Agenda item

Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gefnogi Plant y Lluoedd Arfog Mewn Addysg

Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor ar sut mae ysgolion Sir y Fflint yn cefnogi plant y lluoedd arfog.

Cofnodion:

Cyn cyflwyno’r Adroddiad, croesawodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) Mr Peter Hawley o Ysgol Uwchradd Cei Connah i’r cyfarfod a oedd wedi’i wahodd i ddarparu gwybodaeth am ei rôl yn cefnogi Plant y Lluoedd Arfog yn yr ysgol.           

 

Cyflwynodd yr Uwch-Reolwr Gwelliant Ysgolion adroddiad i ddarparu trosolwg i’r Pwyllgor ar sut mae’r Portffolio Addysg ac Ieuenctid yn cefnogi ysgolion sydd gan ddisgyblion gyda phlant y lluoedd arfog. Yn ogystal, amlinellodd yr adroddiad sut mae’r cyllid i’r Cyngor wedi’i ddyrannu ar draws ysgolion Sir y Fflint a roedd gwaith yn cael ei gyflawni ochr yn ochr Cefnogi Plant Y Lluoedd Arfog mewn Addysg Cymru (SSCE) i gasglu data ar y nifer a lleoliad Plant Y Lluoedd Arfog yng Nghymru.

 

Eglurodd yr uwch-reolwr ers dechrau’r rhaglen yn 2014, roedd SCCE Cymru wedi gweithio fel rhan o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i gefnogi a darparu sail adnodd ar gyfer holl Awdurdodau Lleol ac ysgolion annibynnol yng Nghymru. Siarad gyda Plant y Lluoedd Arfog i gael dealltwriaeth o’u profiadau wedi galluogi darparu gwell gefnogaeth i’w helpu, a chadarnhaodd yr Uwch-Reolwr ei bod wedi eistedd ar Fforwm y Lluoedd Arfog Sir y Fflint ac wedi amlinellu meysydd lle roedd Sir y Fflint yn cael ei gynrychioli a oedd yn galluogi darparu’r gefnogaeth ac arweiniad orau i ysgolion gael symud ymlaen.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie i’r Uwch Reolwr am yr adroddiad. Cyfeiriodd at wefan SSCE Cymru a gofynnodd a oedd Sir y Fflint yn rhan o’r rhaglen Ysgolion Sy’n Cefnogi’r Lluoedd Arfog. Mewn ymateb, eglurodd yr Uwch-Reolwr bod nifer o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol ymrwymedig yn ceisio symud hyn ymlaen, a bod Ysgolion yn anelu i gael eu hadnabod am eu harferion da. Awgrymodd y bydd adroddiad arall i amlinellu’r camau blaenoriaeth i’r Ysgolion yn dilyn yr archwiliad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng ngwanwyn 2022.  

 

            Soniodd y Cynghorydd Tudor Jones am y ffordd yr oedd cyllid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn cael ei ddyrannu a’i ddosbarthu i ysgolion unigol, ac awgrymodd y bydd angen cyllid os bydd cynnydd yn y nifer o ddisgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol, neu unigolyn sydd â mwy o anghenion mewn un ysgol, lle’r oedd gofynion mewn ysgol arall wedi’i wrthod.Cytunodd yr Uwch-Reolwr i roi adborth ar yr awgrym hwn i SSCE Cymru yn dilyn y cyfarfod.

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Peter Hawley i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor. Rhoddodd Mr Hawley drosolwg o’i wasanaeth milwrol fel Uwch-ringyll gyda Chatrawd Swydd Efrog, ac ymddeolodd yn 2012 ar ôl 25 mlynedd o wasanaeth. Roedd wedi bod ar daith o amgylch y byd a roedd ei deithiau mwyaf diweddar yn Irac ac Affganistan.  Eglurodd yn ystod ei amser yn y fyddin, bod ganddo 60 o ddynion dan ei orchymyn a roedd wedi gweithio i sicrhau bod eu bywyd yn mynd rhagddynt mor esmwyth â phosib gan bod gan nifer ohonynt deuluoedd ifanc gartref tra roeddynt i ffwrdd yn brwydro.  Siaradodd am effaith ar ei deulu ei hun tra’r oedd yn y fyddin, a’r effaith ar ei blant pan roeddynt yn cael eu dysgu am ryfeloedd yn yr Ysgol. Siaradodd Mr Hawley am ei amser yn Ysgol Uwchradd Cei Connah yn egluro ei fod wedi gweithio fel technegydd o fewn yr Adran Beirianyddol. Eglurodd yn ystod ei amser yn cefnogi Plant y Lluoedd Arfog, roedd wedi siarad yn aml gyda’r plant ac wedi annog rhieni i gysylltu ag ef. Roedd wedi trefnu clybiau brecwast lle’r oedd milwyr wedi cael eu gwadd i siarad â’r plant am eu profiadau tebyg. Hefyd, soniodd am ei waith gwirfoddoli o fewn y gymuned gyda milwyr di-gartref a chodi arian ar gyfer elusen Minds at War.

 

            Diolchodd y Prif Swyddog Mr Hawley am ei bresenoldeb a’i gyflwyniad, a dywedodd nad oedd modd peidio cael eich cyffwrdd gan ei brofiadau, yn arbennig effeithiau ei wasanaeth milwrol ar ei deulu. Dywedodd bod hyn yn dangos pam bod y gwaith mewn Ysgolion yn bwysig i sicrhau bod y sgiliau angenrheidiol ar gael i gefnogi Plant y Lluoedd Arfog. Roedd yn ddiolchgar i Mr Hawley am y gefnogaeth yr oedd yn ei ddarparu i blant yng Nghei Connah.

 

            Dywedodd Arweinydd y Cyngor ei fod yn bleser gallu croesawu Mr Hawely i’r cyfarfod a dywedodd ei fod wedi cyfarfod Mr Hawley yn ystod ymweliad i’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Ysgol yn Ysgol Uwchradd Cei Connah. Soniodd am y gwaith pwysig y mae Mr Hawley yn ei gyflawni a diolchodd iddo am ei gwrteisi ac am roi o’i amser yn ymweld â’r Ysgol.

 

            Cytunodd nifer o Aelodau gyda sylwadau y Prif Swyddog ac Arweinydd y Cyngor, a diolchwyd i Mr Hawley am y gefnogaeth yr oedd yn ei ddarparu. Croesawodd y Cadeirydd y cyfle i ystyried y pwnc, nad oedd wedi’i gyflwyno eto i’r Pwyllgor yn flaenorol, a chanmolodd y Swyddogion Portffolio Addysg ac Ieuenctid am gyflwyno’r adroddiad a chodi proffil cefnogaeth i blant y lluoedd arfog.

 

            Awgrymodd Arweinydd y Cyngor, os caniateir, bod y Pwyllgor yn ymweld â’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Ysgol, gan ei fod wedi dysgu llawer ynghylch y cefnogaeth a ddarperir i Blant y Lluoedd Arfog wrth ymweld â’r Rhaglen. Awgrymodd yr Hwylusydd bod hyn yn cael ei ychwanegu i’r Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol gyda nodyn yn dweud, os caniateir y flwyddyn nesaf, bod rhai Aelodau o’r Pwyllgor yn mynychu’r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Ysgol.

 

            Awgrymodd bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at Mr Peter Hawley ac Ysgol Uwchradd Cei Connah yn diolch iddo am ei gyflwyniad ac am y gwaith sy’n cael ei gyflawni i gefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg, a bod y Cadeirydd y Cyngor yn ogystal yn ysgrifennu ar Mr Peter Hawley ac Ysgol Uwchradd Cei Connah yn diolch iddo am ei gyflwyniad. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Peter Hawley am fod yn bresennol.

 

Roedd yr argymhelliad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad, gan gynnwys yr argymhelliad ychwanegol i ysgrifennu at Mr Peter Hawley, wedi eu heilio gan y Cynghorydd Janet Axworthy a’r Cynghorydd Joe Johnson.  

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)   Bod y Pwyllgor yn nodi a chanmol cynnydd gwaith y Portffolio Addysg ac Ieuenctid i gefnogi ysgolion i fodloni anghenion Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg;

 

 (b)   Awgrymodd bod y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn ysgrifennu at Mr Peter Hawley ac Ysgol Uwchradd Cei Connah yn diolch iddo am ei gyflwyniad ac am y gwaith sy’n cael ei gyflawni i gefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg.

 

 (c)   Awgrymodd bod Cadeirydd y Cyngor yn ysgrifennu at Mr Peter Hawley ac Ysgol Uwchradd Cei Connah yn diolch iddo am ei gyflwyniad ac am y gwaith sy’n cael ei gyflawni i gefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg.

Dogfennau ategol: