Agenda item

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 – Gosod Cyllideb Gyfreithiol a Chytbwys

Pwrpas:        Gwneud argymhellion i’r Cyngor yngl?n â chyllideb gyfreithiol a chytbwys ar gyfer 2021/22.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad ac esboniodd fod adroddiadau llawn am y camau blaenorol yn y broses i osod cyllideb ar gyfer 2021/22 ynghlwm â’r adroddiad.

 

            Ym mis Ionawr, gosododd y Cabinet ofyniad ychwanegol ar gyfer isafswm cyllideb uchaf 2021/22 sef £16.750m a gofyniad ar gyfer isafswm cyllideb isaf sef £13.873m. Roedd y ffigur uchaf yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dyfarniadau cyflog cenedlaethol o 2% i bawb, ac nid oedd darpariaeth yn y ffigur isaf ar gyfer cyflogau. Defnyddir y ffigur isaf at ddibenion mantoli’r gyllideb gan nad oes darpariaeth yn natganiad cyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer unrhyw ddyfarniadau cyflog blynyddol yn y sector cyhoeddus, ac eithrio dyfarniadau cyflog i weithwyr â chyflogau sy’n llai na £24,000 y flwyddyn. O ganlyniad i hynny, nid yw Llywodraeth Cymru (LlC) wedi derbyn cynnydd yn y cyllid i gefnogi unrhyw ddyfarniadau cyflog blynyddol ar gyfer athrawon a gweithwyr llywodraeth leol.

 

            Gwnaeth y Cabinet ym mis Ionawr hefyd ystyried y materion a oedd angen eu cloi fel rhan o’r broses gosod cyllideb. Roedd yr adroddiad hwn yn cynnig atebion i’r holl faterion hynny ac yn gosod argymhellion er mwyn i’r Cyngor allu llunio cyllideb gyfreithiol a chytbwys.

 

            Roedd ymateb ffurfiol y Cyngor i ymgynghoriad LlC ar Setliad Dros Dro i Lywodraeth Leol 2021/22 wedi’i gynnwys gyda’r adroddiad. Roedd yr ymateb yn llawn ystyried y safbwyntiau a fynegwyd gan y Cabinet ar y cyd, yn ogystal â safbwyntiau’r corff o Aelodau etholedig.

 

            Roedd yr adroddiad hefyd yn amlinellu’r penderfyniad ynghylch Treth y Cyngor ar gyfer gosod lefelau trethu 2021/22. Cynigiwyd penderfyniad ffurfiol i'w roi gerbron y Cyngor yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw i roi gwybod eu bod wedi derbyn praeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint.Roedd y Cyngor wedi gosod cyfeiriad amlwg i gadw'r cynnydd yn Nhreth y Cyngor yn is na 5%. Roedd cynigion y gyllideb yn cynnwys cynnydd cyffredinol o 3.95% i gwrdd â gofynion y gyllideb, yn cynnwys 3.45% ar gyfer cyllidebau’r Cyngor a 0.5% fel cyfraniadau rhanbarthol i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Gwasanaeth Crwner.Roedd hyn yn gyfystyr â chynnydd wythnosol o £1.32.

 

            Mae’r adroddiad yn cynnwys tablau, a sylwebaeth, ar y materion canlynol:

 

·         Tabl 1:  Gofyniad Ychwanegol Diwygiedig y Gyllideb ar gyfer Isafswm 2021/22;

·         Tabl 2: Atebion Arfaethedig Cyllideb 2021/22;

·         Tabl 3: Cyllideb Arfaethedig 2021/22; a

·         Thabl 4: Rhagolygon Tymor Canolig 2022/23 - 2023/24

 

Derbyniodd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol yr adroddiad ar 11 Chwefror 2021 a chafodd ei gefnogi’n unfrydol.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad i gefnogi'r adroddiad. Roedd un o’r sleidiau allweddol yn dangos crynodeb o’r atebion arfaethedig a oedd yn dangos y gofyniad ar gyfer y gyllideb ddiwygiedig a sut y gellid ei ostwng i £0.000m yn seiliedig ar y canlynol:

 

·         Cynnydd yn y Setliad Dros Dro;

·         Arbedion Effeithlonrwydd Corfforaethol;

·         Grant Gweithlu Gofal Cymdeithasol;

·         Treth y Cyngor; a

·         Lleihau'r Cyfraniad i’r Arian Wrth Gefn.

 

Cynigiwyd y byddai tâl Band D Sir y Fflint yn 3.95%, sydd -0.20% yn llai na chyfartaledd Cymru, a -1.04 yn llai na chyfartaledd Cynghorau Lloegr.

 

Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol fanylion am y risgiau agored yn 2021/22 a’r arian wrth gefn sydd heb ei glustnodi. Esboniodd pa mor bwysig yw adeiladu ar y cronfeydd wrth gefn er mwyn diogelu yn erbyn y risgiau agored ac ar gyfer y dyfodol. Felly, cafodd cyfraniad ychwanegol o £0.471m ei gynnwys yng nghynigion y gyllideb er mwyn sicrhau bod o leiaf £2.0m o arian wrth gefn ar gael mewn argyfwng ar ddechrau 2021/22.

 

Rhoddwyd cyngor ffurfiol gan y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, gan gynnwys ei farn broffesiynol, sef:

 

 “Mae gosod cyllideb ynghanol argyfwng cenedlaethol yn rhywbeth na welwyd ei debyg o'r blaen. Mae graddfa a hyd y pandemig yn gosod heriau ariannol sylweddol a fydd yn parhau i’r flwyddyn ariannol newydd; mae’r cymorth a groesawir gan y Gronfa Galedi genedlaethol yn debygol o barhau ond ni wyddwn am ba hyd y gellir cynnal hyn; mae'r gyllideb hefyd yn cynnwys risgiau agored sylweddol ynghylch cyflogau a'r galw am ofal cymdeithasol; mae'n hanfodol diogelu'n llawn yr Arian At Raid a’r Cronfeydd Wrth Gefn mewn Argyfwng er mwyn diogelu yn erbyn y risgiau hyn ac unrhyw ddigwyddiadau eraill na ellir eu rhagweld; mae’r gyllideb a argymhellir yn adlewyrchu dull cytbwys sy’n seiliedig ar risg".

 

Dyma farn broffesiynol y Prif Weithredwr:

 

 “Mae’r gyllideb wedi’i llunio yn unol â'r model gosod cyllideb rydym wedi'i fabwysiadu; rydym wedi cymryd camau doeth a chytbwys fel sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ac egwyddorion llywodraethu da; mae'r Cyngor yn derbyn nad oes gostyngiadau newydd i gostau nac arbedion effeithlonrwydd o raddfa; mae’r Cyngor, fel y’i cynghorwyd gan y Cabinet, yn cytuno â’r cyngor hwn ac rydym wedi diogelu pob gwasanaeth; mae ein strategaeth i sicrhau cyllideb gyfreithiol a chytbwys yn dibynnu'n fawr ar gael digon o Gyllid gan y Llywodraeth; rydym yn amlinellu ein disgwyliadau ar gyfer y dyfodol yn eglur yn yr ymateb i’r Setliad Dros Dro”.

 

Diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r Prif Weithredwr am yr holl waith mae wedi’i wneud gyda chyllid y Cyngor dros nifer o flynyddoedd, gan gofio mai dyma'r tro olaf y bydd yn gosod cyllideb yn yr awdurdod.    

 

Diolchodd hefyd i drigolion Sir y Fflint am eu cydweithrediad yn ystod y cyfnod clo a’i gwnaeth yn bosibl i blant y Cyfnod Sylfaen ddychwelyd i’r ystafell ddosbarth i gael dysgu wyneb yn wyneb o 22 Chwefror.  Diolchodd hefyd i holl weithwyr Cyngor Sir y Fflint am y gwaith roedden nhw wedi’i wneud yn ystod y pandemig, a oedd wedi golygu bod yn rhaid i nifer o wasanaethau weithio mewn ffyrdd gwahanol.

 

Ni wnaed y penderfyniad ynghylch cynyddu Treth y Cyngor ar chwarae bach, ond diolchodd i’r swyddogion am y gwaith a wnaed er mwyn sicrhau y gellir argymell i’r Cyngor gynnydd sy’n is na 5% yn Nhreth y Cyngor.  Croesawodd y buddsoddiad mewn ysgolion, yn enwedig ar gyfer ysgolion uwchradd sy'n gweithredu ar ddiffyg yn y gyllideb a phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

 

Mynegodd y Cynghorydd Banks ganmoliaeth i’r swyddogion am y parhad yn narpariaeth gwasanaethau craidd y Cyngor, a diolchodd i Lywodraeth Cymru am eu cymorth. Croesawodd yntau’r buddsoddiad mewn ysgolion, ac roedd yn cefnogi’r cynnydd arfaethedig i’r cronfeydd wrth gefn.

 

Diolchodd y Cynghorydd Bithell i’r Prif Weithredwr, y Rheolwr Cyllid Corfforaethol, y Cynghorydd Roberts a'r Cynghorydd Banks am y llythyr safonol a anfonwyd at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i amlinellu’r anawsterau mae Sir y Fflint yn eu hwynebu fel awdurdod lleol.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Butler gymeradwyaeth hefyd i’r holl staff am eu gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda nifer ohonyn nhw hefyd yn delio â salwch a phrofedigaeth. Roedd nifer o weithwyr wedi gwirfoddoli i gael eu hadleoli i feysydd eraill lle roedd y galw'n uchel ac ymgymryd â dyletswyddau na fydden nhw'n eu gwneud fel arfer. 

 

Soniodd y Cynghorydd Thomas am y grantiau roedd y Cyngor wedi gwneud cais amdanynt a'r ffyrdd arloesol y cawsant eu defnyddio, gyda swyddogion bob amser yn ceisio bod yn effeithlon a pharhau i ddarparu'r hyn roedd disgwyl iddynt ei wneud. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi a chymeradwyo’r diwygiad yng ngofynion y gyllideb ar gyfer 2021/22;

 

 (b)      Cymeradwyo’r cynigion terfynol ar gyfer yr arbedion effeithlonrwydd corfforaethol a fydd yn cyfrannu at y gyllideb;

 

 (c)       Y bydd y Cabinet yn argymell cyllideb gyfreithiol a chytbwys i'r Cyngor yn seiliedig ar y cyfrifiadau a amlinellir yn yr adroddiad;

 

 (ch)    Nodi’r risgiau agored sydd angen parhau i’w rheoli yn ystod 2021/22;

 

 (d)      Y bydd y Cabinet yn argymell cynnydd blynyddol o 3.95% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer 2021/22, a bydd yn gwahodd y Cyngor i basio'r penderfyniad swyddogol ynghylch Treth y Cyngor gan fod hysbysiad bellach wedi’i dderbyn am braeseptau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd a phob Cyngor Tref a Chymuned yn Sir y Fflint; a

 

 (dd)    Nodi’r rhagolygon tymor canolig fel sail ar gyfer adolygiad nesaf y Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.

Dogfennau ategol: