Agenda item

Gwasanaethau Iechyd Meddwl Sir y Fflint

Tynnu sylw at yr heriau sy’n wynebu gwasanaethau iechyd meddwl a’r effaith y mae Covid 19 yn ei gael ar iechyd meddwl y boblogaeth leol.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr - Gwasanaethu Integredig ac Arweinydd Oedolion; adroddiad i dynnu sylw at yr heriau a wynebwyd yn y Gwasanaethu Iechyd Meddwl ac effaith Covid-19 ar iechyd meddwl y boblogaeth leol. Rhoddodd wybodaeth gefndir ac adroddodd fod ymarferwyr lleol, ar draws y timau iechyd meddwl amlddisgyblaethol yn Sir y Fflint, mewn iechyd, gofal cymdeithasol a’r sector gwirfoddol wedi gweithio’n gydweithredol. Gyda’r gwaith hwn ochr yn ochr â buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y Rhaglen Drawsnewid Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, roedd cyfleoedd i ddatblygu gwasanaethau yn lleol a oedd yn ataliol, ac yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar a chydnerthu cymunedol a ddylai arwain at well deilliannau i’r boblogaeth leol a lleihau’r angen am wasanaethau statudol.

 

Cyflwynodd y Rheolwr Gwasanaeth - Anabledd Adferiad a Dilyniant y prif ystyriaethau yn yr adroddiad a oedd yn rhoi diweddariad ar wasanaethau iechyd meddwl yn Sir y Fflint mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a phartneriaid lleol y trydydd sector. Dywedodd fod gwybodaeth ychwanegol ar y gwasanaethau sy’n helpu iechyd meddwl a lles ynghlwm wrth yr adroddiad fel atodiad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Swyddogion am adroddiad cynhwysfawr ac awgrymodd fod yr wybodaeth ychwanegol a atodwyd at yr adroddiad yn cael ei chynnwys ar wefan y Cyngor i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Cytunwyd hefyd anfon copi o’r llawlyfr hyfforddiant Dysgu Er Adferiad a Lles yn Sir y Fflint a dolen i wefan y rhaglen Les i holl Aelodau’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.

 

Roedd y Cynghorydd Dave Mackie yn gefnogol i’r gwasanaethau niferus yn yr adroddiad sy’n rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i helpu pobl i gael mynediad at yr opsiynau sydd ar gael iddyn nhw. Roedd y Cynghorydd Paul Cunningham hefyd yn canmol yr agwedd ragweithiol a’r cynlluniau a roddwyd ar waith gan y Cyngor i hybu materion iechyd a lles meddyliol a diolchodd i’r Swyddogion am eu gwaith.

 

Soniodd y Cynghorydd Gladys Healey am broblem iechyd meddwl a gorbryder ymhlith pobl ifanc ac oedolion a holodd faint o seiciatryddion a seicolegwyr oedd ar gael yn Sir y Fflint. Ymatebodd yr Uwch Reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion; i’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Healey ac eglurodd fod rhestr aros am seicoleg, a chyfeiriodd at recriwtio, cyllid newydd i iechyd meddwl, ac asesiad newydd o anghenion a fyddai’n dangos yr angen am fwy o gyllid a chefnogaeth i iechyd meddwl. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth – Anabledd Adferiad a Dilyniant fod tri thîm iechyd cymunedol yn y Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion gyda seiciatryddion a seicolegwyr ym mhob tîm ac eglurodd fod y galw ar y gwasanaethau yn uchel iawn. Roedd seiciatryddion a seicolegwyr i blant wedi’u lleoli yn y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (CAMHS) a hefyd Darpariaeth Gwasanaeth Glasoed Gogledd Cymru.

 

Mewn ymateb i sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Gladys Healey, cytunwyd ysgrifennu llythyr at Lywodraeth Cymru i ofyn a fyddai cyfran o’r cyllid ychwanegol a ddarperir i Fyrddau Iechyd ar draws Cymru yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddarparu gwasanaethau cymorth iechyd meddwl ac a fyddai cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu’n benodol i fynd i’r afael â phroblemau iechyd meddwl oedd yn deillio o ganlyniad i’r pandemig. Hefyd i ofyn faint o seiciatryddion plant ac oedolion oedd yn gweithio ledled Cymru ac a oedd unrhyw bryderon am recriwtio a chadw’r rheiny.

 

Cynigiwyd derbyn yr argymhellion yn yr adroddiad gan y Cynghorydd Paul Cunningham ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Mike Lowe.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Fod y Pwyllgor yn nodi’r heriau a wynebir o fewn y gwasanaethau iechyd meddwl a’r effaith yr oedd Covid-19 yn ei gael ar iechyd meddwl y boblogaeth leol; a

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn nodi’r ddarpariaeth bresennol sydd yn ei lle i gefnogi anghenion eu hetholwyr lleol.

 

Dogfennau ategol: