Agenda item

Dysgu o bell

PortfolioDerbyndiweddariad llafar yn y cyfarfod gan Vicky Barlow, Uwch Reolwr Gwella Ysgolion, Portffolio Addysg ac Ieuenctid.

 

Cofnodion:

            Croesawodd y Cyng. B ymdrechion ysgolion yn ystod y cyfnod hwn a gofynnodd sut mae addysg grefyddol a moesol wedi parhau. Esboniodd VB fod gofynion sylfaenol y cwricwlwm ar gyfer Cymru, a threfniadau asesu cysylltiedig ar gyfer ysgolion a lleoliadau meithrinfa nas cynhelir, wedi cael eu diwygio fel rhan o Ddeddf Coronafeirws 2020, yn amodol ar adolygiadau misol.Rhaid i ysgolion wneud pob ymdrech i gyflawni eu dyletswyddau cwricwlwm.Ni wnaed dadansoddiad manwl o bynciau unigol ar draws ysgolion ond mae GwE wedi gweithio gydag ysgolion i edrych ar ddysgu cyfunol a pharatowyd adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu Addysg.

 

Esboniodd VB fod hyn yn golygu y dylai ysgolion wneud popeth rhesymol o fewn eu gallu i ddysgu holl ddyletswyddau’r cwricwlwm.Os nad yw ysgolion wedi bodloni gofynion y cwricwlwm ar ôl cymryd pob cam rhesymol, yna ystyrir eu bod wedi cwrdd â’u dyletswyddau deddfwriaethol.

 

Wrth gyfeirio’n benodol at Addoli ar y Cyd mae canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru yn datgan “Dylai grwpiau gael eu cadw ar wahân, sy’n golygu y dylai ysgolion osgoi ymgynnull yn dorfol er enghraifft cynnal gwasanaethau neu addoli ar y cyd gyda mwy nag un gr?p”.

Mae ysgolion ar draws Cymru wedi datblygu dull dysgu ac addysgu ‘Dysgu Cyfunol’ er mwyn bod yn addas ar gyfer disgyblion sy’n dysgu mewn amgylcheddau gwahanol – gartref neu yn yr ysgol oherwydd y pandemig. Mae’r pedwar consortiwm ac Estyn wedi cynhyrchu modelau dysgu cyfunol.Mae Rhwydweithiau Dysgu AG hefyd yn gweithio ar ddeunyddiau ac mae adnoddau wedi eu rhannu ar Hwb.Mae pwyslais nawr ar gynhyrchu adnoddau safonol i hyrwyddo’r arfer orau mewn AG yn ogystal ag ar gynnydd, gan fod hwn yn parhau i fod yn fodel dysgu angenrheidiol.Mae enghreifftiau o AG hefyd yn nogfen ganllawiau Dysgu Cyfunol Estyn a’r Consortia.

Bu ysgolion yn cynnal gwasanaethau rhithiol ar gyfer dosbarthiadau, grwpiau blwyddyn a hyd yn oed ysgolion cyfan pan oedden nhw yn yr ysgol y tymor diwethaf.Mwy heriol gyda dysgu o bell.

 

Holodd y Cyng. B sut mae ysgolion wedi ymdrin â lles plant.Dywedodd SP eu bod wedi recordio gwasanaethau yn ei ysgol ef am faterion yn ymwneud â lles ac AG drwy gyfrwng SeeSaw ar gyfer rhieni a disgyblion, gyda gweithgareddau wythnosol y gallai teuluoedd eu gwneud gyda’i gilydd.Dywedodd LO fod yr Esgobaeth wedi cynhyrchu deunyddiau cefnogi da iawn y gellir eu rhannu yn yr ysgol neu gartref a chyfeiriodd at y dathliadau Nadolig a gafodd eu rhannu ar-lein. Dywedodd JC ei fod wedi derbyn cyngor da gan Gynghorydd Herio AG GwE ac aeth ei ysgol ati i adeiladu eglwys wedi’i gwneud o lego.

 

Dywedodd VB fod rhai ysgolion yn dal i gynnal gwasanaethau ar-lein ac yn cynhyrchu adnoddau i ddisgyblion, e.e.Diwrnod Cofio'r Holocost ac Wythnos Iechyd Meddwl Plant. Mae Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru wedi cynhyrchu canllawiau i ysgolion.

 

Mae HPD yn croesawu sut y bu ysgolion yn defnyddio’r adnoddau a dywedodd fod adnoddau ar gael yn ddwyieithog gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru.Dywedodd fod swyddog o Ymddiriedolaeth Undeb yr Ysgrythur wedi colli ei swydd yn anffodus ac felly fod yr eglwysi wedi dod ynghyd i gefnogi plant a theuluoedd.

Cytunodd Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru y dylid creu gweithgor bychan i lunio papur ar sut i gefnogi ysgolion gydag Addoli ar y Cyd yn ystod argyfwng y Coronafeirws, a chafodd ei gyhoeddi ddechrau mis Gorffennaf a’i rannu gyda phob CYSAG.Mae’r ddogfen hon ar gael yn ddwyieithog ar wefan Cymdeithas Cynghorau Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru www.wasacre.org.uk/cym.Mae’r Bwrdd Gweithredol hefyd wedi ystyrid y byddai’n werthfawr pe bai’r gweithgor yn llunio papur tebyg ar gyfer AG yn ystod Argyfwng y Coronafeirws.  

Mae ystod eang o adnoddau hefyd yn cael eu hychwanegu at wefan ddigidol CBAC i gynorthwyo athrawon gyda dysgu cyfunol.

 

Roedd y Cyng. B wedi ei galonogi gan y gwaith a ddangoswyd, yn enwedig yn ystod y cyfnod pan nad oedd y disgyblion yn yr ysgol.Tynnodd CH sylw at y gwaith ardderchog a wnaed gan ysgolion i gefnogi lles plant sy’n rhan hanfodol o’r cynnig dysgu cyfunol.