Agenda item
Adroddiad Blynyddol gan y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol, GwE
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant, Dydd Iau, 1af Gorffennaf, 2021 2.00 pm (Eitem 9.)
- Cefndir eitem 9.
Pwrpas: Derbyn diweddariad ar y gefnogaeth gan y gwasanaeth gwella effeithlonrwydd ysgolion rhanbarthol, GwE a'i effaith i’r ysgolion.
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan Uwch-Reolwr Gwella Ysgolion ac roedd yn cynnwys trosolwg o’r gefnogaeth a roddir gan y Gwasanaeth Gwella Ysgolion Rhanbarthol (GwE) a’u hadroddiad blynyddol yngl?n â’u gwaith ar draws y gogledd.Cyfeiriodd yr Uwch-Reolwr at y gwaith yn ystod y pandemig, a oedd yn cynnwys dysgu o bell a dysgu cyfunol, cymorth ac arweiniad i ysgolion a’r diwygio cenedlaethol a’r cwricwlwm newydd, a diolchodd iddynt am gefnogi ysgolion Sir y Fflint.
Darparwyd yr adroddiad a’r cyflwyniad gan MrMartyn Froggett, Arweinydd Craidd Uwchradd Sir y Fflint a MrDavid Edwards, Arweinydd Craidd Cynradd Sir y Fflint ac roeddynt yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gefnogaeth a ddarparwyd a’i heffaith ar ysgolion.
Roedd y cyflwyniad yn cynnwys gwybodaeth fanwl ar:
- Y gefnogaeth gyffredinol a ddarparwyd i ysgolion a’r Awdurdod Lleol ers mis Ionawr
- Cymorth a ddarparwyd i ysgolion yn dilyn argymhellion Estyn ar ddiwedd yr adolygiad thematig
- Cynllunio a chymorth i ysgolion roi Cwricwlwm i Gymru ar waith ym mis Medi
Diolchodd y Cynghorydd Mackie i’r swyddogion am yr adroddiad.Gwnaeth sylwadau ar gynnwys yr adroddiad a’r wybodaeth, megis nifer yr ymweliadau ysgol a gofynnodd beth oedd pwrpas yr ymweliadau hyn.Gofynnodd hefyd am adborth cyffredinol gan bobl sydd wedi bod ar gyrsiau, gwybodaeth am ddysgu proffesiynol a nifer y swyddogion o Sir y Fflint sy’n cymryd rhan a’u hadborth, a sut mae datblygiad rhaglen Sir y Fflint yn cymharu â rhaglenni awdurdodau eraill y gogledd.
Mewn ymateb, dywedodd yr Uwch-Reolwr mai hwn oedd Adroddiad Blynyddol Gogledd Cymru GwE a chytunodd fod rhai elfennau o’r adroddiad wedi'u cyflwyno i’r Pwyllgor yn barod ond bod y sleidiau yn darparu gwybodaeth gadarnhaol ar sefyllfa ddiweddar ysgolion.Fel gyda mesuryddion perfformiad eraill, mae adrodd cenedlaethol a chanlyniadau’r system arholi wedi’u hatal a’r ffocws wedi’i roi ar gefnogi i sicrhau bod darpariaeth yn ei lle.
Roedd yr Arweinydd Craidd Uwchradd yn deall sylwadau’r Cynghorydd Mackie ond dywedodd nad oedd y data arferol ar gael i’w gyflwyno a bod lles wedi bod wrth wraidd eu dull ar gyfer ysgolion.Cadarnhaodd fod data ar gael ar y cyrsiau a ddarparwyd a’r hyn sy’n digwydd yn Sir y Fflint.Cytunodd, i’r dyfodol, y byddai’r wybodaeth hon yn cael ei chynnwys yn yr adroddiadau o safbwynt Sir y Fflint ac er mwyn cymharu ac ychwanegodd y bydd gwybodaeth am gyfranogiad y gweithdai Cwricwlwm i Gymru ar gael yn fuan a bod modd cynnwys y wybodaeth honno hefyd.Cytunodd yr Arweinydd Craidd Cynradd gyda’r sylwadau a dywedodd nad oes data cadarn ar gael ar y funud oherwydd y pandemig, ond y byddai’n cael ei gynnwys pan fydd data cadarnach ar gael.Adroddodd ar y rôl weinyddol newydd ar gyfer rhaglenni arweinyddiaeth a fydd yn gyfrifol am wahanu’r data ar gyfer bob awdurdod lleol er mwyn ei gyflwyno i bwyllgorau.Mae penaethiaid wedi derbyn cymorth gyda’r adroddiadau hunanwerthuso gan fod ysgolion wedi bod dan lawer o bwysau a phenaethiaid yn brin o amser i fyfyrio ar y pethau cadarnhaol a’r meysydd i’w gwella.
Canmolodd y Cadeirydd y ffordd effeithlon y mae GwE wedi darparu cymorth i ysgolion a dywedodd ei fod yn falch o weld newidiadau cadarnhaol mewn addysg gyda lles yn cael ei roi wrth wraidd pethau, sydd yn ei farn ef yn bwysig i sicrhau bod ysgolion yn derbyn y cymorth cywir.
Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oes gwybodaeth yngl?n â faint o benaethiaid a staff addysg a ddaliodd Covid-19 a’r niferoedd sy’n dioddef o Covid hir gan nad oes gan y gogledd glinig Covid hir.Mae’r sefyllfa yn yr ysgolion yn anrhagweladwy a theimlodd y Cynghorydd Healey y dylai pob disgybl dderbyn brechlyn er mwyn mynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth.
Mewn ymateb, dywedodd Arweinydd y Cyngor fod hwn yn fater i’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu.Cadarnhaodd fod penaethiaid, GwE a’r Cyngor wedi llwyr gefnogi ysgolion a bod y cynnydd yn nifer yr achosion, fwy na thebyg, yn ganlyniad i ddigwyddiadau y tu allan i'r ysgol.Canmolodd y ffordd y mae swyddogion GwE a Sir y Fflint wedi cefnogi ysgolion drwy gydol y pandemig, sydd wedi galluogi’r ysgolion i barhau i berfformio i safon uchel.
Cafodd yr argymhelliad, fel y nodir yn yr adroddiad, ei gynnig gan y Cynghorydd Martin White a’i eilio gan y Cynghorydd Ian Smith.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y Pwyllgor yn derbyn Adroddiad Blynyddol GwE; ac yn
(b) Nodi’r effaith gadarnhaol y gwasanaeth rhanbarthol wrth gefnogi ysgolion Sir y Fflint yn ystod y pandemig a’u paratoadau i weithredu’r Cwricwlwm i Gymru.
Dogfennau ategol:
- Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE, eitem 9. PDF 97 KB
- Enc. 1 for Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE, eitem 9. PDF 417 KB
- Enc. 2 for Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE, eitem 9. PDF 1 MB
- Enc. 3 for Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE, eitem 9. PDF 478 KB
- Enc. 4 for Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE, eitem 9. PDF 1 MB
- Enc. 5 for Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE, eitem 9. PDF 61 KB
- Enc. 6 for Annual Report from Regional School Improvement Service, GwE, eitem 9. PDF 6 MB