Agenda item

Hunanwerthuso Gwasanaethau Addysg

Rhoi diweddariad i’r Aelodau ar berfformiad hollgynhwysfawr gwasanaethau dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Cofnodion:

            Cyflwynodd y Prif Swyddog (Addysg ac Ieuenctid) yr adroddiad hunanwerthuso ac esboniodd, oherwydd y pandemig, nad yw’r wybodaeth wedi’i strwythuro yn y ffordd arferol yn erbyn Fframwaith Estyn ar gyfer archwilio Gwasanaethau Addysg Llywodraeth Leol, sydd wedi ei ohirio dros dro ynghyd â chasgliadau data allweddol gan Lywodraeth Cymru.  Cyfeiriodd at adroddiadau blaenorol i gyfarfodydd a fynychwyd gan gydweithwyr o GwE ac Estyn, gydag Adolygiad Thematig y Gwasanaethau Rhanbarthol a gyflwynwyd yn y cyfarfod diwethaf, ac ynghlwm â’r adroddiad roedd y llythyr a anfonwyd at Gyngor Sir y Fflint gan Estyn a oedd yn crynhoi asesiad cadarnhaol o’r gwaith a wnaed mewn ysgolion yn ystod y cyfnod hwn.  Darparwyd gwybodaeth hefyd am y camau nesaf a’r blaenoriaethau yng Nghynllun y Cyngor.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod fformat yr adroddiad yn ddefnyddiol iawn er mwyn darparu gwybodaeth am yr holl feysydd gwasanaeth.  Gwahoddodd gwestiynau ar bob un o’r meysydd gwasanaeth, fel yr amlinellwyd yn Atodiad 1 yr adroddiad.

 

Gwasanaeth Cynhwysiant a Datblygu

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at y paragraff olaf ar dudalen 54 a gofynnodd pam nad yw’r hyfforddiant ar gael i bawb, gan gofio ei fod nawr yn gynnig ar-lein heb gyfyngiadau ymarferol.  Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’n cyfeirio hyn at yr Uwch Reolwr (Cynhwysiant a Datblygu) i roi ymateb. 

 

            Gofynnodd Mrs Stark a ystyriwyd darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cwnsela a seicoleg ar gyfer pobl ifanc wrth symud ymlaen ac a yw ysgolion yn gwybod am ddisgyblion sydd eisoes angen y gefnogaeth honno.  Wrth ymateb cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y Comisiynydd Plant wedi tynnu sylw at hyn a bod Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cwnsela i gefnogi gwasanaethau Anghenion Dysgu Ychwanegol yn y gorffennol ac y byddai hyn yn flaenoriaeth wrth symud ymlaen.  Mae rhaglen adfer gyfannol gref ar waith gan gydweithwyr yn y byd Iechyd a CAMMS a Gwasanaethau Plant er mwyn sicrhau model gofal estynedig i gefnogi’r plant a’r bobl ifanc hyn.  Ychwanegodd fod cyllid ychwanegol ar gael y llynedd i gefnogi iechyd a lles emosiynol pobl ifanc.

 

Gwasanaeth Cyfle Cynnar

 

            Gofynnodd y Cadeirydd am esboniad o’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws.  Wrth ymateb, esboniodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru wedi atal y cynnig gofal plant dros dro a chreu Cynllun Cymorth Gofal Plant drwy gyfnod y Coronafeirws ac, yn debyg i ysgolion a fu’n cynnig gofal plant i weithwyr allweddol yn ystod y pandemig, darparodd Llywodraeth Cymru gyllid ar gyfer y gwasanaeth hwn er mwyn cynnig yr un gefnogaeth i weithwyr allweddol.  Cafodd ei reoli gan y tîm Gofal Plant yn adran y Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

            Gofynnodd Mrs Stark a oedd Llywodraeth Cymru wedi rhagweld effaith y bwlch mewn addysg ar gyfer dysgwyr ifanc yn y blynyddoedd cynnar ac a fyddai hyn yn cael ei ystyried wrth fesur eu perfformiad.   Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog fod hyn yn cael ei drafod a chyfeiriodd at Gwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ar gyfer plant 3 i 7 oed sy’n edrych ar y plentyn a’u datblygiad personol a chymdeithasol yn gyntaf, ac yna’n darparu cefnogaeth mewn meysydd dysgu gwahanol.  Cadarnhaodd fod y blynyddoedd cynnar yn chwarae rhan flaenllaw yn y Rhaglen Adfer Genedlaethol a’i bod yn rhan o drafodaethau er mwyn siapio’r gwaith hwnnw wrth symud ymlaen.  

 

            Cadarnhaodd yr Arweinydd, fel Llefarydd Addysg CLlLC, ei fod yn pwysleisio beth yw anghenion y Cyfnod Sylfaen gan mai’r gr?p oedran hwn oedd y lleiaf abl i fanteisio ar unrhyw fath o ddysgu cyfunol ar-lein.  Roedd yn falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu mai’r Cyfnod Sylfaen fyddai’r blynyddoedd cyntaf i ddychwelyd i’r ysgol a bod y cyfleoedd mae’r plant hynny wedi eu colli yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, sydd wedi darparu adnoddau sylweddol ar gyfer y rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a fyddai’n galluogi pob plentyn a pherson ifanc i dderbyn y cymorth hwnnw pan fydden nhw’n dychwelyd i’r ysgol. 

 

            Soniodd y Cynghorydd Paul Cunningham fod yr elfen iaith a lleferydd o hyn yn bwysig fel bod y plant ifanc yn gallu mynegi eu hunain.   Dywedodd y Prif Swyddog na fyddai’r holl blant angen cefnogaeth gyda’u hiaith a’u lleferydd ac y byddai llawer o blant wedi cael cefnogaeth gan eu rhieni yn ystod y cyfnod hwn ac wedi elwa o’r amser hwnnw yn eu swigen deulu.   Ychwanegodd yr Arweinydd fod angen estyn diolch i rieni a gofalwyr am helpu gydag addysg eu plant yn ystod y cyfnod hwn ac edrychai ymlaen at weld yr holl blant yn dychwelyd i’r ysgol ar ôl y Pasg.

 

Gwasanaeth Darpariaeth Ieuenctid Integredig

 

            Cyfeiriodd y Cadeirydd at dudalen 71 yr adroddiad a’r cyfeiriad a wneir at gael Gweithiwr Ieuenctid Pwrpasol yn gweithio un diwrnod yr wythnos mewn 5 Ysgol Uwchradd a gofynnodd a oedd hyn yn ateb y galw neu a oedd diffyg adnoddau’n atal yr ysgolion eraill rhag cymryd rhan.  Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog mai diffyg adnoddau yw’r broblem a bod gwaith yn mynd rhagddo i gael Gweithiwr Ieuenctid ymhob ysgol ond bod hyn yn dibynnu ar ailalinio ac arbedion effeithlonrwydd adnoddau o fewn y gwasanaeth.

 

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Sir y Fflint a Sorted Sir y Fflint

 

            Gofynnodd y Cadeirydd a oedd newidiadau wedi eu gwneud i’r Polisi Gwaharddiadau a’r Polisi Camddefnyddio Sylweddau ac ai’r mater i’w adolygu fyddai ystyried a yw’r drosedd gyntaf o gael eu dal â chyffuriau yn eu meddiant yn arwain at waharddiad parhaol.   Wrth ymateb, esboniodd y Prif Swyddog eu bod wedi edrych ar y rhesymau dros wahardd disgyblion a bod camddefnyddio sylweddau ac ymddygiad treisgar yn rhan o hynny.  Rhaid ailedrych ar y polisi’n rheolaidd er mwyn galluogi ysgolion i fod yn gadarn yn y ffordd maen nhw’n rheoli’r troseddau hyn a bod y bobl ifanc hyn weithiau’n ddioddefwyr mewn sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i’w rheolaeth a bod angen i’r Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid chwarae rhan fwy blaenllaw mewn ysgolion.

 

            Gofynnodd Ms Wendy White a yw’r polisi dim goddefgarwch ynghylch troseddau’n ymwneud â chyffuriau mewn ysgolion hefyd wedi ystyried cynlluniau ar y cyd gyda phobl sy’n defnyddio neu’n gwerthu cyffuriau.  Cytunodd y Prif Swyddog y byddai’n trafod yr awgrym hwn ymhellach gyda Ms White y tu allan i’r cyfarfod.

 

Gwasanaeth Cynllunio a Darpariaeth Ysgolion

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at yr Uned Cyfeirio Disgyblion a gofynnodd a oes cynlluniau i ddefnyddio neu i gael gwared â’r asedau sydd ddim yn cael eu defnyddio yno mwyach.  Wrth ymateb, cadarnhaodd y Prif Swyddog y byddai’r rhain y tu hwnt i gyfrifoldeb y portffolio ac y bydden nhw felly’n cael eu dychwelyd i’r tîm asedau cyfalaf.

 

Dywedodd y Cadeirydd fod hwn yn adroddiad sylweddol ac y byddai’n werth ystyried y fformat eglur ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion, a amlinellwyd yn yr adroddiad, gan y Cynghorwyr Tudor Jones a Dave Mackie.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Nodi’r adroddiad; a

 (b)      Nodi’r adroddiad thematig cadarnhaol a wnaed gan Estyn ar waith y gwasanaethau addysg yn Sir y Fflint i gefnogi plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig.

 

 

Dogfennau ategol: