniad ar gael drwy Gronfa Gofal Integredig a’r Bwrdd Iechyd. Mynegodd y Cynghorydd Carol Ellis ei phryderon pe byddai’r gronfa Gofal Integredig yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, a fyddai cronfa arall yn dod yn ei le.

 

 

Gofynnodd y Cadeirydd fod diweddariad yn cael ei roi ar y Gronfa Gofal Integredig a threfniadau yn y dyfodol, mewn cyfarfod yn y dyfodol.  Cafodd hyn ei gefnogi gan y Cynghorydd Dave Mackie.

 

 

Mewn ymateb i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Carol Ellis ar y Gronfa Trawsnewid a ddaeth i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, cytunodd yr Uwch Reolwr - Diogelu a Chomisiynui ddarparu’r wybodaeth yn dilyn y cyfarfod.

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Marion Bateman os oedd cyllid ar gael i helpu ffoaduriaid a oedd yn cyrraedd Sir y Fflint. Dywedodd y Prif Swyddog - Tai ac Asedau fod ffoaduriaid Afghan yn cael eu hariannu gan y llywodraeth ganolog a bod Sir y Fflint yn derbyn cyllid i’w cefnogi o ran llety ac ati.

 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dave Mackie os oedd y pwysau ar y cyd o £1 miliwn ar gyfer lleoliadau y tu allan i’r sir yn ystyried y pwysau yn y flwyddyn bresennol.  Eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu fod disgwyl i’r £0.897 miliwn o bwysau cyllidebol tu allan i’r sir ar gyfer eleni, gynyddu i £1 miliwn y flwyddyn nesaf.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Hilary McGuill os oedd costau Yswiriant Gwladol wedi cael eu cynnwys yn y gyllideb.  Eglurodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu nad oedd costau Yswiriant Gwladol wedi cael eu cynnwys.  Dywedodd fod cyfarfod yn cael ei gynnal ar 21 Hydref ac roedd yr holl ddarparwyr ar gyfer gofal preswyl plant wedi cael eu gwahodd i gyfarfod gydag ef er mwyn deall beth oedd yn debygol o ddigwydd.  

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Carol Ellis i’r diffyg o £16.75 miliwn a gofynnodd a oedd hwn am gynyddu o £1 miliwn.  Dywedodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod y £1 miliwn eisoes wedi’i gynnwys yn y ffigwr.  Eglurodd fod y lleoliadau y tu allan i’r sir yn gyfnewidiol ac yn faes risg uchel.  Ychwanegodd y Cynghorydd Ellis ei bod yn teimlo fod angen i Lywodraeth Cymru ddarparu cymorth i awdurdodau lleol i gyllido lleoliadau y tu allan i’r sir.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, dywedodd yr Uwch Reolwr - Plant a’r Gweithlu, pe byddai rhywun yn symud i Sir y Fflint a bod y plentyn yn byw yn Sir y Fflint, yna byddai ganddynt breswyliaeth gyffredin a byddai cyfrifoldeb am y plentyn yn disgyn ar Gyngor Sir y Fflint.

 

Tynnodd y Cynghorydd Carol Ellis sylw at y wybodaeth yn adran 1.07 yr adroddiad mewn perthynas â’r Gronfa Gofal Integredig a bod cyllid yn y dyfodol wedi cael ei gymeradwyo gan LlC o Ebrill 2022 i Fawrth 2027, fodd bynnag, nid oedd manylion megis dyraniadau cyllid a’r meini prawf cymhwyso wedi’u rhannu eto.  Gofynnodd faint oedd cyllid cyfredol y Gronfa Gofal Integredig, pryd fyddai’r Cyngor yn darganfod beth fydd yn dod yn ei le, faint fydd y cyllid a beth fyddai goblygiadau ar gyfer y gyllideb. 

 

Dywedodd yrUwch Reolwr Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion fod y Gronfa Gofal Integredig yn ddyraniad 5 mlynedd, ond nid yw’n hysbys eto faint fydd y dyraniad.  Ychwanegodd y gobeithir gwybod erbyn mis Hydref a bod swyddogion mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn ar hyn o bryd.      Dywedodd swyddogion fod y prosiectau sy’n cael eu cyllido gan y Gronfa yn Sir y Fflint ar hyn o bryd yn dod i gyfanswm o tua £3.5 miliwn.  Awgrymodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion, unwaith fydd y dyraniad a’r meini prawf yn hysbys, dylai adroddiad gael ei gyflwyno mewn cyfarfod y Pwyllgor yn y dyfodol.  Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fod adolygiad o wariant y DU wedi cael ei gadarnhau ar gyfer diwedd mis Hydref a fyddai’n bwydo i mewn i gyllideb LlC.  Byddai cyllideb gyffredinol LlC yn hysbys ar 20 Rhagfyr a’r setliad dros dro ar 21 Rhagfyr. 

 

Cytunwyd er fod y Pwyllgor yn cefnogi’r pwysau o ran costau a gyflwynwyd,

roedd gan yr Aelodau bryderon sylweddol o ran graddfa’r effeithiau newidiol

nad oedd yn fesuradwy, wrth symud ymlaen ar gyfer gwasanaethau a oedd yn cael eu cefnogi gan y Gronfa Gofal Integredig a’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol a fyddai’n cael ei fwydo yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Dave Mackie i gefnogi’r argymhellion canlynol ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi pwysau o ran costau portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol;

 

(b)       Nad oes meysydd o ran effeithlonrwydd cost pellach wedi’u nodi gan y Pwyllgor i’w harchwilio ymhellach; a

 

(c)        Bod pryderon sylweddol y Pwyllgor mewn perthynas â graddfa’r effeithiau newidiol, nad ydynt yn fesuradwy wrth symud ymlaen ar gyfer y gwasanaethau hynny sy’n cael eu cefnogi gan y Gronfa Gofal Integredig a’r cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol, yn cael eu bwydo yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Dogfennau ategol: