Agenda item

Y diweddaraf ar Brosiect Hwb Hydrogen Glannau Dyfrdwy

Yn dilyn cais gan y Pwyllgor ym mis Chwefror 2021, mae'r adroddiad hwn yn rhoi diweddariad ar y gwaith a wnaed hyd yma gan Jacobs i ddatblygu Achos Busnes Strategol ar gyfer hwb hydrogen newydd yng Nglannau Dyfrdwy ac yn ceisio sylwadau gan yr Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sydd wedi’i wneud gan Jacobs hyd yma i ddatblygu Achos Busnes Strategol ar gyfer hwb hydrogen newydd yng Nglannau Dyfrdwy. Rhoddodd wybodaeth gefndir a dywedodd fod y rhaglen ynni carbon isel yn cynnig cyfle i sefydlu Gogledd Cymru fel lleoliad blaenllaw ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel yn y DU. Dywedodd fod y Fargen Dwf, sydd ar gyfer rhanbarth Gogledd Cymru i gyd, wedi neilltuo £11.4 miliwn ar gyfer prosiect Hwb Hydrogen Glannau Dyfrdwy.Er mai Sir y Fflint yw canolbwynt prosiect yr Hwb Hydrogen, mae’n cynnig cyfleoedd enfawr i bob rhan o Ogledd Cymru.  Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y pwyntiau allweddol fel sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad. 

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at destun cerbydau trydan a gafodd ei drafod yn ystod y cyfarfod ac oherwydd y gwaharddiad ar werthu ceir a faniau petrol a diesel newydd yn 2030 mae cerbydau trydan yn cael eu hyrwyddo a byddai hyn yn chwarae rhan bwysig yn nyfodol cludiant. Dywedodd fod cynllun pontio yn cael ei ddatblygu, yn dilyn y strategaeth a luniwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer trydan a gwefru cerbydau, ac mae’r Awdurdod yn gweithio’n agos gyda thimau ynni Llywodraeth Cymru ar sut i’w roi ar waith.

 

Wrth ymateb i sylwadau’r Cynghorydd Paul Shotton i gefnogi manteision y prosiect hydrogen, dywedodd y Prif Swyddog fod y rheolwr prosiect wedi cysylltu â nifer o ddiwydiannau/busnesau lleol i drafod sut gallen nhw fod yn rhan ohono yn y dyfodol. Dywedodd fod yr achos busnes strategol ar hyn o bryd yn asesu’r galw am hydrogen ar draws y rhanbarth a dywedodd fod angen datblygu isadeiledd i roi hyder i gwmnïau fuddsoddi mewn cerbydau. Wrth ymateb i’r sylwadau pellach gan y Cynghorydd Shotton, dywedodd y Prif Swyddog mai dim ond hydrogen “gwyrdd” sy’n cael ei ystyried ar hyn o bryd, wedi dweud hynny, mae potensial i ddefnyddio hydrogen “glas” i ddechrau ac yna symud ymlaen at yr un “gwyrdd” ac mae hyn yn cael ei ystyried.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Glyn Banks at y cynnig i greu hwb hydrogen yng Nglannau Dyfrdwy (y cyfeirir ato fel cyfleuster cyflenwi hydrogen mewn bynceri) a gofynnodd a ellid adeiladu un mwy, o dan y ddaear.  Esboniodd y Prif Swyddog y byddai maint y byncer yn dibynnu ar y galw, sy’n anhysbys ar hyn o bryd, ond byddai’n dod yn amlwg wrth i’r achosion busnes gael eu datblygu. Ymatebodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r cwestiwn arall a godwyd gan y Cynghorydd Banks ynghylch defnyddio hydrogen “glas” a “gwyrdd” ac esboniodd y gwahaniaeth rhwng y ddau. Dywedodd mai’r hydrogen “gwyrdd” sy’n cael ei ffafrio ar gyfer prosiect Glannau Dyfrdwy gan nad yw’n cynhyrchu’r isgynnyrch carbon sydd angen ei storio neu ei symud i rywle arall.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Paul Shotton a Joe Johnson.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cefnogi’r gwaith sydd wedi ei wneud hyd yma mewn partneriaeth â Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru i ystyried y dewisiadau ar gyfer hwb ynni hydrogen yng Nglannau Dyfrdwy.

 

Dogfennau ategol: