Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21(Mis 9) a Rhaglen Gyfalaf (Mis 9)

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 9) ac Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 9) ac amrywedd sylweddol i’r Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwyr Cyllid Corfforaethol adroddiadau ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai ym Mis 9, a sefyllfa’r Rhaglen Gyfalaf 2021/22 cyn i’r Cabinet eu hystyried.

 

Monitro’r Gyllideb Refeniw

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa ddisgwyliedig ar ddiwedd y flwyddyn yn golygu fod yna £1.537m dros ben (ac eithrio effaith y dyfarniad cyflog a fyddai’n dod o’r cronfeydd wrth gefn), oedd yn adlewyrchu symudiad ffafriol o £0.821m o fis 8.  Byddai hyn yn gadael balans wrth gefn at raid ar ddiwedd blwyddyn o £7.407m.  Roedd yr adroddiad yn cynnwys manylion yr amrywiant o fis 8 yn cynnwys symudiadau sylweddol yn y portffolios Tai ac Asedau a Chynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi. Roedd y wybodaeth ddiweddaraf am y risgiau yn y flwyddyn yn cynnwys cadarnhad o gais ôl-weithredol a gymeradwywyd i Lywodraeth Cymru am gostau yn dilyn Storm Christoph. O ran risgiau eraill a nodwyd, adroddwyd ar y sefyllfa ddiweddaraf ar gyllid argyfwng a chynnydd â cheisiadau grant Colli Incwm. Roedd yr adolygiad o gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd wedi golygu fod £0.585m wedi cael ei ryddhau yn ôl i’r cronfeydd arian at raid a byddent yn parhau i gael eu monitro.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.437m yn gadael balans terfynol heb ei glustnodi o £4.035m, a oedd yn uwch na’r canllawiau ar wariant a argymhellir.

 

Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones nad oedd yr amrywiant sylweddol yn yr adroddiad yn adlewyrchu’r newidiadau a gymeradwywyd i’r gyllideb.  Eglurodd swyddogion nad oedd trosglwyddiadau cyllidebol rhwng portffolios yn effeithio ar yr amrywiadau ac y gellid darparu dadansoddiad o symudiadau rhwng portffolios ar gyfer cyllidebau cymeradwy, gydag eglurhad.

 

Holodd y Cynghorydd Haydn Bateman am y cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar gyfer Statws Sengl/Cyflog Cyfartal a chafodd wybod, yn dilyn ei weithredu, bod cronfeydd wrth gefn  wedi cael eu clustnodi i ddelio ag unrhyw gostau gwaddol neu gostau cyffredinol y gweithlu. 

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Roedd y sefyllfa gryno ym mis 9 yn dangos cyllideb ddiwygiedig o £81.588m gan ystyried y symiau dwyn ymlaen cytunedig, newidiadau yn ystod y cyfnod ac arbedion a drosglwyddwyd yn ôl i mewn. Roedd y prif newidiadau wedi codi o gynnydd mewn cyllid grant fel y dangoswyd yn yr adroddiad.  Roedd gwariant cyfalaf o gymharu â'r gyllideb yn dangos tanwariant rhagamcanol o £1.206m ar Gronfa'r Cyngor a bydd argymhelliad bod hwn yn cael ei ddwyn ymlaen ar gyfer cwblhau cynlluniau yn 2022/23.  Ni nodwyd dyraniadau ychwanegol ac adroddwyd ar arbediad o £0.386m ar Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl. Roedd y sefyllfa gyllido gyffredinol ym mis 9 yn dangos gwarged rhagamcanol diwygiedig yn y Rhaglen Gyfalaf o £4.904m a oedd yn gynnydd o £0.757k o’r chwarter diwethaf. Roedd ffigurau dangosol dros dro Setliad Llywodraeth Leol yn adlewyrchu cynnydd a amcangyfrifir mewn cyllid o £0.786m dros y cyfnod tair blynedd cymeradwy o’i gymharu â’r Rhaglen Gyfalaf a gymeradwywyd ym mis Rhagfyr, gan arwain at ddiffyg o £0.081m yn Rhaglen y flwyddyn nesaf. Cadarnhawyd hefyd y byddai Sir y Fflint yn cael cyllid grant ychwanegol o £3.1m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi’r Rhaglen Gyfalaf.

 

Holodd y Cynghorydd Richard Lloyd am y sail resymegol dros y dadansoddiad o ardaloedd a ddangosir yn Nhabl 6 ar fuddsoddiad yn nhrefi’r sir.  Eglurodd y Prif Weithredwr fod yr ardaloedd wedi cael eu newid a’u cytuno arnynt yn flaenorol gan Aelodau i adrodd ar lefelau buddsoddi ar draws ardaloedd daearyddol eang y Cyngor.

 

Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Paul Shotton ac fe’u heiliwyd gan y Cynghorydd Richard Jones.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (Mis 9) fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet; ac

 

(b)       Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Rhaglen Gyfalaf 2021/22 (Mis 9) fod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oes unrhyw faterion penodol i’w codi gyda’r Cabinet.

Dogfennau ategol: