Agenda item
Diweddariad Gweithredol Covid-19 i Ysgolion
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, Dydd Iau, 16eg Medi, 2021 2.00 pm (Eitem 20.)
- Cefndir eitem 20.
Darparu trosolwg i’r Pwyllgor o’r mesurau Covid-19 diwygiedig ar gyfer gweithredu ysgolion yn ddiogel.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad oedd yn manylu’r trefniadau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol yn ddiogel, fel yr amlinellwyd yn y Canllawiau Gweithredol Covid-19 diwygiedig gan Lywodraeth Cymru a Fframwaith Penderfyniad Haint Covid-19 Lleol.
Dywedodd yr Uwch-Reolwr (Gwella Ysgolion) yn dweud bod y Gweinidog Addysg wedi cynghori pob ysgol ar ddiwedd tymor yr haf mai’r
egwyddor arweiniol ar gyfer mis Medi oedd y dylent weithredu mor normal â phosibl gan gynnwys darparu brecwast am ddim a chlybiau ar ôl ysgol, gweithgareddau allgwricwlar a phynciau ymarferol. Roedd y canllawiau gweithredol manwl ar gyfer ysgolion wedi’i gwtogi ac yn cael ei ddisodli gan Fframwaith Penderfyniad Haint Covid-19 Lleol. Roedd y Fframwaith yn galluogi ymyrraeth i gael ei theilwra i lefel risg lleol a disgwylir i ysgolion newid i’r Fframwaith newydd hwn erbyn 20 Medi 2021.
Roedd pob ysgol yn Sir y Fflint wedi agor yn llwyddiannus ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd gydag ysgolion yn parhau i gael asesiadau risg manwl ar waith i sicrhau lefel o reolaeth addas. Mae’r rhain yn cael eu newid i alinio gyda’r Fframwaith newydd.
Roedd y Cadeirydd yn croesawu sylwadau a wnaed gan y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) mewn cyfarfod Pwyllgor Adferiad diweddar o amgylch y nifer isel o absenoldeb athrawon a staff cynorthwyol, oedd wedi bod yn gadarnhaol. Dywedodd ei fod yn bryderus yngl?n â disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol ond roedd yn falch bod y tymor wedi dechrau’n gadarnhaol.
Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie y dylai’r Pwyllgor ddangos ei werthfawrogiad o arweinyddiaeth yr ysgol, oedd wedi galluogi disgyblion i ddychwelyd i’r ysgol yn ddiogel. Dywedodd am ysgolion yn cymryd camau mwy trugarog er mwyn cefnogi dysgwyr yn ystod y pandemig ond teimlodd wrth symud ymlaen, roedd yn rhaid i ysgolion ailgyflwyno disyblaeth mewn ffordd ofalgar a chefnogi rhieni i sicrhau bod hyn yn digwydd. Roedd yr Hwylusydd wedi cadarnhau yn ystod y cyfarfod nesaf, byddai’r Pwyllgor yn darparu diweddariad ar lafar ar effaith yr oedd y pandemig wedi’i gael ar bobl ifanc yn arbennig ar eu hiechyd a lles a’u gallu i ymgysylltu a dysgu.
Roedd yr Uwch-Reolwr (Cynhwysiant a Chynnydd) wedi ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Mackie ac amlinellu bod ysgolion wedi gweithio’n galed iawn i hysbysu rhieni ar gyfyngiadau presennol Covid-19 mewn ysgolion. Rhoddwyd sicrwydd ar y mesurau ar waith mewn ysgolion i rieni hefyd. Roedd gwasanaethau ehangach y Cyngor hefyd wedi gweithio i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i rieni ar brosesau, gan ddarparu cyngor ar fudd-daliadau a chefnogaeth i gael mynediad i TG ar draws gwasanaethau’r Cyngor.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Gladys Healey at y pwysau ar blant a phobl ifanc oedd nawr yn cynnwys brechiad gyda’r cynnig i frechu plant 12 oed a h?n. Gan fod disgyblion nawr yn gallu rhoi eu cydsyniad eu hunain oedd hyn yn ychwanegu at eu pwysau. Mewn ymateb, dywedodd y Prif Weithredwr bod hyn yn gwestiwn moesegol yn cydbwyso hyn gyda’r Ddeddf Hawliau Dynol a Hawliau Cyfreithiol Plant. Ei ddealltwriaeth ef oedd mai’r brechlynwyr neu feddygon teulu fyddai’n penderfynu pa un a yw disgybl yn gallu rhoi cydsyniad. Roedd hyn y tu hwnt i reolaeth y Cyngor.
Mewn ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Mackie, awgrymodd y Cynghorydd Gladys Healey bod llythyr yn cael ei anfon i holl ysgolion gan y Cadeirydd, ar ran y Pwyllgor, yn diolch iddynt am eu gwaith caled i sicrhau bod disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol yn ddiogel. Cefnogwyd hyn gan y Pwyllgor.
Roedd yr argymhelliad fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Bob Connah a’r Cynghorydd Martin White.
PENDERFYNWYD:
Bod y Pwyllgor yn nodi’r trefniadau ar gyfer dychwelyd i’r ysgol yn ddiogel, fel yr amlinellwyd yn y Canllawiau Gweithredol Covid-19 diwygiedig gan Lywodraeth Cymru a Fframwaith Penderfyniad Haint Covid-19 Lleol.
Dogfennau ategol: