Agenda item

Adroddiad Terfynol Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol Sir y Fflint

Rhannu adroddiad asesu cynaliadwyedd ariannol gan Archwilio Cymru gydag aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad gan Archwilio Cymru yngl?n â chanfyddiadau Asesiad Cynaliadwyedd Ariannol y Cyngor, yn dilyn adolygiad o bob Cyngor ar draws Cymru.  Cafodd yr adroddiad – a oedd yn cydnabod cryfderau’r Cyngor o ran cynllunio ariannol a chyflawni arbedion effeithlonrwydd – ei groesawu gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol a’r Cabinet.

 

Nid oedd yn ofynnol rhoi ymateb ffurfiol, gan fod yr adroddiad yn cyflwyno adlewyrchiad teg o sefyllfa ariannol y Cyngor heb unrhyw faterion newydd wedi codi. Wrth gydnabod maint yr her ariannol a ragwelir wrth symud ymlaen, a’r ddibyniaeth ar gyllid tecach gan Lywodraeth Cymru (LlC), byddai’r adroddiad yn ffurfio rhan o achos cyfunol a ddangosir gan bob Cyngor yng Nghymru yngl?n â’r gofyniad cyllidebol ar gyfer 2022/23.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson ei fod yn adroddiad pwysig sy’n adlewyrchu’n gywir y camau gweithredu sy’n cael eu cymryd gan y Cyngor er mwyn gwella gwydnwch ariannol drwy strategaeth gadarn, gan gynnwys defnyddio cronfeydd wrth gefn.

 

Er bod y camau gweithredu er mwyn rheoli arian yn rhoi sicrwydd, nododd Sally Ellis bod dibynnu ar Setliad gwell gan LlC wedi’i ddisgrifio fel dull risg uchel. Gofynnodd i gydweithwyr o Archwilio Cymru am eu barn yngl?n â beth allai’r Cyngor ei wneud yn wahanol er mwyn mynd i’r afael â hyn.

 

Ystyriai Gwilym Bury bod ymgysylltu â LlC yn gam rhesymol a oedd wedi bod yn fuddiol yn y gorffennol, a chanmolodd ddull cynllunio strategol y Cyngor wrth nodi pwysau cyllidebol sylweddol mewn meysydd risg uchel fel y Gwasanaethau Cymdeithasol, a oedd yn broblemau cenedlaethol. Nododd hefyd bod sefyllfa cronfeydd wrth gefn y Cyngor wedi’u heffeithio’n gadarnhaol gan gyllid argyfwng LlC yn ystod y cyfnod. Nodwyd bod adroddiadau ar gyfer pob Cyngor yng Nghymru yn cael eu cyhoeddi ar wefan Archwilio Cymru.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod strategaeth ariannol glir, a gafodd ei chyfleu fel rhan o’r broses o osod cyllidebau ar gyfer 2022/23, yn cael ei chefnogi gan Bwyllgorau Trosolwg a Chraffu.  Cafwyd ymgysylltiad cadarnhaol â LlC drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru er mwyn creu achos gyfunol ar gyfer cynyddu’r Grant Cynnal Refeniw, a oedd yn adlewyrchu sefyllfa gyfartal o ran risg ar draws Cymru.

 

Wrth groesawu’r adroddiad heb unrhyw argymhellion ffurfiol, nododd Allan Rainford lefel y cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio, o’i gymharu â Chynghorau eraill, a gofynnodd a oedd rhagamcaniadau casglu Treth y Cyngor yn peri risg bosibl.

 

Gan ymateb, dywedodd Matt Edwards bod y sefyllfa heriol yn ymwneud â’r cronfeydd wrth gefn wedi ei chynnwys yn yr adroddiad a’i bod yn cael ei chydnabod gan y Cyngor. Soniodd Gwilym Bury yngl?n â llwyddiant blaenorol y Cyngor o gasglu Treth y Cyngor.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ddiweddariad yngl?n â’r gwelliant yn lefelau casglu Treth y Cyngor, fel yr adroddwyd i’r Cabinet yn ddiweddar, a oedd yn parhau yn faes canolbwynt.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod rhagolygon casglu Treth y Cyngor ar gyfer 2022/23 wedi bod yn destun asesiadau risg cadarn a gellid eu rhannu’n breifat ar gais.

 

Soniodd y Cynghorydd Ian Roberts am ymgysylltu cryf parhaus rhwng LlC a Chynghorau yng Nghymru drwy gydol yr argyfwng. O ran casglu Treth y Cyngor, croesawodd y newid yn y dull gweithredu yn ystod yr argyfwng er mwyn cefnogi preswylwyr mewn angen.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig gan y Cynghorydd Joe Johnson a’i eilio gan Sally Ellis.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad ac yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion i’w dwyn i sylw’r Cabinet.

Dogfennau ategol: