Agenda item

Coffa a Theyrngedau i'r Cynghorydd Hwyr Councillor Kevin Hughes

Cofnodion:

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y newyddion trist am farwolaeth ddiweddar y Cynghorydd Kevin Hughes yn dilyn brwydr ddewr yn erbyn Covid-19. Mynegodd ei chydymdeimlad diffuant â’i wraig, ei deulu, ei ffrindiau a phreswylwyr ei Ward. Gwahoddodd y Cynghorydd Chris Dolphin i arwain y teyrngedau.

 

            Siaradodd y Cynghorydd Dolphin am rinweddau personol a phroffesiynol y Cynghorydd Hughes a ystyriodd yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr. Dywedodd ei fod yn uchel ei barch ymysg pawb a oedd yn ei adnabod ac roedd yn ddyn da a gonest.

 

            Talodd Arweinydd y Cyngor deyrnged i’r Cynghorydd Hughes gan ddweud ei fod yn unigolyn arbennig a oedd yn cael ei ystyried yn ffrind gan nifer fawr o bobl.  Byddai colled fawr ar ei ôl. Dywedodd ei fod wedi gwneud cyfraniad sylweddol fel aelod o’r Awdurdod ac roedd yn uchel ei barch ymysg ei gymuned leol, Aelodau o’r Cyngor a Swyddogion a staff yr Awdurdod. Roedd y Cynghorydd Hughes yn aelod lleol gweithgar a oedd yn cynrychioli ei gymuned gyda chywirdeb. Siaradodd am ei rinweddau personol, ei hobïau a’i frwdfrydedd dros bêl-droed yn benodol. Dywedodd y Cynghorydd Roberts ei fod wedi cael y fraint o fynychu gwasanaeth er cof am y Cynghorydd Hughes a oedd, yn ogystal â chyfleu’r tristwch enfawr yn dilyn y golled, yn diolch ac yn dathlu ei fywyd a’i etifeddiaeth.

 

            Mynegodd y Cynghorwyr Mike Peers, Patrick Heesom, Tony Sharps, Chris Bithell, Derek Butler, Ian Dunbar, Andy Dunbobbin ac Aaron Shotton eu cydymdeimlad â gwraig a theulu’r Cynghorydd Hughes.  Talodd Aelodau deyrnged i’r Cynghorydd Hughes gan siarad am gryfder ei gymeriad a’i reddf, ei ymddygiad rhagorol, ei ofal a’i garedigrwydd tuag at eraill, ei hiwmor, ei frwdfrydedd a’i barodrwydd i helpu achos da. Dywedwyd nad oedd unrhyw beth yn ormod o drafferth i’r Cynghorydd Hughes a oedd yn weithiwr caled ac yn ?r bonheddig. Er gwaethaf ei frwydr i geisio trechu ei salwch ei hun, fe wnaeth ei orau i rybuddio eraill am beryglon y Coronafeirws ac fe anfonodd neges i’r holl Aelodau o’r ysbyty yn annog iddyn nhw a thrigolion Sir y Fflint i ddiogelu eu hunain.

 

            Dywedodd y Cadeirydd ei bod hefyd wedi derbyn negeseuon o gydymdeimlad gan Brif Weithredwr Cyngor Bwrdeistref Wrecsam a’r Parchedig Daniel Stroud. Roedd llyfr cydymdeimlo dros y we’ ar gael ar wefan yr Awdurdod er mwyn i Aelodau a Swyddogion eraill allu talu teyrnged i’r Cynghorydd Hughes.

 

Wrth dalu teyrnged, siaradodd y Prif Weithredwr ar ran Swyddogion yr Awdurdod gan ddweud eto bod y Cynghorydd Hughes yn ddyn a oedd yn boblogaidd ac yn uchel iawn ei barch, ac roedd wedi gwasanaethau’r Cyngor yn dda. Cydymdeimlodd yn ddwys gyda’i deulu a’i ffrindiau ar eu colled a chytunodd gyda’r hyn a fynegwyd eisoes.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd hefyd at y newyddion trist am farwolaeth y cyn Gynghorydd Norma Humphreys a oedd wedi bod yn Aelod hirsefydlog o’r Awdurdod ac wedi cynrychioli Ward Higher Kinnerton tan 2012. Siaradodd y Cadeirydd am y gefnogaeth a’r caredigrwydd a ddangosodd y Cynghorydd Humphreys tuag ati pan ymunodd â’r Awdurdod fel Cynghorydd newydd-etholedig. Mynegodd ei chydymdeimlad â’i theulu a’i ffrindiau yn dilyn eu colled.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r Aelodau ymuno â hi mewn munud o dawelwch er mwyn talu teyrnged i’r Cynghorwyr Kevin Hughes a Norma Humphreys.