Agenda item

Comisiwn Ffiniau i Gymru: Adolygu Etholaethau Seneddol 2023 - Cynigion Cychwynnol

Pwrpas:        Adrodd i’r Cyngor ynghylch cynigion cychwynnol y Comisiwn ar gyfer etholaethau Seneddol yng Nghymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y cynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau Seneddol yng Nghymru yn dilyn yr adolygiad gan Gomisiwn Ffiniau i Gymru. Roedd yr adolygiad yn seiliedig ar argymhelliad o 73,393 o etholwyr fesul etholaeth (UKEQ). Er y byddai hyn yn lleihau nifer yr etholaethau ledled Cymru, roedd Sir y Fflint yn parhau i fod wedi'i gwarchod i raddau helaeth. Roedd y cynigion ar gyfer Sir y Fflint yn nodi cyfansoddiad wardiau i ffurfio etholaethau Delyn ac Alun a Glannau Dyfrdwy (Alyn & Deeside yn Saesneg) gydag awgrym y dylid ailenwi'r olaf yn swyddogol yn Alun a Glannau Dyfrdwy.  Roedd y cynigion yn destun cyfnod ymgynghori cyhoeddus a ddaeth i ben ar 3 Tachwedd 2021.

 

Cwestiynodd y Cynghorydd Mike Peers pam y dylid dod â Brymbo a Minera, yn hytrach na wardiau yn Delyn, i mewn i Alyn a Glannau Dyfrdwy i gyflawni'r UKEQ a chwestiynodd y rhesymeg dros newid enw'r etholaeth honno. Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr adroddiad yn adlewyrchu ffigurau etholwyr cyfredol hyd nes y ceir canlyniad yr adolygiad gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Lleol Cymru.

 

Cododd y Cynghorydd Chris Bithell bryderon nad oedd egwyddorion yr adolygiad yn cael eu gweithredu'n gyson ledled Cymru. Roedd yn pryderu y gallai'r cynigion ar gyfer Sir y Fflint fod yn niweidiol wrth dorri cysylltiadau hirsefydlog rhwng cymunedau presennol, er enghraifft rhwng ardaloedd fel yr Wyddgrug, Argoed a New Brighton. Dywedodd y gallai ymgorffori wardiau o Sir Ddinbych gyflwyno heriau wrth ffurfio ardaloedd cydlynol yn etholaeth Delyn ac y byddai gostyngiad yn nifer yr ASau yng Nghymru yn cael effaith negyddol ar gynrychiolaeth Cymru a’i safle yn y DU.

 

Mewn ymateb i sylwadau ar Awdurdodau Lleol eraill, dywedodd y Prif Weithredwr y gallai Ynys Môn gael ei hystyried yn achos eithriadol oherwydd ei arwahanrwydd daearyddol fel ynys a'i chysylltiadau cymunedol agos. O ran cysylltiadau rhwng cymunedau presennol, dywedodd y byddai cysylltiadau cymunedol ar lefel leol yn parhau gan nad oedd cynrychiolaeth y Cyngor Sir yn cael ei effeithio.

 

Yn dilyn ymholiad gan y Cynghorydd Neville Phillips, cadarnhaodd y Prif Weithredwr nad oedd y cynigion ar gyfer etholaethau Seneddol yn effeithio ar ffiniau'r Cyngor Sir.

 

Tynnodd y Cynghorydd Richard Jones sylw at y ffaith bod yr UKEQ o 77,373 yn ffigur cyfartalog o'r ystod a nodwyd yn Neddf Etholaethau Seneddol 1986. Dywedodd y dylai'r adolygiad fod wedi bod yn gyfle i ganolbwyntio ar gynrychiolaeth well ar lefel leol a siaradodd yn erbyn yr egwyddor o greu meysydd cyfrifoldeb mwy o faint a allai roi pleidiau gwleidyddol llai dan anfantais ymgyrchu oherwydd graddfa, ac erydu cynrychiolaeth i etholwyr / preswylwyr. Rhannodd bryderon y Cynghorydd Bithell ynghylch cysondeb yr adolygiad ledled Cymru.

 

Awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid casglu'r sylwadau a godwyd mewn ymateb drafft i'w hystyried mewn cyfarfod arbennig gydag Arweinwyr Gr?p ym mis Hydref. Byddai hyn yn galluogi cyflwyno ymateb ysgrifenedig manwl ar y cyd gan y Cyngor o fewn y dyddiad cau.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts am gymhlethdod adolygu etholaethau a phwysigrwydd y Cyngor i ymateb i'r cynigion. Cynigiodd yr argymhelliad gan gynnwys yr awgrym a wnaed gan y Prif Weithredwr.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Tony Sharps ar gynrychiolaeth etholaethau yn Senedd y DU.

 

Ar ôl cael ei gynnig, cafodd yr argymhelliad ei eilio gan y Cynghorydd Billy Mullin. Ar ôl eu rhoi i bleidlais, cariwyd yr argymhelliad.

 

PENDERFYNWYD:

 

Y dylid nodi’r cynigion cychwynnol ar gyfer etholaethau Delyn ac Alyn a Glannau Dyfrdwy ac y dylid rhannu ymateb drafft yn cynnwys sylwadau’r Aelodau ag arweinwyr Grwpiau i gytuno ar ymateb ffurfiol gan y Cyngor.

Dogfennau ategol: