Agenda item

Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21(Mis 4) a Rhaglen Gyfalaf (Mis 4)

Pwrpas:        Pwrpas yr adroddiad hwn yw darparu Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 (Mis 4) ac Adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2020/21 (Mis 4) ac amrywedd sylweddol i’r Aelodau.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol a Rheolwr Cyllid eu hadroddiadau ar sefyllfa Mis 4 2021/22 ar gyfer Monitro Cyllideb Refeniw a Monitro Rhaglen Gyfalaf cyn cael ei ystyried gan y Cabinet.

 

Monitro Cyllideb Refeniw

 

Roedd yr adroddiad yn ystyried y sefyllfa ddiweddaraf ar hawliau a wnaethpwyd i gronfa galedi Llywodraeth Cymru (LlC) a fyddai wedi bod yn hanfodol yn ystod y cyfnod o argyfwng.

 

O ran Cronfa’r Cyngor, roedd y sefyllfa a ragwelwyd ar ddiwedd y flwyddyn - heb unrhyw gamau gweithredu newydd i ostwng pwysau costau a/neu i wella’r elw o gynllunio effeithlonrwydd a rheoli cost - yn ddiffyg gweithredol o £0.739m miliwn (gan eithrio’r effaith y dyfarniad cyflog i’w fodloni gan y cronfeydd wrth gefn). Byddai’r sefyllfa yn gadael balans cronfa hapddigwyddiad o £5.057m ar ddiwedd y flwyddyn. Roedd rhesymau dros y sefyllfa a ragwelwyd a nodwyd yn yr adroddiad ac yn cynnwys amrywiant sylweddol yng Ngwasanaethau Plant, Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, Gwasanaethau Stryd a Chludiant.

 

Rhoddwyd diweddariad ar y risgiau ariannol allweddol (gan gynnwys sefyllfa well ar gyfraddau casglu Treth Y Cyngor), cyflawniadau o arbedion effeithlonrwydd a gynlluniwyd yn ystod y flwyddyn, a’r sefyllfa o ran yr arian wrth gefn a balansau a nodwyd yn yr adroddiad. Ar gronfeydd wrth gefn na glustnodwyd, nodwyd bod £2.1m o gyllid argyfwng Covid-19 yn parhau ar hyn o bryd yn dilyn dyraniad o £0.900m ar gyfer hawliau grantiau anghymwys sy’n berthnasol i Covid-19.  Roeddynt yn aros am wybodaeth ar Gyllid Adfer Gofal Cymdeithasol LlC a fyddai’n gwneud iawn i ychydig o’r pwysau presennol o ran costau o fewn y portffolio hwn.  Bydd diweddariad yn cael ei ddarparu yn yr adroddiad ar gyfer Mis 5.

 

O ran y Cyfrif Refeniw Tai, byddai gorwariant arfaethedig o £0.495m miliwn yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo o £3.978m miliwn, a oedd yn uwch na’r canllawiau a argymhellwyd ar wariant.

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau gan y Cynghorydd Haydn Bateman, rhoddodd y swyddogion gadarnhad ar feini prawf cyllid Colli Incwm ar gyfer taliadau meysydd parcio.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Geoff Collett am ddadansoddiad pellach ar y gorwariant o £1.008m yn y Gwasanaethau Plant a dealltwriaeth a oedd disgwyl i’r pwysau hyn barhau. Cytunodd y Rheolwr Cyllid i gysylltu gyda chydweithwyr yn yr Adran Gofal Cymdeithasol i ddarparu ymateb i’r Pwyllgor.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Geoff Collett a Haydn Bateman.

 

Rhaglen Gyfalaf

 

Y cyfanswm ar gyfer y rhaglen ddiwygiedig ar gyfer 2021/22 oedd £77.136 miliwn, gan ystyried bod yr holl symiau a ddygwyd ymlaen ac arbedion yn trosglwyddo’n ôl i’r rhaglen.  Roedd newidiadau yn ystod y chwarter olaf yn bennaf oherwydd cyflwyno ffrydiau ariannu grant ac ailbroffilio’r gyllideb.

 

Roedd y sefyllfa canlyniad arfaethedig yn £72.837m a oedd yn golygu tanwariant o £4.299 miliwn i Gronfa'r Cyngor a argymhellwyd i’w barhau ar gyfer cwblhau cynlluniau 2022/23. Cafwyd crynhoad o'r dyraniadau ac arbedion ychwanegol a nodwyd yn y chwarter hwn ynghyd ag arian dros ben arfaethedig cyffredinol o £2.795 miliwn ar gyfer y rhaglen tair blynedd cyn cyflawni derbyniadau cyfalaf ychwanegol neu ffynonellau cyllid a nodwyd yn ystod y flwyddyn.

 

Cafodd yr argymhelliad ei gynnig a’i eilio gan y Cynghorwyr Haydn Bateman ac Andy Williams.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2021/22 (mis 4), bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet a

 

 (b)      Ar ôl ystyried Adroddiad Monitro y Rhaglen Cyfalaf 2021/22 (mis 4), bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd unrhyw faterion penodol y mae’n dymuno eu codi yn y Cabinet.

Dogfennau ategol: