Agenda item

Cydnabyddiaeth i Theatr Clwyd: Theatr Rhanbarthol y Flwyddyn

Enillodd y theatr y wobr theatr ranbarthol y flwyddyn yng Ngwobrau The Stage a gynhaliwyd ar 6 Ionawr.

 

Gwobrau The Stage yw’r prif wobrau sy’n dathlu’r theatr ar draws y DU a thu hwnt.Eleni, mae’r gwobrau wedi cael eu hailddylunio i gydnabod cyflawniadau eithriadol y timoedd ar hyd a lled y wlad yn un o’r blynyddoedd mwyaf heriol mae’r diwydiant wedi’i wynebu erioed.

 

Cafodd yr enillwyr eu dewis am eu cyflawniadau ac effaith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws.Cawsant eu dewis gan banel beirniadu’r gwobrau yn dilyn proses enwebu cyhoeddus ac ymgynghoriad.Dywedodd y beirniaid “Yn 2020, mae Theatr Clwyd wedi bod yn fwy na theatr: mae wedi bod yn loches, sydd wedi ennill calonnau ac ymddiriedaeth nifer o’r cymunedau mae’n ei gwasanaethu.”

 

 

 

Cofnodion:

Croesawodd a chyflwynodd y Cadeirydd Tamara Harvey, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Clwyd, a Liam Evans-Ford, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Clwyd a Chadeirydd Theatr Cymru.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod y Theatr wedi ennill gwobr theatr ranbarthol y flwyddyn yng ngwobrau The Stage a gynhaliwyd ar 6 Ionawr 2021. Dywedodd mai gwobrau The Stage yw’r gwobrau mwyaf amlwg sy’n dathlu theatr ar draws y DU a thu hwnt. Eleni, cafodd y gwobrau eu hailddychmygu i gydnabod cyflawniadau eithriadol timau ledled y wlad yn ystod y flwyddyn fwyaf heriol y mae’r diwydiant erioed wedi’i hwynebu.

 

Dewiswyd yr enillwyr ar sail eu cyflawniadau a’u heffaith mewn ymateb i bandemig y coronafeirws.    Cawsant eu dewis gan banel beirniadu’r gwobrau yn dilyn proses enwebu gyhoeddus ac ymgynghoriad. Meddai’r beirniaid, “Yn 2020, mae Theatr Clwyd wedi bod yn fwy na theatr, mae wedi bod yn lygedyn o oleuni,  un sydd wedi cipio calonnau ac ymddiriedaeth y cymunedau a wasanaethir.”

 

Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler fod y wobr yn gydnabyddiaeth genedlaethol a rhyngwladol o Theatr Clwyd fel canolfan ddiwylliannol Sir y Fflint a oedd yn darparu aml-weithgareddau ar gyfer y gymuned.

 

Llongyfarchodd y Cynghorydd Chris Bithell y Theatr ar ennill y wobr hynod werthfawr, yn enwedig dan yr amgylchiadau heriol yn dilyn y cyfyngiadau llym a osodwyd oherwydd y pandemig. Dywedodd y Cynghorydd Bithell fod y Theatr wedi’i thrawsnewid yn ganolfan ddosbarthu ers mis Mawrth diwethaf, yn darparu cymorth i blant a theuluoedd, ac roedd hefyd wedi gweithio gyda busnesau lleol i ddosbarthu bwyd a pharseli bwyd i unigolion mewn angen. Roedd y Theatr hefyd wedi cyfrannu at roi cefnogaeth sylweddol i weithwyr llawrydd ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd drwy osod tasgau i’w cwblhau gartref. I gloi, dywedodd y Cynghorydd Bithell fod y Wobr fawreddog yn rhoi gobaith o ran dyfodol y Theatr ac roedd yn glod i Tamara Harvey a Liam Evans-Ford a’u tîm.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dave Mackie ei fod yn falch o’r arloesedd rhagorol ac eang a oedd yn symud y Theatr yn ei blaen o dan arweiniad Tamara Harvey a Liam Evans-Ford.

 

Mynegodd y Cynghorydd Glyn Banks ei longyfarchion i Tamara Harvey a Liam Evans Ford a’u tîm a diolchodd iddynt am eu harweinyddiaeth a’u gwaith caled.

 

Dywedodd y Prif Weithredwr fod y Theatr wedi bod yn hoelen wyth i bobl mewn angen yn ystod y pandemig.  Gwnaeth sylw am drosglwyddiad y Theatr o fis Ebrill i Ymddiriedolaeth annibynnol newydd, a dywedodd fod y Theatr bellachbron â gorffen y trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am fuddsoddiad cyfalaf i ailwampio a moderneiddio Theatr Clwyd ar gyfer y dyfodol.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ron Davies i Tamara Harvey a Liam Evans-Ford ar lwyddiant y Wobr nad oedd yn hawdd i’w hennill.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Tamara Harvey a Liam Evans-Ford i siarad. 

 

Mynegodd Tamara Harvey ei gwerthfawrogiad bod Theatr Clwyd wedi derbyn cydnabyddiaeth fel Theatr Ranbarthol y Flwyddyn yng ngwobrau The Stage. Dywedodd fod Theatr Clwyd, yn ystod cyfnod llawn heriau, wedi addasu i fodloni’r heriau hynny. Roedd yn ymdrech gan y tîm cyfan, ac roedd yn falch iawn o’r tîm a oedd wedi derbyn cydnabyddiaeth o’u hymdrechion gan arweinwyr y diwydiant.

 

I gloi, gwnaeth Liam Evans-Ford sylw am gysylltiad y Theatr gyda’r Awdurdod a dywedodd fod y Wobr o ganlyniad i’r gwaith partneriaeth a wnaed gyda’r Awdurdod gan nodi gwaith ar y cyd â’r Gwasanaethau Cymdeithasol a Gwasanaethau Addysg fel enghreifftiau.  Diolchodd i’r Aelodau am eu geiriau caredig a’u cydnabyddiaeth.