Agenda item

YMDDYGIAD GYRRWR CERBYD HURIO PREIFAT / HACNI (AR Y CYD) TRWYDDEDIG

I aelodau ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Hacni (ar y cyd) Trwyddedig o ran gwybodaeth ychwanegol a ddatgelwyd ar ei Uwch Dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar ddisgresiwn Prif Swyddog yr Heddlu.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad er mwyn ystyried ymddygiad Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd) mewn cysylltiad â gwybodaeth ychwanegol sydd wedi’i datgelu ar ei Dystysgrif Fanwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ôl disgresiwn Prif Swyddog yr Heddlu. Ar ôl ystyried yr adroddiad yn wreiddiol ar 1 Medi 2021, penderfynodd y panel ohirio’r gwrandawiad er mwyn caniatáu i ragor o wybodaeth fod ar gael er mwyn dod i benderfyniad a oedd deiliad y drwydded yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod y panel wedi cael rhagor o ddogfennau a ddarparwyd gan ddeiliad y drwydded cyn y cyfarfod ac wedi’u cyflwyno yn y  cyfarfod.  Roedd hyn yn cynnwys:

 

·         Llythyr gan ddeiliad y drwydded mewn perthynas â herio’r wybodaeth sydd wedi’i chynnwys ar ei dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

·         Llythyr gan ddeiliad y drwydded yn cyfeirio at baragraffau gwahanol yn yr adroddiad o’r gwrandawiad ar 1 Medi 2021.

·         E-bost a anfonwyd ymlaen gan ddeiliad y drwydded yn dangos gohebiaeth gyda’i Gyfreithiwr.

·         E-bost a anfonwyd ymlaen gan ddeiliad y drwydded yn dangos gohebiaeth flaenorol gyda’i Gyfreithiwr.

 

Gan ymateb i gwestiynau, dywedodd deiliad y drwydded ei fod wedi cael gwybod bod ei gynrychiolydd cyfreithiol wedi paratoi’r sail ar gyfer ei gais am adolygiad barnwrol yngl?n â’r datgeliad sy’n weddill ar ei dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Fodd bynnag, ni wnaed unrhyw gynnydd pellach, ac roedd deiliad y drwydded yn ceisio trefnu cyfarfod gyda’r cynrychiolydd cyfreithiol cyn talu’r ffioedd cyfreithiol. Mynegodd deiliad y drwydded ei bryderon yngl?n â’r diffyg ymateb gan y cwmni cyfreithiol yr oedd wedi’i ddewis.

 

Darllenodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu y rhannau o’r adroddiad a ychwanegwyd ers y gwrandawiad a ohiriwyd; sef paragraffau 1.13 i 1.16.

 

Gan ymateb i gwestiynau gan y Cyfreithiwr, cadarnhaodd deiliad y drwydded ei fod wedi oedi cyn cyflwyno ei dystysgrif gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i’r awdurdod trwyddedu gan ei fod â chywilydd o’r datgeliad ac yn bwriadu ei herio er mwyn ceisio ei ddileu o’r dystysgrif.

 

Dywedodd deiliad y drwydded ei fod, yn ei sylwadau i’r Heddlu, wedi nodi’r pwynt nad oedd unrhyw dystiolaeth i gadarnhau’r honiadau, ac eto roedd barn Prif Swyddog yr Heddlu yn diystyru hynny.  Roedd o’r farn bod hyn yn gynsail peryglus. Cyfeiriodd y Cyfreithiwr at y Canllawiau Datgelu Statudol, a’r angen i Brif Swyddog yr Heddlu eu hystyried (fel y nodwyd yn yr adroddiad) wrth ddatgelu gwybodaeth a ystyriwyd yn berthnasol. Derbyniodd deiliad y drwydded fod gan Brif Swyddog yr Heddlu ddisgresiwn o’r math hwn, ond dywedodd nad oedd y farn yn cael ei chefnogi gan dystiolaeth.

 

O ran ei gynrychiolwyr cyfreithiol, derbyniodd deiliad y drwydded nad oedd her gyfreithiol bresennol, ond dywedodd ei fod wedi ymrwymo i fwrw ymlaen gydag adolygiad barnwrol ac efallai y bydd yn ceisio defnyddio cwmni arall os bydd angen. Pan ofynnwyd iddo yngl?n â’r cyfnod o amser ers i dystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gael ei chyhoeddi, a’r diffyg amlwg gydag unrhyw her gyfreithiol, dywedodd deiliad y drwydded ei fod wedi bod yn ceisio ailadeiladu ei fywyd ac yn ansicr ar y pryd a oedd eisiau gyrru unwaith eto a herio’r datgeliad. Aeth ymlaen i egluro’r digwyddiad mewn perthynas â’i gyflogaeth blaenorol, a rannwyd o’r blaen, a oedd wedi cymryd amser hir i ddod i gasgliad.

 

Pan ofynnodd y panel yngl?n â geirdaon cymeriad, dywedodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu bod dau wedi’u darparu yn ystod cam cyntaf y cais.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod pob cwestiwn perthnasol wedi ei godi, gofynnodd i ddeiliad y drwydded ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod er mwyn galluogi’r panel i ddod i benderfyniad.

 

4.1       Penderfynu ar y Cais

 

Wrth benderfynu ar y cais, ystyriodd y panel y sylwadau, yn ysgrifenedig ac ar lafar, a wnaed gan ddeiliad y drwydded, y datgeliad a wnaed gan Brif Swyddog yr Heddlu, y Canllawiau Datgelu Statudol a Chanllawiau’r Cyngor am Ymdriniaeth ag Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill sydd wedi’u cofnodi. Ystyriwyd bod deiliad y drwydded yn gwadu unrhyw gamweddau troseddol, a nodwyd na chafwyd unrhyw euogfarn. Nid oedd y penderfyniad i gynnwys y wybodaeth gan Brif Swyddog yr Heddlu yn destun unrhyw her gyfreithiol ffurfiol. Ystyriwyd bod y wybodaeth yn ddifrifol ei natur, a phenderfynwyd y dylid ei hystyried wrth benderfynu a yw’r unigolyn yn gymwys ac addas. Rhoddodd y panel sylw arbennig i’r ystyriaeth bwysicaf i ddiogelu’r cyhoedd ac i arfer egwyddor ragofalus pan fo tystiolaeth i achosi amheuaeth sylweddol yngl?n ag addasrwydd deiliad y drwydded.

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a deiliad y drwydded i ddychwelyd i’r cyfarfod, fel bod modd ailgynnull.

 

4.2       Penderfyniad

 

Gofynnwyd i’r Cyfreithiwr ddarllen y penderfyniad a wnaed gan yr Is-bwyllgor, fel a welir isod.Cafodd deiliad y drwydded ei atgoffa gan y Cadeirydd, o’i hawl i apelio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Mae’r Is-bwyllgor o’r farn bod y wybodaeth a ddatgelwyd ar dystysgrif y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn berthnasol i asesu pa mor gymwys ac addas yw deiliad y drwydded.  Ar ôl ystyried yr holl wybodaeth a sylwadau perthnasol, nid yw’r Is-bwyllgor o’r farn y dylid ei ddiystyru.  Nodai’r Is-bwyllgor yr egwyddorion y mae’r Heddlu yn eu dilyn wrth ystyried a ddylai gwybodaeth o’r fath gael ei ddatgelu, ac mae hyn yn cynnwys ffactorau fel pa mor gredadwy a difrifol yw’r wybodaeth, ac er bod deiliad y drwydded wedi cyflwyno sylwadau i’r Heddlu yngl?n â chynnwys y wybodaeth yma, mae’r Heddlu wedi penderfynu y dylai aros, ac nid oes her gyfreithiol ar hyn o bryd.  Yn ôl pwysau tebygolrwydd, mae’r Is-bwyllgor felly wedi penderfynu nad yw deiliad y drwydded yn unigolyn ‘cymwys ac addas’, yn ôl Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 i barhau i ddal Trwydded Gyrrwr Cerbyd Hurio Preifat/ Cerbyd Hacni (ar y cyd) ac y dylid dirymu ei drwydded.