Agenda item

Risgiau a Materion o fewn Portffolios

Pwrpas:        Adolygu’r risgiau mwyaf/presennol o fewn y pum portffolio.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac eglurodd fod Cynlluniau Busnes Adfer Portffolios wedi’u datblygu ar gyfer dod allan o’r cam ymateb cyntaf i’r pandemig yn 2020.

 

Mae’r Pwyllgor Adfer, yn ystod cyfarfodydd diweddar, wedi arolygu Cynlluniau Busnes Adfer y pum portffolio.Yn ystod y cyfarfodydd hynny mae’r Prif Swyddogion wedi amlygu’r risgiau arwyddocaol.Mae’r adroddiad hwn yn nodi’r cynnydd a’r wybodaeth ddiweddaraf ar y risgiau ymhob portffolio.

 

Addysg ac Ieuenctid

Dywedodd Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) eu bod wedi cael dechrau da i’r flwyddyn academaidd newydd gyda phob ysgol yn agor yn ôl y disgwyl.Mae’r ansicrwydd ynghylch newidiadau gweithredol a ellir fod angen eu gwneud yn cael ei reoli.Cafwyd cyfarfod adeiladol gyda phenaethiaid ar ddiwrnod cyntaf y tymor er mwyn i'r awdurdod lleol ymateb i unrhyw ymholiad a phryder.

 

Bydd ysgolion yn monitro iechyd a lles eu disgyblion, yn ogystal â’u cynnydd academaidd, yn ofalus wrth iddynt ddychwelyd i’r ysgol, a bydd cymorth i unigolion yn cael ei addasu yn ôl yr angen. Eglurodd fanylion y canllawiau newydd ar gyfer hunan-ynysu pe bai plentyn mewn ysgol yn derbyn prawf Covid positif – gan fod y wlad ar lefel rhybudd sero nid oes yn rhaid i blant sydd wedi bod mewn cyswllt â phlentyn sydd wedi cael prawf positif hunan-ynysu a chael prawf (oni bai bod ganddynt symptomau Covid) ac felly mae modd iddynt fynd i’r ysgol yn ôl yr arfer.

 

Tai ac Asedau

Eglurodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau) fod y pandemig yn parhau i effeithio ar incwm rhenti ac y byddai’r sefyllfa yn gwaethygu wrth i’r cynllun ffyrlo a rhagofalon eraill ddod i ben. Bydd y sefyllfa dan fygythiad pellach pan fydd taliadau ychwanegol Credyd Cynhwysol yn dod i ben a goblygiadau’r mesur ‘Lle i Anadlu’ yn dod i rym (oedi o 60 diwrnod ar holl weithgareddau credydwyr).

 

Mae nifer y bobl sy’n dweud eu bod yn ddigartref wedi cynyddu wrth i’r rhagofalon presennol o ran troi pobl allan a’r cynllun ffyrlo ddiweddu, ac mae landlordiaid yn cymryd camau i ddechrau a bwrw ymlaen ag achosion o droi allan a oedwyd.

 

Mae prinder o ddeunyddiau crai wedi arwain at gynnydd mewn costau, oedi i raglenni a mwy o anghydfodau gyda chontractwyr.Mae’r Cyngor yn parhau i chwilio am gyflenwyr eraill neu ganfod stoc a’i chadw at y dyfodol.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill sut mae’r Grant Caledi ar gyfer Tenantiaid yn cael ei hyrwyddo ymhlith landlordiaid preifat.Eglurodd y Prif Swyddog fod y grant yn cael ei hyrwyddo gan y Tîm Dewisiadau Tai a Fforwm Landlordiaid y Sector Rhentu Preifat.Bydd yn edrych i mewn i ddulliau eraill o’i hyrwyddo.Mewn ymateb i sylw gan y Cynghorydd Dunbar ar Gredyd Cynhwysol, dywedodd y Prif Swyddog fod y Cyngor yn ymwybodol o’r goblygiadau ac y bydd adroddiadau yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a’r Cabinet.

 

Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi

Eglurodd Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gadernid timau amrywiol yn sgil y galw digynsail ar wasanaethau yn ystod y pandemig.Mae achosion busnes yn cael eu paratoi i recriwtio i’r timau Gorfodi Cynllunio, Iechyd yr Amgylchedd, Draenio ac Amddiffyn Rhag Llifogydd ac Adfywio Canol Trefi. Mae’r Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd wedi gweld galw aruthrol ar adnoddau.

 

Darparodd ddiweddariad ar Archwiliad Cyhoeddus Cynllun Datblygu Lleol sydd wedi’i atal am y tro i ddelio â dau fater – safle strategol Warren Hall ym Mrychdyn a goblygiadau canllawiau newydd Cyfoeth Naturiol Cymru ar lefelau llygredd afonydd.Bydd y mater cyntaf yn cael sylw ar 8 Medi.Mae’r ail fater wedi arwain at lawer o waith ychwanegol.Y gobaith yw cyflwyno Datganiad Tir Cyffredin rhwng y Cyngor a Chyfoeth Naturiol Cymru i’r Archwiliad Cyhoeddus ym mis Hydref, a fyddai’n bodloni gofynion yr Arolygydd Cynllunio ac yn ei chaniatáu i gwblhau ei hadroddiadau.

 

Bydd yr adroddiadau yn cael eu cyflwyno i'r Gr?p Strategaeth Gynllunio ac i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi er mwyn cyflwyno manylion y system gefn swyddfa newydd.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Healey ar ymweliadau â safleoedd cynllunio, eglurodd y Prif Swyddog fod y broses bresennol wedi’i chreu o amgylch yr asesiad risg. Os nad yw’r swyddog cynllunio yn gallu derbyn y wybodaeth angenrheidiol yn defnyddio Google Maps neu Street View, yna byddai’n cynnal ymweliad safle ac yn tynnu lluniau.Yn y cyfarfod galw’r rhestr gynllunio gyda'r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd, caiff manylion ceisiadau y mae’r Aelod Lleol wedi gofyn am ymweliad safle eu darparu, ac mae’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn derbyn yr holl wybodaeth sydd wedi’i chasglu gan y swyddog achos. Os yw’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd yn teimlo bod digon o wybodaeth ar gael i'r Aelodau wneud penderfyniad, ni fyddai ymweliad safle yn cael ei drefnu.Os yw’r Aelodau, yn ystod cyfarfod y Pwyllgor, yn teimlo nad oes ganddynt ddigon o wybodaeth yna byddai modd gohirio’r eitem er mwyn cynnal ymweliad safle.Cytunwyd y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i'r Gr?p Strategaeth Gynllunio ar ymweliadau safle.

 

Gwasanaethau Cymdeithasol

Darparodd yr Uwch-Reolwr – Plant a’r Gweithlu fanylion ynghylch recriwtio staff i weithio yn y sector, sy’n cynnwys gwaith cymdeithasol, therapi galwedigaethol a gwaith cymdeithasol uniongyrchol. Eglurodd freuder y farchnad mewn perthynas â gofal nyrsio pobl h?n bregus eu meddwl a recriwtio staff, a chyllid a’r ffioedd sy’n gysylltiedig â sadrwydd y farchnad. Mae’r tair risg hon yn cysylltu’n agos iawn gyda’i gilydd ac mae nifer o ffrydiau gwaith yn cael eu gwneud, yn cynnwys penodi i swydd, cyllid grant i gefnogi dull sector cyfan ar gyfer recriwtio’r gweithlu uniongyrchol, a chefnogi darparwyr gofal i adolygu a chryfhau cynlluniau busnes.

 

Dywedodd y Cynghorydd Jones, pan fo prinder staff rheng flaen, bod nifer y pecynnau gofal yn cynyddu ar gyfer aelodau eraill o’r tîm ac felly gofynnodd sut mae hynny’n cael ei reoli. Eglurodd yr Uwch-Reolwr, o ran pobl sy’n derbyn ymweliadau gan ddau ofalwr, y byddant yn edrych ar sut i ddefnyddio technoleg i weld a oes modd defnyddio un unigolyn yn unig.Mae Cymorthyddion Gwasanaethau Plant wedi’u recriwtio ac ystyrir r?an sut mae modd iddynt wneud rhai tasgau gweithwyr cymdeithasol er mwyn rhyddhau ychydig o’u hamser.

 

Gofynnodd y Cynghorydd McGuill sawl myfyriwr gwaith cymdeithasol sy’n cael eu noddi gan y Cyngor.Dywedodd yr Uwch-Reolwr y byddai’n darparu ymateb ysgrifenedig i’r cwestiwn hwn.

 

Gwasanaethau Stryd a Chludiant

Eglurodd y Prif Weithredwr fod y gwasanaeth hwn wedi gweld cynnydd yn nifer y gweithwyr rheng flaen sy’n gorfod hunan-ynysu ac mae hynny, ynghyd â salwch cyffredinol a gwyliau blynyddol dros yr haf, wedi cael effaith ar ddarparu gwasanaeth effeithiol.

 

Nid yw’r gwasanaeth wedi llwyddo i fwrw ymlaen â phrosiectau gwella isadeiledd allweddol oherwydd diffyg gwytnwch staff, contractwyr a’r gadwyn gyflenwi.Hefyd, ni chafwyd cymeradwyaeth reoleiddiol i fwrw ymlaen â phrosiectau isadeiledd allweddol mewn modd amserol oherwydd oedi yn y broses ymgeisio.

 

            Cynigodd y Cynghorydd Jones yr argymhelliad yn yr adroddiad, yn ogystal ag ail argymhelliad yngl?n ag ymweliadau safle, ac fe eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Bateman.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r cynnydd mewn perthynas â meysydd risg y pum portffolio sydd wedi’u hamlygu gan y Pwyllgor eisoes;

 

(b)       Cyflwyno adroddiad i’r Gr?p Strategaeth Gynllunio i ystyried cynnal Ymweliadau Safle’r Pwyllgor Cynllunio unwaith eto.

Dogfennau ategol: