Agenda item

Adfywio'r Stoc Tai Bresennol

Pwrpas:        Amlinellu’r gwaith a wneir i adfywio stoc tai bresennol y Cyngor.  

 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac asedau) adroddiad er mwyn darparu diweddariad ar gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS) yr oedd y Cyngor yn ei ddarparu drwy ei Raglen Buddsoddi Cyfalaf.  Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y llwyddiannau a’r daith hyd yma.  Eglurodd y byddai’r Rhaglen Waith WHQS wedi cyrraedd ei blwyddyn olaf (2020-2021) o’r Rhaglen Gyfalaf chwe blynedd, ond fe’i hestynnwyd am flwyddyn arall oherwydd effaith pandemig Covid.  Roedd yr adroddiad yn ddiweddariad ar yr hyn oedd wedi ei gyflawni a sydd i’w gyflawni cyn y terfyn amser estynedig yn Rhagfyr 2021.

 

Darparodd Uwch Reolwr Tai ac Asedau wybodaeth gefndirol a chyflwynodd ystyriaethau allweddol fel y manylwyd ar hynny yn yr adroddiad.   Dywedodd bod yna nifer o eiddo ble nod oedd y Cyngor yn gallu darparu’r WHQS oherwydd, am amrywiaeth o resymau, ni roddodd y tenantiaid ganiatâd i’r gwaith gael ei wneud, ond pan fo’r eiddo yn dod yn wag, roedd y gwaith yn cael ei wneud er mwyn codi’r eiddo i’r safon ofynnol.  O 23 Mawrth 2020 daeth yr holl waith WHQS ar eiddo’r cyngor ac ardaloedd cymunol i ben, gyda’r adnoddau yn cael eu canolbwyntio ar eiddo oedd yn cael eu cau/cwblhau’n ddiogel a sicrhau bod yr holl denantiaid a gwaith yn cael ei gadael yn ddiogel.  O ran elfen gyfalaf y gwaith, parhaodd yr holl waith ymatebol, brys a chydymffurfiaeth.  Ar ôl llacio’r cyfyngiadau clo a chyhoeddi mwy o ganllawiau ar 14 Mehefin 2020, cymerwyd mwy o gamau.  Mae trafodaethau yn mynd rhagddynt gyda Llywodraeth Cymru (LlC) ar effaith y pandemig ar raglen WHQS.

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod y Gwasanaeth wedi bod yn destun archwiliadau ac adolygiadau ar berfformiad y Cyngor o ran darparu’r WHQS.  Rhoddodd sicrwydd bod Swyddfa Archwilio Cymru (WAO) ac Archwilio Mewnol wedi canfod bod y Cyngor yn gwneud cynnydd da tuag at gyrraedd WHQS ac ni chodwyd unrhyw faterion sylweddol.  Adroddodd hefyd bod yr archwiliadau wedi nodi bod tenantiaid y Cyngor yn fodlon ag ansawdd y gwaith a wnaethpwyd ar eu cartrefi a dywedodd bod Arolwg Bodlonrwydd Tenantiaid WHQS ar 96% (yr uchaf hyd yma). 

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod LlC wedi ymrwymo i greu sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 ac i gydlynu camau er mwyn helpu meysydd eraill yr economi i roi’r gorau i ddefnyddio tanwydd ffosil.  Roedd Deddf Yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i LlC leihau allyriadau nwyon t? gwydr (GHG) yng Nghymru o 80% o leiaf erbyn 2050, gyda system o dargedau allyriadau interim a chyllidebau carbon.  Byddai’n ofynnol i’r Cyngor sicrhau bod ei gartrefi yn cyflawni’r lefel uchaf posibl o ran effeithiolrwydd thermol a pherfformiad ynni (EPC lefel A) erbyn 2030.  Fel rhan o’r WHQS, ar hyn o bryd mae’n ofynnol i eiddo’r Cyngor fodloni isafswm o SAP 65 (EPC Lefel D).  Mae trafodaethau â LlC yn parhau ynghylch y gofyniad i gaffael a chyflawni rhaglen ôl-osod fawr.  Yn ystod y 12 mis nesaf bydd swyddogion yn darparu cynlluniau fel rhan o’r rhaglen reoli asedau a datgarboneiddio ehangach i Aelodau i’w hystyried, fydd yn cynnwys yr heriau a’r opsiynau buddsoddi.

 

Yn ogystal â’r gwaith y manylwyd arno yn yr adroddiad, dywedwyd wrth yr Aelodau bod angen ystyried mater ehangach y posibilrwydd o gynnal cynlluniau adfywio ar rai o ystadau’r Cyngor yn hytrach nag ymrwymo i ased fydd yn ddrud i’w cynnal, fydd â nifer uchel o lefydd gwag ac sydd yn ddrud i’w gwresogi a’i cynnal i’r tenant.  

 

Mynegodd y Cadeirydd ei gefnogaeth i’r cynnydd a wnaethpwyd o ran darparu’r rhaglen WHQS.  Mynegodd bryderon ynghylch recriwtio i’r Cyngor er mwyn sicrhau bod ei stoc tai yn bodloni effeithiolrwydd thermal a pherfformiad ynni (EPC lefel A) erbyn 2030. Rhoddodd sylwadau hefyd ar Wrthodiadau Tenantiaid neu Ddim Mynediad (Methiannau Derbyniol) a gofynnodd pa gynnydd oedd yn cael ei wneud ynghylch y broblem hon.  Eglurodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod gwrthodiadau yn digwydd am nifer o resymau, a phetai’r tenant yn newid ei feddwl, y gallai’r gwaith gael ei wneud yn ddiweddarach.  Petai’r eiddo yn dod yn wag, pwysleisiodd y byddai’r gwaith yn cael ei wneud er mwyn bodloni gofynion WHQS.  Gan gyfeirio at y pryderon a fynegwyd ynghylch EPC Lefel A, dywedodd bod Arolygon Cyflwr Stoc Mewnol y Cyngor yn cynnig dealltwriaeth dda o effeithiolrwydd thermol pob eiddo ac mai hynny oedd y ffordd fwyaf effeithiol o ddod â’r stoc tai i’r lefel EPC gofynnol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Dennis Hutchinson bod y gwelliannau a wnaed i stoc tai y Cyngor i’w canmol.  Gofynnodd am sicrwydd y byddai’r Gwasanaeth yn cyrraedd y targedau a nodwyd gan LlC ar gyfer WHQS a gofynnodd a fyddai cosbau yn cael eu rhoi neu beidio.  Dywedodd y Prif Swyddog bod LlC wedi bod yn hyblyg o ran caniatáu estyniad o 12 mis i awdurdodau lleol oedd wedi gofyn am hynny fel cydnabyddiaeth o effaith y pandemig ar weithredu rhaglen WHQS.  Dywedodd bod swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â LlC, nad oedd yn bwriadu rhoi unrhyw gosbau, a rhoddodd sicrwydd b od y Cyngor yn gwneud cynnydd da tuag at gwblhau’r Rhaglen.  Hefyd rhoddodd y Prif Swyddog sylwadau ar y posibilrwydd o gael mwy o ffrydiau cyllid, fyddai’n golygu bod y gwaith yn parhau ac y byddid yn ceisio amcanion gwahanol i’r WHQS.  

 

Dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau bod y prif waith oedd ar ôl i’w gwblhau ar eiddo’r cyngor yn waith allanol, a chyfeiriodd at estyniadau, llwybrau troed a gerddi fel enghreifftiau.  Dywedodd y gellid bwrw ymlaen â gwaith allanol yn gyflymach oherwydd nad oedd hynny angen yr un lefel mynediad â gwaith mewnol, ac felly roedd yn llai tebygol o gael ei wrthod gan y tenant.  Dywedodd bod yr holl waith mewnol sylweddol bron wedi ei gwblhau.  

 

Ymatebodd y Prif Swyddog i’r sylwadau a’r pryderon a fynegwyd gan y Cynghorydd Geoff Collett mewn perthynas â chost a chyfeiriad rhaglen datgarboneiddio LlC. Awgrymodd y Cynghorydd Collett y dylid cynnal gweithdy er mwyn galluogi Aelodau i ddeall y Strategaeth Datgarboneiddio yn well pan fo hynny’n briodol.  Cytunodd yr Uwch Reolwr Tai ac Asedau i ddarparu seminar ar gyfer Aelodau ar ôl i’r Strategaeth gael ei datblygu er mwyn rhannu’r ystod o fesurau a gynigiwyd a sut y byddai hynny yn cael ei gymhwyso.

 

Mynegodd y Cynghorydd Brian Lloyd bryderon ynghylch yr amgylchedd yr oedd rhai tenantiaid wedi ei brofi y tu allan i’w cartrefi, gan gyfeirio at broblem annerbyniol ysbwriel yn cael ei adael mewn gerddi ffrynt a chefn, ffensys wedi torri ac ysbwriel, fel enghreifftiau.  Gofynnodd pa gamau gorfodi ellid eu cymryd yn erbyn tenantiaid nad oedd yn cydymffurfio ag amodau eu tenantiaeth ac nad oedd yn ystyried eu cymdogion a’u cymunedau lleol.  Dywedodd yr Uwch Reolwr Tai ac asedau y byddai gwaith atgyweirio i ffensys, llwybrau troed a gerddi etc. Yn cael ei nodi a’i wneud yn ystod cymal olaf y gwaith i gwblhau’r WHQS.  Roedd y Gwasanaeth yn gwella’r broses o riportio achosion o dorri amodau tenantiaeth, er mwyn sicrhau y gallai pobl fyw mewn amgylchedd da a dymunol  Dywedodd y Prif Swyddog nad oedd yn dderbyniol bod cymunedau lleol yn dioddef oherwydd nifer fechan o unigolion,  a chyfeiriodd hefyd at fenter ‘Tai Hyfryd’ LlC oedd yn canolbwyntio ar greu llefydd mwy gwyrdd, parcio oddi ar y stryd etc. Cyfeiriodd at effaith y pandemig ac at oedi o ran prosesu materion gorfodi tenantiaeth yn gyfreithiol, ond dywedodd y byddai tenantiaid fyddai’n gwrthod cydymffurfio â’u hamodau tenantiaeth yn wynebu camau gorfodi maes o law beth bynnag.    

 

Cynigwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Ron Davies ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Kevin Rush.

 

PENDERFYNWYD:

 

Nodi’r cynnydd a wnaed o rad darparu rhaglen WHQS a chefnogi’r Rhaglen Buddsoddi Cyfalaf yn ystod ei blwyddyn olaf.

 

Dogfennau ategol: