Agenda item

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 - Y cam cau olaf

I gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2021/22 ar argymhelliad y Cabinet.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad i dderbyn argymhellion y Cabinet i'r Cyngor bennu Cyllideb Refeniw Cronfa'r Cyngor sy’n gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2021/22.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr, Rheolwr Cyllid Corfforaethol a’r Rheolwr Refeniw gyflwyniad yn trafod y materion allweddol canlynol:

 

·         gosod cyllideb gyfreithiol a chytbwys

·         gofyniad cyllideb ychwanegol 2021/22

·         Datrysiadau cyllideb 2020/21

·         Treth y Cyngor

·         cyllidebau ysgolion a gofal cymdeithasol

·         risgiau agored

·         Cronfeydd wrth gefn wedi'u clustnodi a heb eu clustnodi

·         barn broffesiynol a sylwadau i gloi

·         edrych ymlaen a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig

 

Yn dilyn proses ymgynghori helaeth ar y gyllideb, roedd yr holl faterion a oedd yn weddill wedi'u cau gan y Cabinet ym mis Ionawr. Ar ôl cael ei gefnogi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, argymhellion y Cabinet oedd cydbwyso'r gyllideb yn seiliedig ar y gofyniad isafswm cyllideb heb unrhyw ddarpariaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog ac eithrio cyflogeion â chyflogau o dan £24k. Roedd y Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru (LlC) ym mis Rhagfyr yn gynnydd ariannol o £7.392m (3.7%) uwchlaw swm 2020/21 ac roedd ymateb ffurfiol y Cyngor yn nodi barn gyfunol y Cabinet ac Aelodau etholedig.  Roedd y dull doeth a chytbwys o ymdrin â'r gyllideb wedi bod yn llwyddiannus wrth ddiogelu gwasanaethau, ond roedd graddfa’r sefyllfa argyfwng wedi arwain at bwysau ariannol sylweddol a fyddai'n parhau hyd at 2021/22.

 

Roedd y cynnydd blynyddol o 3.95% yn Nhreth y Cyngor yn dilyn y gyfarwyddeb glir a osodwyd gan y Cyngor i gynnal lefel fforddiadwy o dan 5%. Roedd hyn yn cynnwys 3.45% ar gyfer cyllidebau'r Cyngor a 0.5% fel cyfraniadau i gyrff rhanbarthol gan gynnwys Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru. Manylwyd ar braeseptau ychwanegol ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddau (cynnydd blynyddol o 5.14%) a'r rhai ar gyfer Cynghorau Tref/Cymuned unigol yn yr adroddiad.

 

Cynigwyd yr argymhellion ar gyfer y Cabinet a'r Cyngor gan Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Ian Roberts, a ddiolchodd i'r Prif Weithredwr a'r swyddogion am eu gwaith drwy gydol y broses o bennu'r gyllideb. Er ei fod yn cydnabod effaith cynnydd lleol yn Nhreth y Cyngor, croesawodd ddiogelu gwasanaethau'r Cyngor a buddsoddi mewn blaenoriaethau fel ysgolion ac Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Siaradodd hefyd am nifer o risgiau agored fel Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir lle'r oedd y Cyngor wedi gwneud darpariaeth ychwanegol yn y gyllideb sylfaenol a galwodd ar Lywodraeth Cymru am gyllid wrth gefn a oedd yn cael ei gadw’n genedlaethol.

 

Fel yr Aelod Cabinet dros Gyllid, eiliodd y Cynghorydd Glyn Banks y cynnig a chyfeiriodd at ymateb y Cyngor i'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro gan Lywodraeth Cymru a oedd yn cynnwys y galw a wnaed dro ar ôl tro am adolygiad o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol.

 

Cydnabu'r Cynghorydd Peers yr heriau o ran cau'r bwlch yn y gyllideb a diogelu gwasanaethau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Cododd bryderon am effaith y sefyllfa argyfwng a dywedodd fod angen adolygiad o wariant, gyda chostau cynyddol ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir yn cael eu hystyried yn fanylach gan y swyddogaeth Drosolwg a Chraffu.  Mewn ymateb i gwestiwn, eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol nad oedd y Setliad Dros Dro wedi cyrraedd y disgwyliadau gofynnol o tua £600k a bod materion dilynol heb eu datrys bellach wedi'u cwblhau a'u hymgorffori yn y gyllideb.

 

Siaradodd y Cynghorydd Richard Jones o blaid yr adroddiad a diolchodd i'r Prif Weithredwr. Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru gydnabod yr achos dros gyllid priodol gan fod cynyddu lefelau Treth y Cyngor i gyfrannu tuag at y gyllideb yn anghynaliadwy ac yn rhoi baich ar gynghorau i wneud penderfyniadau anodd.  Dywedodd hefyd y dylai Llywodraeth Cymru gyflwyno strategaeth ariannu tair blynedd i gynorthwyo cynghorau gyda chynllunio ariannol tymor canolig.

 

Hefyd yn siarad o blaid oedd y Cynghorydd Tony Sharps a ddiolchodd i Arweinydd y Cyngor am ei waith ar y gyllideb a'i ymrwymiad i barhau i lobïo Llywodraeth Cymru am ateb cenedlaethol ar Leoliadau y Tu Allan i'r Sir.

 

Fel yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol, dywedodd y Cynghorydd Christine Jones fod y Cyngor yn archwilio opsiynau i helpu gyda mwy o alw am Leoliadau y Tu Allan i'r Sir, fodd bynnag, roedd hon yn broblem genedlaethol ac angen cymorth priodol oddi wrth Lywodraeth Cymru.

 

Canmolodd y Cynghorydd Bithell Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, y Prif Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Corfforaethol am eu llythyr ymateb ar y cyd i Lywodraeth Cymru a oedd yn parhau i gyflwyno'r achos dros newid y fformiwla ariannu a datrysiad cenedlaethol ar Leoliadau y Tu Allan i'r Sir.

 

Wrth godi pryderon am y risg i lefelau casglu Treth y Cyngor yn y dyfodol, cytunodd y Cynghorydd Carol Ellis â'r angen am gyllid priodol gan Lywodraeth Cymru. O ran Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir, fe'i hysbyswyd gan y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) y bu cynnydd o 10% yn y galw dros y flwyddyn ddiwethaf a oedd yn cyfateb i tua 20 o blant. Cyfeiriodd at fuddsoddi mewn datrysiadau lleol a gweithio gyda phartneriaid i helpu i gadw teuluoedd gyda'i gilydd.

 

Diolchodd y Prif Weithredwr i'r Aelodau am eu cefnogaeth barhaus. Mewn ymateb i sylwadau, dywedodd fod swm sylfaenol y Setliad, yn seiliedig ar newidiadau demograffig, yn golygu bod y Cyngor yn dal i fod ymhlith yr isaf a ariannwyd yng Nghymru y pen. Cytunodd â'r angen i Lywodraeth Cymru ystyried y cydbwysedd rhwng fforddiadwyedd Treth y Cyngor a chyllid cenedlaethol a dywedodd nad oedd adolygu a herio gwariant yn rheolaidd wedi nodi dim pellach heb beryglu gwasanaethau.  Siaradodd hefyd am y posibilrwydd o bwysau pellach ar y gyllideb sy'n deillio o'r sefyllfa argyfwng.

 

Wrth ymateb i bryderon am y risg o gyfraddau casglu Treth y Cyngor, rhoddodd y Rheolwr Refeniw sicrwydd y byddai'r dull sensitif yn parhau drwy gydol y sefyllfa argyfwng i gefnogi preswylwyr i dalu eu taliadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts fod y Cyngor yn parhau i archwilio'r holl gyfleoedd ariannu ac roedd yn cytuno â'r angen am strategaeth ariannu tair blynedd gan Lywodraethau. Mewn ymateb i'r pryderon a godwyd am Leoliadau y Tu Allan i'r Sir, awgrymwyd seminar i Aelodau ddeall yn llawn y pwysau o ran addysg a gofal cymdeithasol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Hilary McGuill y byddai Lleoliadau y Tu Allan i'r Sir hefyd ar yr agenda mewn cyfarfod o'r cydbwyllgor Trosolwg a Chraffu sydd ar y gweill.

 

Canmolodd y Cynghorydd Heesom yr adroddiad a diolchodd i bawb a oedd y gysylltiedig.

 

Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

(1)       Bod y Cyngor yn nodi ac yn cymeradwyo'r gofyniad cyllideb diwygiedig ar gyfer 2021/22;

 

(2)       Bod y Cyngor yn cymeradwyo'r cynigion terfynol ar gyfer yr arbedion effeithlonrwydd corfforaethol a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;

 

(3)       Bod y Cyngor yn cymeradwyo cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn seiliedig ar y cyfrifiadau fel y nodir yn yr adroddiad;

 

(4)       Bod y Cyngor yn nodi'r risgiau agored sydd i'w rheoli o hyd yn ystod 2021/22;

 

(5)       Bod y Cabinet yn argymell y cynnydd blynyddol yn Nhreth y Cyngor o 3.95% ar gyfer 2021/2022; a

 

(6)       Bod y Cyngor yn nodi’r rhagolygon tymor canolig fel sail ar gyfer yr adolygiad nesaf o’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo argymhellion y Cabinet, fel y manylir uchod ar gyfer cyllideb gytbwys ar gyfer 2021/22; a

 

 (b)      Bod lefel Treth y Cyngor ar gyfer 2021/22 fel yr argymhellir gan y Cabinet yn cael ei gymeradwyo.

Dogfennau ategol: