Agenda item

Adroddiad Diweddaru ar y Flaenoriaeth Dlodi

Pwrpas:        Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor yngl?n â chynnydd ar y blaenoriaethau Tlodi o fewn Cynllun y Cyngor.

Cofnodion:

            Diolchodd y Prif Weithredwr i Aelodau am fynychu’r cyfarfod arbennig i ystyried blaenoriaethau Cynllun y Cyngor ar thema tlodi.Roedd hyn wedi ei ailgyfeirio i’r pwyllgor hwn.   

            Cyflwynodd y Rheolwr Budd-daliadau yr Adroddiad yn rhoi’r Wybodaeth Ddiweddaraf am Flaenoriaeth Tlodi.Yn ystod ac yn dilyn y pandemig, roedd ymdrin â thlodi a’r rhai sy’n agored i niwed yn Sir y Fflint yn feysydd gwaith pwysig ac arwyddocaol.Rhoddodd wybodaeth fanwl yngl?n â sut yr ymdriniwyd â’r rhain o dan y pum thema allweddol sef:

·         Tlodi Incwm – a oedd yn cynnwys gwybodaeth ar y broses Fudd-daliadau, y Cynllun Taliadau Dewisol Tai, Clirio Ôl-Ddyledion Rhent, y Grant Caledi i Denantiaid, y Tîm Diwygio Lles a’r taliad Hunan-ynysu.

  • Tlodi Plant – a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Brydau Ysgol am Ddim, y Cynllun Grant Gwisg Ysgol a’r Broses Taliadau Uniongyrchol. 
  • Tlodi Bwyd – a oedd yn cynnwys gwybodaeth am Siop Fwyd Well-fed, Siop Symudol Well-fed a Llwglyd Dros y Gwyliau
  • Tlodi Tanwydd  
  • Tlodi Digidol – a oedd yn cynnwys gwybodaeth am y Cynllun Cefnogwr Digidol ac Allgáu Digidol

 

            Gwahoddodd y Cadeirydd yr Aelodau i holi cwestiynau.Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Shotton at y gostyngiad o £20 mewn taliadau Credyd Cynhwysol gan Lywodraeth y DU a gofynnodd a oedd hi’n hysbys beth fyddai’r effaith ar deuluoedd Sir y Fflint. 

            Ymatebodd y Rheolwr Budd-daliadau drwy sôn am y gwaith yr oedd ei thîm wedi ei wneud a bod Taliadau Dewisol Tai yn cael eu defnyddio i gefnogi’r teuluoedd hyn.Yn anffodus, fe fyddai yna effaith ar y teuluoedd hynny lle nad oedd costau tai yn cael eu cynnwys yn eu Credyd Cynhwysol gan y byddent yn colli £20 yr wythnos. Roedd yn anodd cyfrif yr effeithiau gan nad oedd y Cyngor yn gweinyddu taliadau Credyd Cynhwysol, ond roedd gwasanaethau cymorth yr Awdurdod yn cael ei hysbysebu mor eang â phosibl i amlygu’r cymorth sydd ar gael ar gyfer y teuluoedd hyn.  

            Yna gofynnodd y Cynghorydd Shotton lle'r oedd Siop Symudol Well-Fed wedi ei lleoli.Cadarnhawyd fod Siop Symudol Well-Fed wedi ei lleoli yng Nghegin Shotton gyda Siop Fwyd Well-Fed wedi ei lleoli yng Nghanolfan Gymunedol Woodside.

            Yna cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at gostau Gwisgoedd Ysgol a dywedodd fod gan yr ysgolion yr oedd yn ymwneud â hwy gynllun i ailddefnyddio gwisgoedd ysgol a oedd wedi eu rhoi gan rieni a gofynnodd a oedd y cynllun hwn yn cael ei gyflwyno yn holl ysgolion Sir y Fflint. 

            Sicrhaodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) aelodau fod y Cyngor yn annog ysgolion i ddilyn canllawiau Llywodraeth Cymru y dylai gwisgoedd ysgol fod yn hygyrch ac yn fforddiadwy.Roedd ysgolion yn hyrwyddo’r Cynllun Grant Gwisg Ysgol, a oedd hefyd yn cynorthwyo gyda darparu dillad chwaraeon, a gwisgoedd y brownis, cybiau a’r sgowtiaid.Dywedodd fod mapio cyflenwadau gwisg ysgol ar draws yr holl ysgolion wedi ei ohirio o ganlyniad i’r pandemig, ond y byddai’n cael ei drafod yng nghyfarfod Ffederasiwn y Penaethiaid yn nechrau Medi. Unwaith y bydd y wybodaeth hon ar gael, fe ellid sefydlu map o’r cyflenwadau a lle mae’r bylchau mewn darpariaeth ac yna gwneud gwaith i ddatblygu gwell model ac amlygu’r cynlluniau a oedd ar gael i deuluoedd.

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at bwynt 1.06 yn yr adroddiad sy’n sôn am y grant sydd ar gael o £200 i ddisgyblion Blwyddyn 7. Ceisiodd eglurhad ar gyfanswm y grant ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod yr Awdurdod Lleol, drwy’r consortiwm rhanbarthol, yn derbyn £125 ar gyfer pob plentyn sy’n derbyn gofal ym mhob blwyddyn o addysg orfodol.Roedd yna ymagwedd ranbarthol a gytunwyd yngl?n â sut yr oedd y cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio i gefnogi’r holl ddisgyblion sy’n derbyn gofal.

            Gofynnodd y Cynghorydd Richard Jones faint o deuluoedd oedd mewn tlodi yn Sir y Fflint a faint oedd y Cyngor yn eu cynorthwyo.Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod hyn yn anodd iawn i’w gyfrif gan nad oedd yr holl ddata yn cael ei gadw gan Sir y Fflint a bod yna sawl elfen iddo.Roedd yna wybodaeth am y nifer o bobl a oedd yn hawlio Gostyngiad yn Nhreth y Cyngor, Budd-dal Tai ond nid oedd unrhyw wybodaeth ar gael ar faint o bobl oedd yn hawlio Credyd Cynhwysol.

            Yn dilyn y gostyngiad yn y Grant Cynhwysol, gyda Thaliadau Dewisol Tai yn cael ei ddefnyddio i lenwi’r bwlch yn sgil y diffyg, gofynnodd y Cynghorydd Jones beth oedd yn digwydd i grant nad oedd yn cael ei ddefnyddio.Cadarnhaodd y Rheolwr Budd-daliadau fod grant yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cael ei dalu i’r Awdurdod drwy gydol y flwyddyn gydag unrhyw grant nad oedd yn cael ei ddefnyddio yn cael ei ddychwelyd, ond yn gyffredinol roedd yna orwariant. O ran cymorth Llywodraeth Cymru, roedd yr Awdurdod yn ysgwyddo’r gwariant ac yna yn hawlio hynny yn ôl.

            Ceisiodd y Cynghorydd Jones gael eglurhad ar sut yr oedd atgyfeiriadau yn cael eu gwneud i Siop Well-Fed a’r rhaglen Cymorth Bwyd Brys.Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau fod atgyfeiriadau yn cael eu gwneud drwy’r porth mewnol cefnogi pobl, y Tîm Diwygio Lles a’r Gwasanaethau Cymdeithasol. Ond gan fod hyn yn cael ei gyflwyno yn fwy eang byddai mwy o asiantaethau yn dod yn rhan o hyn. Ar unrhyw adeg gallai’r pwynt oedi gael ei effeithio gan ystod o resymau.Dyma pam roedd y cyngor yn darparu cymhorthdal am gyfnod byr, i alluogi ymgysylltu gyda gwasanaethau cefnogi.

            O ran effeithlonrwydd ynni yn y cartref, gofynnodd y Cynghorydd Jones faint o breswylwyr oedd wedi elwa hyd yma.Nid oedd gan y Rheolwr Budd-daliadau y wybodaeth honno wrth law, ond cytunodd i’w chylchredeg i aelodau.

            Ar dudalen 10 ar bwynt 1.09 dywedodd y Cynghorydd Jones fod y diffiniad ar gyfer Tlodi Digidol yn wahanol i Gynllun y Cyngor, oedd yn ei farn ef yn fwy priodol. 

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at dop tudalen 8 a gofynnodd am y diweddaraf ar y gwaith o ran mynediad am ddim i lyfrau, rhwydweithiau TGCh a dyfeisiau.Mewn ymateb cyfeiriodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) at adroddiad a oedd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant yn gynharach yn y flwyddyn ac a oedd yn rhoi gwybodaeth ar y Strategaeth Genedlaethol a’r arolwg o ddyfeisiau mewn ysgolion.Pan ddechreuodd y pandemig, roedd y dyfeisiau hyn yn cael eu cylchredeg yn gyflym i ysgolion a oedd yn gallu eu llogi i ddisgyblion nad oedd ganddynt eu dyfeisiau eu hunain gartref.  Roedd trwyddedau ar gyfer dyfeisiau Mifi yn cael eu prynu fel y gallai rhieni nad oedd ganddynt Wifi adref ddefnyddio’r rhain a hefyd roedd gliniaduron y cyngor a oedd wedi eu haddasu yn cael eu defnyddio. Roedd gwaith y Cyngor ei hun, yn ogystal â gwaith Sefydliad Neumark a chyfraniadau busnesau lleol yn sicrhau fod gan bob plentyn ym mhob ysgol fynediad i ddyfeisiau i gefnogi eu haddysg.  

            O ran y Cynllun Cefnogwr Digidol gofynnodd y Cynghorydd Jones beth oedd y rôl yma’n ei olygu a phwy fyddai’n elwa o’r rôl.Cadarnhaodd y Rheolwr Budd-daliadau y byddai hyn yn mynd yn fyw ym mis Medi/Hydref gyda’r nod o annog pawb i gefnogi cymdogion a phobl yn y gymuned i deimlo’n hyderus yn defnyddio platfformau digidol. 

            Ar Brentisiaethau dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod y Swyddog Hyfforddi Corfforaethol yn gobeithio eu datblygu a’u hannog i ddod yn Gefnogwyr Digidol o fewn y gymuned.Y nod oedd i ysbrydoli busnesau lleol eraill i gael mynediad i’r dudalen we a oedd yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau helaeth.Nid oedd y Cynghorydd Jones wedi sylweddoli mai prentisiaid yr Awdurdod a fyddai’n rhan o hyn a dywedodd nad oedd y Cynllun Cefnogwr Digidol yn disgrifio mewn ffordd eglur fod hyn â sail mwy cymunedol.Cadarnhaodd y Rheolwr Budd-daliadau y byddai’r holl wybodaeth yn cael ei rhoi ar y wefan pan fyddai’r Cynllun yn cael ei lansio a bod hyn yn ymagwedd gymunedol ar gyfer cyrraedd a chefnogi cynifer o bobl â phosibl.

            Canmolodd yr Arweinydd swyddogion y Cyngor a oedd yn ymwneud â’r strategaeth hon a dywedodd fod y gwaith wedi bod yn flaenllaw yn ystod y peilot ar gyfer Credyd Cynhwysol a’r cyfnodau anodd yn ystod y pandemig.Hefyd diolchodd i’r swyddogion a fu’n ymwneud â chefnogi digartrefedd. Cyfeiriodd at gyflwyno strategaeth i ysgolion a’r cyllid cenedlaethol a oedd yn cael ei ddal yng nghyllidebau ysgolion i gynorthwyo plant gyda’r addysg yr oeddent wedi ei golli neu ddiffygion a nodwyd.Diolchodd yr Arweinydd i’r holl swyddogion am ymateb i’r sefyllfa yn ystod y pandemig a chanmolodd y gefnogaeth gymunedol a ddarparwyd, a oedd yn ategu ac yn gwella gwaith y Cyngor.Ar ddechrau’r pandemig roedd gwirfoddolwyr wedi casglu presgripsiynau, siopa a chyflenwadau i gymdogion a oedd yn gwarchod eu hunain.Hefyd dywedodd fod y cynllun parseli bwyd yn Neuadd y Sir wedi bod yn olygfa drawiadol iawn i’w gweld.

            Wrth ymateb i’r Cynghorydd Richard Jones ar raddfa’r tlodi, eglurodd y Prif Weithredwr nad oedd yna un mesur unigol i nodi hyn a bod y ffigyrau cenedlaethol ar lefel y plant sy’n byw yn is na’r ffin tlodi wedi ei seilio ar incwm teuluoedd. Fodd bynnag, roedd yna nifer o fynegeion cefnogol a phenodol o dlodi.Roedd yr adroddiad hwn yn ymdrin ag agweddau o dlodi yr oedd gan y Cyngor beth dylanwad drostynt a lle y gallai weithredu gyda chefnogaeth partneriaid fel yr Adran Gwaith a Phensiynau, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint a Chyngor ar Bopeth. Nid oedd yn bosibl cymryd cyfrifoldeb cyffredinol dros dlodi.Cyfeiriodd at wasanaethau eraill a gaiff eu darparu fel yr Un Pwynt Mynediad, Ynysu Cymdeithasol a Thlodi Digidol, gan gydnabod fod hwn yn faes hynod o gymhleth.Roedd dod â ffrydiau gwaith ynghyd o rôl y Rheolwr Budd-daliadau gyda meysydd fel Tai, Budd-daliadau a Thlodi Bwyd a phortffolio’r Prif Swyddog ar gyfer addysg ac ysgolion yn allweddol i gael effaith.

            Gofynnodd y Cynghorydd Haydn Bateman beth oedd y gwahaniaeth rhwng Siop Symudol Well-Fed a Siop Fwyd Well-Fed.Cadarnhaodd y Rheolwr Budd-daliadau nad oedd y siop symudol yn wasanaeth am ddim ond trwy ymgysylltu gyda chymunedau gwledig byddai hyn yn galluogi i amrywiaeth o fwyd ffres gael ei gyflenwi am brisiau cystadleuol i rwydwaith ehangach. Roedd hon yn fenter newydd.

            Yna gofynnodd y Cynghorydd Jones i’r Cadeirydd a allai amserlenni gael eu hatodi gyda hyn a fyddai’n galluogi gwell dealltwriaeth ac yn galluogi holi cwestiynau.Eglurodd y Rheolwr Budd-daliadau nad adroddiad perfformiad oedd hwn ac ym mis Medi / Hydref byddai mwy o fanylion ar y ffrydiau gwaith yn dilyn ar gyfer Chwarter 1, gan gynnwys gwybodaeth fanwl ar gynnydd yn erbyn yr amserlen a'r targedau a oedd wedi eu gosod. Roedd yr adroddiad hwn yn cael ei ddarparu i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r pwyllgor ar thema Tlodi a galluogi Aelodau i ofyn cwestiynau.

            Gofynnodd y Cynghorydd Richard Lloyd lle fyddai’r siop symudol yn mynd, sut y byddai’n cael ei hysbysebu a ph’run ai a fyddai aelodau’r ward yn gallu darparu argymhellion.Dywedodd y Rheolwr Budd-daliadau fod rhai ardaloedd gwledig eisoes wedi eu nodi, ond cadarnhaodd y byddai’r holl awgrymiadau yn cael eu hystyried.Roedd Holway, Treffynnon yn cael ei ystyried gan nad yw’n agos i’r archfarchnadoedd prif ffrwd. Roedd yn fodlon derbyn unrhyw awgrymiadau gan Aelodau. Awgrymodd y Cynghorydd Lloyd Gyffordd yr Wyddgrug yn Saltney Ferry oherwydd y pellter o’r siopau a’r arosfannau bysiau i gyrraedd y siopau.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Paul Johnson at Werth Cymdeithasol, a’r effaith o ganlyniad i waith y Cyngor.

            Ymatebodd y Prif Weithredwr i’r Cynghorydd Jones ac awgrymodd y gallai adroddiadau chwarterol Cynllun y Cyngor gynnwys adroddiad ar wahân neu atodiad ar y thema Tlodi i alluogi aelodau i weld yr effaith a grëir.Cytunodd y Cadeirydd y byddai hyn yn ddefnyddiol iawn.

            Awgrymodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) y gallai straeon bywyd go iawn wedi eu hadrodd yn ddienw gael eu cynnwys gan y byddai’r rhain yn darparu tystiolaeth bwerus o’r ymyriadau cadarnhaol a oedd yn cael eu darparu drwy’r ffrwd waith tlodi a byddent yn amlygu sut roedd y rhain wedi newid bywydau pobl mewn dull cadarnhaol.Dywedodd y byddai rhoi rhai o’r straeon hyn mewn adroddiadau yn y dyfodol yn dod â nhw’n fyw.

            Cyfeiriodd y Cynghorydd Jones at yr argymhelliad gan ddweud fod ganddo ddiddordeb yn y niferoedd, byddai hyd yn oed ystadegau gan sefydliadau eraill yn darparu amcangyfrifiad o beth yw’r lefel tlodi yn Sir y Fflint.Byddai hyn yn galluogi’r Awdurdod i weld sut roedd yn perfformio ac yn ogystal â’r straeon bywyd go iawn byddai’n darparu sicrwydd fod yr holl bobl mewn angen yn cael eu cyrraedd.

            Adroddodd y Prif Weithredwr ar ddata cenedlaethol a allai gael ei ddefnyddio a'r Hunan Asesiad Lles Rhanbarthol fel cyfranwyr i ymchwil ar raddfa’r tlodi.  

Ar ddiwedd y drafodaeth awgrymodd Pennaeth y Gwasanaethau Democrataidd fod yr argymhelliad yn cael ei ddiwygio i adlewyrchu trafodaethau a gwerthfawrogiad y Pwyllgor yn well.

Cafodd yr argymhelliad diwygiedig ei dderbyn a chafodd ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Richard Lloyd.

PENDERFYNWYD:

Fod y Pwyllgor yn mynegi ei werthfawrogiad o’r gwaith a wnaed ym mhob un o’r meysydd blaenoriaeth o ran tlodi a’i fod yn diolch i bawb a fu’n ymwneud â hyn.

 

Dogfennau ategol: