Agenda item
Adferiad Economaidd
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi, Dydd Mawrth, 9fed Mawrth, 2021 10.00 am (Eitem 49.)
- Cefndir eitem 49.
Pwrpas: Rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau ar newidiadau mawr ac ar ymatebion rhanbarthol a lleol sy’n cael eu sefydlu
Cofnodion:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) a'r Rheolwr Menter ac Adfywio. Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn rhan o gyfres o bapurau a ddaeth i'r pwyllgor ynghylch Adferiad Economaidd a bod yr adroddiad hwn yn amlinellu'r cynigion ar lefel ranbarthol ac o fewn Cynllun y Cyngor.
Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio fod yr adroddiad yn egluro lle'r oedd y Cyngor ar hyn o bryd o ran yr economi yn Sir y Fflint, wedi tynnu sylw at risgiau posibl, y strwythurau llywodraethu sydd ar waith a'r rhaglen waith gyfredol i ymateb i'r risgiau hynny. Darparodd wybodaeth ar y canlynol:-
· Y sefyllfa ansicr o ran Brexit
· Y gwaith a wneir gan Grant Thornton ar ran CLlLC, gan edrych yn benodol ar fasnach. Amlygodd nifer o risgiau sy'n benodol i Sir y Fflint gan fod ein heconomi yn seiliedig ar fasnach.
· Nid oedd mwyafrif pencadlys cwmnïau wedi'u lleoli yn Sir y Fflint, a oedd yn rhoi Sir y Fflint mewn perygl gyda phenderfyniadau'n cael eu gwneud mewn man arall
· Roedd gan Sir y Fflint lefel uchel o weithwyr sgiliau isel a oedd mewn perygl o golli swyddi
· Sefyllfa Covid 19 - rydym yn dal yn ansicr gyda’r cynllun Ffyrlo yn dal i fodoli. Gallai guddio colledion swyddi posibl yn y dyfodol yn enwedig i bobl ifanc.
Cyfeiriodd y Rheolwr Menter ac Adfywio aelodau at y diagram ar dudalen 36 a baratowyd gan Grant Thornton. Amlygodd y risgiau o ran sut roedd gweithgynhyrchu a chyfanwerthu yn dibynnu ar ganlyniadau Brexit a Covid. Adroddodd ar nifer y grwpiau a sefydlwyd gyda LlC a Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a'r gwaith a wnaed i gynllunio'r broses adfer ar gyfer anghenion uniongyrchol ac i ail-lunio'r dyfodol. Cafodd y blaenoriaethau eu cynnwys yng Nghynllun y Cyngor.
Teimlai'r Cynghorydd Patrick Heesom fod hwn yn adroddiad pwysig iawn a'i fod yn ymwneud â diffyg cyfranogiad aelodau yn y gweithdrefnau. Cyfeiriodd at y strwythur ar dudalen 37 nad oedd ganddo fawr o le i gyfraniadau gan aelodau, yn enwedig gyda goblygiadau Brexit. Yna cyfeiriodd at gyfraniadau Adroddiad Hatch ac Adroddiad Grant Thornton a theimlai fod angen crynodeb o'r adroddiadau hynny ar aelodau er mwyn galluogi gwell dealltwriaeth. Mewn ymateb, roedd y Rheolwr Menter ac Adfywio yn gobeithio y byddai'r wybodaeth yn darparu crynodeb o'r adroddiad hwnnw ac yn cadarnhau y cânt eu dosbarthu i aelodau pan fyddent ar gael.Byddai'n myfyrio ar y sylwadau ynghylch cynnwys aelodau ac roedd yn gobeithio y byddai'r cyfarfod yn darparu rhywfaint o gyfranogiad aelodau i alluogi trafodaeth a dwyn swyddogion i gyfrif.Roedd yn gobeithio y byddai hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd ond yn hapus i dderbyn unrhyw sylwadau.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Shotton at y materion ym mhorthladd Caergybi oherwydd faint o waith papur yr oedd yn rhaid i gwmnïau ei gwblhau. Arweiniodd hyn at ddargyfeirio danfoniadau i borthladdoedd Ewropeaidd ac yn dod i’r DU drwy Eire ac yna i Ogledd Iwerddon. Gofynnodd sut oedd hyn yn effeithio ar gwmnïau a chludwyr yn Sir y Fflint. Gofynnodd hefyd, gyda'r Cyllid Ewropeaidd yn dod i ben a chyllid â blaenoriaeth yn digwydd, lle oedd y penderfyniadau'n cael eu gwneud, yn LlC neu Fwrdd Twf Gogledd-ddwyrain Cymru. Mewn ymateb, cyfeiriodd y Rheolwr Menter ac Adfywio at y sefyllfa newidiol o ran cludo nwyddau a chludiant a'i bod yn bwysig gwahanu'r aflonyddwch byrdymor â'r sifftiau tymor hwy yn ein heconomi. Roedd y sefyllfa'n ansicr ar hyn o bryd, gyda Chaergybi mewn sefyllfa ddiamddiffyn gyda'r llwybr amgen yn llwybr môr drud, hir. O ran cyllid yr UE, byddai hyn yn lleihau yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf. Fodd bynnag roedd Sir y Fflint yn dderbynnydd bach o arian yr UE a oedd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr, ac roedd angen gweithio i ddeall effeithiau colli'r cyllid hwnnw. Cyfeiriodd at gyllideb y DU a gyhoeddodd rywfaint o arian ar gyfer rhanbarthau. Nid oedd yr amnewidiad yn gwbl weithredol eto a rhoddodd wybodaeth am y cyllid tymor byrrach a oedd ar gael gyda'r ceisiadau am gyllid wedi’u prosesu yn San Steffan, nid Caerdydd. Darparodd y Rheolwr Menter ac Adfywio wybodaeth am y cydweithredu llwyddiannus a chryf sydd ar waith ledled Gogledd Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Owen Thomas fod gan Sir y Fflint weithlu medrus iawn a chwmnïau medrus tu hwnt, gyda'r byd i gyd ar gael i wneud busnes â nhw, ond roedd yn teimlo y dylid annog prentisiaethau ar draws pob crefft. Cytunodd y Rheolwr Menter ac Adfywio â sylwadau’r Cynghorydd Thomas ar sgiliau, gan ddweud bod cyfran o gwmnïau â gweithlu medrus iawn a dyna’r rheswm bod cymaint o ddiwydiannau gweithgynhyrchu ac uwch-dechnoleg yn y sir.
Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at Ymgynghoriad Canol y Dref yn yr Wyddgrug yn ddiweddar a chanmolodd y gefnogaeth a ddarparwyd gan y Rheolwr Menter ac Adfywio a'i dîm i'r cynghorwyr sir a thref ac aelodau o'r cyhoedd.
Adroddodd yr Aelod Cabinet ar gyllid blaenorol gan Cadwyn Clwyd a'r Cynllun Datblygu Gwledig, a gofynnodd faint yn hwy y byddai'r cyllid hwnnw ar gael ar gyfer Adfywio Canol y Dref. Gofynnodd hefyd beth oedd y sefyllfa o ran Cronfa'r Ardoll Agregau ar gyfer Cymru a chadarnhaodd ei bod yn siarad â LlC am y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn a oedd yn disodli'r cyllid hwn. Gan fod y chwareli a'r adeiladu yn dechrau eto, hoffai weld cymunedau'n derbyn peth o'r cyllid hwn.
Cadarnhaodd y Rheolwr Menter ac Adfywio mai cyllid Cynllun Datblygu Gwledig Cymru oedd 50% Ewrop a 50% LlC ac y byddai'r rhaglenni hyn yn dod i ben yn raddol dros y 2 neu 3 blynedd nesaf, ynghyd â'r rhaglenni Ewropeaidd eraill. Roedd y sefyllfa'n aneglur iawn ynghylch y dyfodol ar gyfer y rhaglenni gwledig hyn a hefyd nid oedd unrhyw fanylion ar gael ar hyn o bryd ynghylch yr hyn a ddisodli'r Polisi Amaethyddiaeth Cyffredin na'r gwaith a gwmpesir gan Cadwyn Clwyd.
Cyfeiriodd y Prif Swyddog at Gronfa yr Ardoll Agregau ac eglurodd fod hwn wedi'i gyflwyno fel treth ar gloddio am agregau tua 15 mlynedd yn ôl, gyda chyfran yn cael ei defnyddio i alluogi cymunedau lleol wneud cais am gyllid ar gyfer prosiectau lleol fel adeiladau cymunedol neu ardaloedd chwarae. Cadarnhaodd iddo ddod i ben yn Lloegr tua 7 neu 8 mlynedd yn ôl ond parhaodd yng Nghymru tan 2 flynedd yn ôl pan ddaeth cymorth LlC i ben. Dywedodd fod y prosiectau seilwaith mwy fel Parc Adfer yn darparu cronfeydd datblygu cymunedol ac yn teimlo fel cyngor bod Sir y Fflint yn dda am gael mynediad at gyfleoedd p'un ai drwy Barc Adfer neu ffrydiau eraill, gyda Tom Woodall a'i dîm yn cyfeirio cymunedau at ffrydiau cyllido. Gofynnodd Aelod y Cabinet a allai'r pwyllgor ysgrifennu at LlC i geisio cefnogaeth ar gyfer ailgyflwyno Cronfa yr Ardoll Agregau fel argymhelliad gan y pwyllgor.
Cytunodd yr Aelod Cabinet Datblygu Economaidd â sylwadau blaenorol a wnaed, gan ddweud bod yr economi mewn cyflwr o fflwcs. Roedd yn falch nad oedd Airbus yn diswyddo’n orfodol ac y disgwylir gwybodaeth o hyd am Vauxhall. Cyfeiriodd at golli swyddi a oedd wedi bod yn is na'r hyn a ragwelwyd hyd yn hyn, ond roedd y cynllun ffyrlo yn cuddio'r effaith lawn o bosibl. Cyfeiriodd at ba mor ddiamddiffyn oedd y diwydiant cynhyrchu bwyd, yn benodol. Yna cyfeiriodd Aelod y Cabinet at y buddion y gellid eu cyflawni o Fargen Twf Gogledd Cymru a menter drawsffiniol Cynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, ac y gellid rhoi hwb i’r sectorau lletygarwch a thwristiaeth gan yr economi gwyliau gartref. O ran Cadwyn Clwyd, roedd pryderon ymhlith CLlLC ynghylch pecynnau gwledig gan yr UE a oedd wedi bod yn hael yn y gorffennol. Nid oedd yn eglur pa gyllid a fyddai’n dod yn lle’r rhain gan San Steffan.
Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd Patrick Heesom ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Joe Johnson.
PENDERFYNWYD:
(a) Aelodau i nodi’r rhagamcanion rhagolygon economaidd posibl ac adolygu'r strwythurau adfer a sefydlwyd i lywio gweithredoedd yn y dyfodol.
(b) Aelodau i nodi’r rhaglenni gwaith cyfredol ac arfaethedig a sefydlwyd i gefnogi adferiad economaidd yn Sir y Fflint.
(c) Anfon llythyr ar ran y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru i ofyn am adfer Cronfa yr Ardoll Agregau.
Dogfennau ategol: