Agenda item

Proffil Risg Adferiad Corfforaethol

Pwrpas:        Adolygu’r Gofrestr Risg ddiweddaraf ar gyfer Adferiad Corfforaethol.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Perfformiad Strategol yr adroddiad a oedd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am Gofrestr Risgiau a Mesurau Lliniaru Adferiad Corfforaethol y Cyngor, a fanylir arnynt yn atodiadau 1 a 2 yr adroddiad.

 

Mae’r risgiau wedi’u rheoli’n dda drwy gydol y pandemig.Ar hyn o bryd mae 44.4% o’r risgiau yn wyrdd, 52.8% yn oren a 2.8% yn goch.

 

Mae 35 o’r risgiau eisoes wedi’u cau; 34 ohonynt oherwydd eu bod wedi cyrraedd y targed y gyfradd risg acun oherwydd ei bod yn ddyblygiad. Nid oes unrhyw risg i’w chau yn ystod yr adolygiad hwn.

 

Mae’r risgiau hirdymor yn cael eu rheoli.Mae dwy risg o'r mis blaenorol wedi'u cyfuno ac argymhellwyd bod risg CF14 yn cael ei thynnu o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol gan ei bod wedi’i chynnwys yng Nghofrestr Risgiau Tai ac yn cael ei hadrodd arni i'r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau, Tai ac Asedau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd McGuill ar effaith casglu trethi busnes pan fo busnesau wedi cau, awgrymodd y Prif Weithredwr fod yr Aelodau yn gofyn i’r Rheolwr Refeniw ddarparu adroddiad statws ar gyfer y sir gyfan sy'n nodi pa fusnesau sydd wedi cau/agor a'r effaith economaidd. Awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Rheolwr Refeniw yn cysylltu â’r Rheolwr Menter ac Adfywio i lunio’r adroddiad.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Dunbar a fyddai hyn, mewn perthynas ag CF08 a’r gostyngiad mewn cyfraddau casglu treth y cyngor, yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n gymwys i fod yn rhan o’r Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’r Cyngor yn cwrdd â’r galw am y Cynllun Gostyngiad gan ei fod yn ofyniad cyfreithiol.O ran Credyd Cynhwysol a diwedd y cynllun ffyrlo, holodd y Cynghorydd Dunbar a fyddent yn cael effaith ar drigolion.Dywedodd Prif Swyddog (Tai ac Asedau), os oes gan unrhyw Aelod etholwyr mewn trafferthion ariannol, bod cymorth ar gael iddynt.Dywedodd bod modd cysylltu â’r Tîm Lles sy’n cynnig cymorth gwych ac yn cyfeirio trigolion at gyllid sydd ar gael a chymorth priodol arall.Bydd yn anfon y manylion cyswllt at yr Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bateman, cytunwyd cynnwys y Tîm Tai ac Asedau yn yr adroddiad yngl?n â nifer yr unedau busnes sy’n cael eu defnyddio er mwyn darparu adroddiad llawn sy’n amlygu’r sefyllfa sy'n dod i'r amlwg.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Jones am y wybodaeth ddiweddaraf am risg CF10. Eglurodd y Prif Weithredwr fod hwn yn faes cyfnewidiol ond, ar adeg ysgrifennu’r adroddiad, dywedodd nad oedd y Cyngor yn cael ei gyfaddawdu mewn perthynas â chyflenwi nwyddau.Mewn ymateb i gwestiwn arall ar risg CW09, eglurodd y Prif Weithredwr fod hyn yn ymwneud â diffyg aelodau o staff Profi, Olrhain a Diogelu a’r angen i dynnu staff o feysydd gwasanaeth eraill.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Ian Dunbar yr argymhellion yn yr adroddiad, gan gynnwys yr argymhelliad ychwanegol ar adroddiad ar fusnesau ar draws Sir y Fflint, ac eiliwyd hynny gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r gofrestr risg ddiweddaraf a’r camau lliniaru o fewn y blaenoriaethau corfforaethol;

 

(b)       Tynnu CF14 o’r Gofrestr Risgiau Gorfforaethol;

 

(c)        Bod adroddiad statws ar fusnesau ar draws Sir y Fflint, yn cynnwys gwybodaeth am yr effaith economaidd, yn cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor.

Dogfennau ategol: