Agenda item
YMARFER PWERAU DIRPRWEDIG
Pwrpas: Darpau manulion y camau a gymerwyd o dan bewrau.
Cofnodion:
Cyflwynwyd eitem er gwybodaeth am y camau gweithredu a gymerwyd o dan bwerau dirprwyedig. Y rhain oedd y camau gweithredu dan sylw:
Gwasanaethau Stryd a Chludiant
- Ffioedd Archebu Caeau Pêl-droed Tymhorau 2019/20 a 2020/21
Bydd angen adolygu'r ffioedd a'r taliadau a godir am ddefnyddio caeau Pêl-droed ar safleoedd hygyrch i'r cyhoedd ledled Sir y Fflint yng ngoleuni'r cyfyngiad a osodir ar Glybiau Pêl-droed oherwydd yr ymateb i bandemig byd-eang Covid-19. Mae'r cyfyngiadau hyn wedi gwahardd Clybiau rhag hyfforddi neu chwarae ers mis Mawrth 2020, a fydd yn golygu y byddai eu gallu i ddefnyddio cyfleusterau a chynhyrchu incwm i dalu ffioedd o'r fath yn gyfyngedig iawn.
Cesglir ffioedd fel arfer ym mis Awst bob blwyddyn cyn dechrau pob tymor, ond oherwydd y cyfyngiadau sydd mewn grym ar hyn o bryd, ac ymholiadau gan y clybiau am y diffyg defnydd yn ystod cyfyngiadau, derbyniwyd archebion ond ni chyflwynwyd anfonebau nes bod mwy o wybodaeth ar gael am sut roedd Cymdeithas Bêl-droed Cymru (WFA) yn mynd i gynghori ar symud pêl-droed ar lawr gwlad yn ei flaen. Ailddechreuodd gemau Cwpan Iau ar 28 Tachwedd 2020. Mae dwy ystyriaeth ar gyfer Sir y Fflint:
1 Darparu ad-daliad i glybiau am y cyfnod o beidio cael defnyddio ar ddiwedd tymor 2019/20
2 Lleihau'r tâl ar gyfer tymor 2020/21 er mwyn ystyried y cyfnod argaeledd byrrach.
- Ffioedd a Thaliadau Gwaith Stryd ar gyfer 2020/21
Mae ffioedd a thaliadau a godir ar gyfer trwyddedau a cheisiadau amrywiol o fewn Gwaith Stryd wedi eu hadolygu ac mae’r taliadau arfaethedig ar gyfer 2021/22 wedi’u nodi yn y tabl isod:
Bydd yr holl daliadau newydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2021.
Disgrifiad |
Ffi Bresennol |
Ffi Ddiwygiedig o 01.04.2021 |
Trwydded Adran 50 |
£551 |
£562 |
Cau Ffordd Oherwydd Argyfwng |
£809 |
£825 |
Rhybudd o orchymyn traffig dros dro |
£1967 |
£2006 |
Diffodd goleuadau traffig |
£132 (diwrnod gwaith) a £197 (y tu allan i oriau gwaith) |
£134 (diwrnod gwaith) a £200 (y tu allan i oriau gwaith) |
Cau safle bws |
£132 (diwrnod gwaith) a £197 (y tu allan i oriau gwaith) |
£134 (diwrnod gwaith) a £200 (y tu allan i oriau gwaith) |
Llywodraethu
- Cyflwyno Taliadau Debyd Uniongyrchol Wythnosol ar gyfer Ardrethi Busnes ac Opsiwn Debyd Uniongyrchol bob Pedair Wythnos ar gyfer Talwyr Treth y Cyngor
Ar hyn o bryd mae'r Cyngor yn darparu opsiynau hyblyg i aelwydydd dalu eu bil Treth y Cyngor drwy daliad wythnosol, misol, hanner blwyddyn neu fel taliad untro. Bydd hynny'n cael ei ymestyn i ganiatáu taliad 4 wythnos hefyd drwy ddebyd uniongyrchol.
Mae'r Cyngor hefyd yn rhoi'r dewis i fusnesau dalu eu bil Ardrethi Busnes naill ai'n fisol, bob hanner blwyddyn neu fel taliad untro. Caiff hynny ei ymestyn i ganiatáu i fusnesau dalu’n wythnosol neu trwy ddebyd uniongyrchol. Mae'r newidiadau hyn mewn ymateb i adborth cwsmeriaid.
Tai ac Asedau
- Cwt Sgowtiaid Mynydd Isa, Rhodfa'r Wyddfa, Bryn Y Baal, Ger yr Wyddgrug
Trosglwyddo Cwt Sgowtiaid Mynydd Isa a thir, Rhodfa'r Wyddfa, Bryn y Baal, Ger yr Wyddgrug.
Addysg ac Ieuenctid
- Llywodraethwyr ysgol a benodir gan awdurdodau lleol
Penodi cynrychiolwyr Llywodraethwyr Awdurdod Lleol ar gyrff llywodraethu ysgolion yn unol â Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
Dogfennau ategol: