Agenda item

Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd

Cael y wybodaeth ddiweddaraf am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn rheoli gwaith cynnal a chadw eu priffyrdd er mwyn bodloni eu rhwymedigaethau statudol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydwedd a Chludiant) yr adroddiad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor ac egluro sut mae’r Cyngor yn defnyddio egwyddorion y Cynllun i arwain y strategaeth ar gyfer rheoli a chynnal a chadw isadeiledd priffyrdd.   Rhoddodd yr adroddiad y wybodaeth ddiweddaraf hefyd ar dreialu’r defnydd o ddeunydd eildro yn y deunydd ail-wynebu priffyrdd.

 

                        Rhoddodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd wybodaeth gefndir a chyflwynodd y prif ystyriaethau fel y manylwyd arnynt yn yr adroddiad.  Soniodd hefyd am Bolisi’r Cyngor ar Archwiliadau Diogelwch ar y Priffyrdd, lefelau ymyrraeth ac amseroedd ymateb, oedd wedi’u hatodi i’r adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Paul Shotton ei fod yn falch a’i bod yn galonogol darllen yn yr adroddiad bod y defnydd o wastraff plastig wedi cael ei dreialu’n llwyddiannus ac yn cael ei ystyried i’w ddefnyddio mewn deunydd ail-wynebu ar gyfer gwaith ffordd. Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Shotton, eglurodd y Prif Swyddog bod rhai pryderon wedi cael eu mynegi o ran effaith amgylcheddol defnyddio plastig eildro mewn deunydd ail-wynebu ffyrdd a gofynnwyd i’r cyflenwr wneud gwaith ymchwil i benderfynu a oedd y cynllun yn fuddiol fel datrysiad hirdymor cynaliadwy ac economaidd ar gyfer defnyddio cynnyrch plastig. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i’r pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Bob Connah o ran rheoli/monitro amserlenni gwaith y contractwyr a ddefnyddir gan y Cyngor.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Owen Thomas ar gynnal a chadw rhwydweithiau ffyrdd traws-ffiniol, eglurodd y Prif Swyddog fod gan bob awdurdod lleol ddyletswydd i archwilio a chynnal a chadw ei ffyrdd ei hun.  Cytunodd i godi’r pryderon penodol a godwyd gan y Cynghorydd Thomas gyda’r Cyngor perthnasol ar ei ran. Dywedodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd fod y Cyngor yn gweithio ar y cyd ag awdurdodau lleol cyfagos pan oedd angen. Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Shotton am y gymhariaeth ag awdurdodau lleol eraill, cyfeiriodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd at y data a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2018/19 oedd yn dangos bod y Cyngor yn gyntaf gyda ffyrdd A a B ac yn chweched gyda ffyrdd C. Dywedodd fod gwybodaeth ddiweddaraf y Cyngor ei hun a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos mai gan y Cyngor oedd y nifer lleiaf yng Nghymru o ffyrdd mewn cyflwr gwael.

 

Mewn ymateb i bryderon a godwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson am waith atgyweirio dros dro i dyllau yn y ffyrdd, eglurodd y Rheolwr Rhwydwaith Priffyrdd efallai nad oedd bwriad ar unwaith i newid twll oedd wedi ei atgyweirio, ond bod ymwybyddiaeth y byddai angen cymryd camau pellach gyda’r mesur dros dro yn y dyfodol, ac eglurodd beth oedd y meini prawf ar gyfer penderfynu sut oedd gwaith atgyweirio parhaol yn cael ei ddefnyddio yn y rhaglen rhwydwaith ffyrdd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Joe Johnson yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd gan y Cynghorydd Dennis Hutchinson.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Nodi’r adroddiad; a 

 

(b)       Nodi’r trefniadau presennol a chamau gweithredu’r portffolio i gynnal a chadw’r rhwydwaith priffyrdd yn unol â’r gofyniad statudol; a

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn argymell cymeradwyo diweddariad i’r Polisi ar gyfer Arolygon Diogelwch Priffyrdd a Meysydd Parcio, Meini Prawf Ymyrraeth ac Amseroedd Ymateb i gynnwys ymagwedd ddiwygiedig i arolygon Strwythurau’r Priffyrdd.

Dogfennau ategol: