Agenda item

Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22

Pwrpas:        Rhoi’r wybodaeth ar sefyllfa ddiweddaraf Cyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor 2021/22 yn dilyn y rownd ddiweddaraf o Bwyllgorau Craffu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr yr adroddiad a oedd yn rhoi amcangyfrif o’r gyllideb ar gyfer 2021/22 cyn y broses ffurfiol i osod y gyllideb. Roedd hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa gyllidebol genedlaethol.

 

            Roedd yr adroddiad yn ailosod strategaeth datrysiadau’r gyllideb, a oedd yn dibynnu’n fawr ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol ac nid oedd newidiadau ers y llynedd.

 

            Ymgynghorwyd â phob un o’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu ar yr amcangyfrif a’r strategaeth ar gyfer y gyllideb trwy gydol mis Tachwedd, yn enwedig ar y pwysau o ran costau a oedd wedi’u cynnwys yn yr amcangyfrif ar gyfer eu portffolios nhw.  Fe wnaeth y Pwyllgorau, fel un, y canlynol:

 

·         Cefnogi’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y gyllideb;

·         Nodi a chefnogi’r pwysau o ran costau mewn portffolios unigol;

·         Cefnogi disgwyliadau’r Llywodraethau o ran cyllid cenedlaethol;

·         Nodi a derbyn y targed arbedion effeithlonrwydd cyfun o £1-2 miliwn;

·         Peidio â chynnig unrhyw opsiynau arbedion eraill i’w hystyried; a

·         Chefnogi bwriad y Cyngor ar y polisi trethu lleol h.y. uchafswm o 5% o gynnydd blynyddol i Dreth y Cyngor.

 

Cyhoeddodd y Canghellor ganlyniad Adolygiad o Wariant y DU ar 25 Tachwedd a’r prif oblygiadau i Gymru oedd:

 

·         £1.3 biliwn o gyllid ychwanegol i Lywodraeth Cymru (LlC) (£770 miliwn i barhau i ariannu’r argyfwng a £560 miliwn o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus craidd);

·         Cynnydd i gyflogau’r sector cyhoeddus i gael eu hatal ar wahân i grwpiau gwaith penodol yn y GIG a phob un sy’n ennill llai na £24,000 y flwyddyn; ac

·         Isafswm cyflog i gynyddu 2.2% i rai 23 oed a h?n.

 

Eglurodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol bod y cyfraniad oedd ei angen i ariannu Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru, y cyfraniad i Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, a’r amcangyfrifon oedd eu hangen ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol – incwm gwasanaethau cofrestru/ysgolion wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad.

 

Roedd tri datrysiad ariannu strategol er mwyn mantoli’r gyllideb:

 

·         Cyllid y Llywodraeth (Cyllid Allanol Cyfun);

·         Trethi ac incwm lleol; a

·         Thrawsnewid ac arbedion effeithlonrwydd i wasanaethau.

 

Roedd Tabl 2 yn yr adroddiad yn nodi’r senarios i fantoli cyllideb 2021/22 ar yr isafswm angenrheidiol ar gyfer y gyllideb. Amcangyfrifon gros oedd rhai Treth y Cyngor. Byddai angen i unrhyw effaith o’r Cynllun Gostyngiadau Treth y Cyngor fod wedi’i chynnwys fel costau.

 

Roedd Tabl 3 yn yr adroddiad yn nodi’r amcangyfrif diwygiedig i’r gyllideb, yn cynnwys y pwysau o ran cyllid ysgolion, anghenion dysgu ychwanegol a chronfeydd wrth gefn yn ôl cyfarwyddyd y Cabinet, ac roedd yn dangos lefel y cyllid oedd ei angen gan LlC.

 

Nodwyd amserlen y gyllideb fel:

 

15 Rhagfyr 2020 – Cabinet – Strategaeth ac Amcangyfrif o’r Gyllideb

21 Rhagfyr 2020 – Cyllideb Ddrafft LlC

22 Rhagfyr 2020 – Setliad Dros Dro Llywodraeth Leol

23 Rhagfyr 2020 – Cabinet Arbennig (bore) a Sesiwn Briffio pob Aelod (pnawn)

19 Ionawr 2021 – Cabinet – Adolygiad o’r Gyllideb

16 Chwefror 2021 – Cabinet a’r Cyngor – Gosod y Gyllideb

2 Mawrth 2021 – Cyllideb/Setliad Terfynol LlC

 

            Byddai diweddariad yn cael ei roi ar lafar yng nghyfarfod Arbennig y Cabinet ar 23 Rhagfyr. 

 

            Roedd angen newid i Dabl 3, ar waelod y golofn gyntaf. Dylai £12.357 miliwn fod yn £2.902 miliwn.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Banks i’r pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu am fod yn gefnogol trwy gydol y broses o osod y gyllideb. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Bithell, eglurodd y Prif Weithredwr mai’r farn o hyd oedd y dylai dyfarniadau cyflog cenedlaethol gael eu hariannu’n genedlaethol. 

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r amcangyfrif wedi’i ddiweddaru ar gyfer cyllideb 2021/22;

 

 (b)      Derbyn yr adborth gan y pum Pwyllgor Trosolwg a Chraffu; a

 

 (c)      Bod y strategaeth i osod cyllideb gyfreithlon a chytbwys ar gyfer 2021/22 yn cael ei hailosod.

Dogfennau ategol: