Agenda item

Ymateb Cyngor Sir y Fflint i Ymgynghoriad Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru

Ceisio sylwadau Craffu am ymateb Cyngor Sir y Fflint i Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Trafnidiaeth adroddiad ar ymateb y Cyngor i Strategaeth Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru. Dywedodd fod y Strategaeth Drafnidiaeth wedi dod i ben a bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Strategaeth ddrafft newydd ‘Llwybr – Newydd – Strategaeth Drafnidiaeth Newydd ar gyfer Cymru gyda chais am sylwadau/awgrymiadau gan unrhyw un â diddordeb erbyn 25 Ionawr 2021.  Dywedodd fod yr adroddiad yn rhoi trosolwg o gynnwys Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru tra hefyd yn rhannu manylion ymateb arfaethedig y Cyngor i’r broses ymgynghori ffurfiol ar gyfer sylw ac ychwanegiadau gan y Pwyllgor Craffu. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Trafnidiaeth wybodaeth gefndir ac adroddodd ar y prif ystyriaethau, fel y manylwyd yn yr adroddiad. Dywedodd yn dilyn adolygiad o’r strategaeth ddrafft newydd roedd y Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad wedi’i llenwi ac wedi’i hatodi i’r adroddiad er gwybodaeth ac ar gyfer sylwadau.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Patrick Heesom at y Cyd Gynllun Trafnidiaeth Lleol (JLTP) a dywedodd y byddai’n ddefnyddiol os byddai darpariaeth bresennol y JLTP ar gael i’r Aelodau. Hefyd cyfeiriodd at baragraff 1.09 yn yr adroddiad a mabwysiadu Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig a dywedodd nad oedd y system drafnidiaeth bresennol yng Ngogledd Cymru yn addas i’r diben. Mynegodd nifer o bryderon am y mater o goridorau trafnidiaeth. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Heesom at gynigion Llywodraeth Cymru i gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a fyddai’n paratoi’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a gofynnodd am eglurhad yngl?n â rôl yr Awdurdod ar hwn.    Gofynnodd y Cynghorydd Heesom a fyddai’n bosibl anfon copi gwag o Ffurflen Ymateb i’r Ymgynghoriad ato er mwyn iddo allu cyflwyno ei sylwadau a’i awgrymiadau ei hun ar yr ymgynghoriad. 

 

Ymatebodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Stryd a Chludiant) i’r pryderon lleol a strategol a fynegwyd gan y Cynghorydd Heesom. Rhoddodd eglurhad pellach am y JLTP, rôl y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol a’r rhwydwaith Cefnffordd. Hefyd rhoddodd y Prif Swyddog y wybodaeth ddiweddaraf ar y pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Heesom yngl?n â’r llwybr Coch. Rhoddodd y Prif Swyddog sicrwydd bod yna gynrychiolaeth dda o’r Awdurdod ar y Grwpiau Rhwydwaith Trafnidiaeth Gogledd Cymru a dywedodd fod y gwaith a wnaed gan Sir y Fflint wedi’i gydnabod gan Lywodraeth Cymru fel model ar gyfer arfer da ar draws Gogledd Cymru.   

 

Mewn ymateb i’r cwestiynau pellach a ofynnwyd gan y Cynghorydd Heesom yn ymwneud ag ardal Doc Mostyn, eglurodd y Prif Swyddog fod cynllun trafnidiaeth yr Awdurdod wedi’i ymestyn i gynnwys pob ardal yn Sir y Fflint. Dywedodd y derbyniwyd cyllid gan Lywodraeth Cymru i edrych ar holl gysylltiadau trafnidiaeth yng ngogledd y Sir oedd yn cynnwys Dociau Mostyn. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Paul Shotton am y wybodaeth ddiweddaraf ar y partneriaethau Bws Ansawdd, trefniadau cynnal a chadw ac arwyddion ar Bont Sir y Fflint, a’r Llwybr Coch. Yn ei ymateb, eglurodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru yn cynnig fod Trafnidiaeth Cymru yn derbyn y rôl ar draws Cymru i gyflwyno partneriaethau o ansawdd ar rwydweithiau craidd ac y byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno yng nghyfarfod nesaf y Cabinet ar gyfer ystyriaeth.  Dywedodd y Prif Swyddog y gofynnir am eglurhad ar y llwybr coch a bod yr Awdurdod yn ei gefnogi. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd David Evans at yr ymateb a ddarparwyd i Gwestiynau 5 (targedau ar gyfer defnydd Teithio Llesol) a 9 (ffioedd ffordd) yn y Ffurflen Ymateb (ynghlwm gyda’r adroddiad). Wrth gydnabod y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Evans, rhoddodd y Rheolwr Trafnidiaeth eglurhad am y sail resymegol a’r pwyntiau a wnaed yn yr ymateb i’r ymgynghoriad.. Mewn perthynas â chwestiwn 9, nodwyd  na fyddai unrhyw dâl ffordd yn anfantais i gymunedau gwledig sy’n dibynnu mwy ar eu ceir, oherwydd diffyg cludiant cyhoeddus rheolaidd a llwybrau Teithio Llesol lleol.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Owen Thomas yngl?n â’r A55 a llwybrau gwyriad, dywedodd y Prif Swyddog fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar bwyntiau pwysedd a chapasiti ar hyd y llwybr.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru gan Lywodraeth Cymru yn uchelgeisiol a byddai angen newid ymddygiad pobl i’w symud ymlaen. Cyfeiriodd at gynnydd ar hydrogen, darparu pwyntiau gwefru ceir trydan, coridor Sir y Fflint (y Llwybr Coch yn flaenorol), croesfan Pont Sir y Fflint a’r rhwydwaith bws. 

 

Siaradodd y Cynghorydd Derek Butler am yr angen am fwy o gyfleoedd/integreiddio cludiant cyhoeddus i fod ar gael i alluogi pobl i deithio ar draws Swydd Gaer, Wrecsam a Glannau Mersi.  Dywedodd fod y pandemig wedi newid sut oedd pobl yn byw ac yn gweithio ac ailadroddodd yr angen am adnoddau i gael eu cyfeirio tuag at wella’r rhwydwaith cludiant cyhoeddus at ddibenion cyflogaeth ac economaidd.

 

Roedd y Cynghorydd George Hardcastle yn mynegi pryderon yngl?n â’r oedi gyda’r gwelliannau ar yr A494.

 

Eglurodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod yna ddeiseb wedi cael ei chyflwyno. Roedd gwaith yn cael ei wneud gyda gwybodaeth ar lif traffig a’r effaith amgylcheddol.   Dywedodd y Prif Swyddog fod cyfarfodydd rheolaidd yn cael eu cynnal gyda swyddogion yn Llywodraeth Cymru i nodi’r dyddiad dechrau ar gyfer yr A494 a chynlluniau arfaethedig eraill.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Chris Bithell at y gwasanaethau bws a dywedodd bod llawer o’r amserlenni bws mewn arosfannau bysiau wedi dyddio a bod rhai gwasanaethau wedi dod i ben. Dywedodd bod angen annog y cyhoedd i ddefnyddio cludiant cyhoeddus a dywedodd bod diffyg gwybodaeth ddiweddaraf yn broblem nad oedd yn annog hyn.  Cyfeiriodd y Cynghorydd Bithell at ymateb arfaethedig y Cyngor i gwestiwn 10 fel y manylwyd yn y Ffurflen Ymateb yn ymwneud ag effaith ar y Gymraeg. Teimlodd fod angen rhoi mwy o bwyslais ar bwysigrwydd cynnal cysylltiadau trafnidiaeth mewn ardaloedd gyda siaradwyr Cymraeg a dywedodd am bwysigrwydd y diwydiant croeso a thwristiaeth.Pwysleisiodd yr angen am arwyddion dwyieithog at ddibenion twristiaeth a phriffyrdd er mwyn hybu’r iaith a diwylliant Cymraeg.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Owen Thomas a'i eilio gan y Cynghorydd Chris Dolphin.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn argymell bod y Cabinet yn cymeradwyo ymateb y Cyngor i’r broses ymgynghori ffurfiol ar Strategaeth Drafnidiaeth ddiwygiedig Llywodraeth Cymru. 

 

Dogfennau ategol: