Agenda item

Cyfuno Asedau a Diweddariad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru

I roi Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pensiwn Cymru i Aelodau’r Pwyllgor a chael cyflwyniad gan Weithredwr PPC a Darparwr Datrysiad Rheoli Buddsoddiadau, yn cynnwys symud o ecwitïau marchnadoedd newydd i’r PPC i’w gymeradwyo.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Mr Gough o Link Fund Solutions ei hun i’r Pwyllgor. Dechreuodd y cyflwyniad drwy wneud sawl sylw:      

 

-       Er gwaetha’r oedi a’r cymhlethdodau, roedd Link Fund Solutions wedi lansio 5 is-gronfa incwm sefydlog yn 2020.

-       Roedd statws lansio is-gronfa Marchnadoedd Datblygol wedi ei ddal yn ôl oherwydd y gofynion oedd i'w cynnwys yn y prosbectws, yn gysylltiedig â’r dull datgarboneiddio. Roedd Link Fund Solutions wedi anelu am lansiad yn Chwarter 2 2021 ond efallai y caiff hyn ei oedi.

 

Cyflwynodd Mr Quinn o Russell ei hun o’r Pwyllgor a nododd, ers i’r Pwyllgor gyfarfod ddiwethaf na fu gwahaniaeth o ran rheolwyr yn yr is-gronfa cyfleoedd byd-eang.

 

            Gwnaeth Mr Quinn y pwyntiau allweddol canlynol:

-       Er gwaethaf sefyllfa argyfyngus y farchnad yn Chwarter 1 2020, roedd perfformiad y portffolio cyfleoedd byd-eang yn gadarnhaol o ran elw o fuddsoddiadau. Ychwanegodd ers yr ymchwiliad, fod elw tâl-dros-ben yn gadarnhaol (c0.5% p.a.) ond cyfnod cymharol fyr yw hwn.

-       Roedd y siart ar sleid 8 yn amlinellu’r gwahaniaeth mewn twf o’i gymharu â gwerth, gyda thwf yn gwneud yn well na gwerth.

 

Gofynnodd Mr Harkin sut roedd y portffolio’n edrych wrth symud ymlaen o ganlyniad i’r newid yn llywodraeth yr UDA, o ystyried y byddai gwahanol bolisïau’n cael eu gweithredu. Cyflwynodd Mr Fitzpatrick o Russell ei hun gan ymateb drwy nodi y byddai’n dibynnu ar ganlyniad terfynol etholiad yr Unol Daleithiau. O ran sefyllfa’r senedd, credwyd ar hyn o bryd fod mwy o rwyg ac y byddai’r gweriniaethwyr yn cadw sefyllfa’r senedd ac y byddai Biden yn arlywydd. Mae’r senedd yn rheoli torri trethi (sy’n dda i’r economi a’r farchnad), yr oedd llywodraeth Trump yn ei arwain, felly roedd yn credu ei fod yn debygol o aros yn ei le. Yn gyffredinol, canlyniad cadarnhaol o ystyried yr ansicrwydd.

 

Canolbwyntiodd Mr Fitzpatrick ar y targedau ar gyfer y Cronfeydd Credyd Aml-Ased. Ers eu cychwyn, roedd y perfformiad yn gadarnhaol gydag allberfformiad o 2.8% y flwyddyn yn erbyn targed o 1.1% y flwyddyn. Mae digwyddiadau fel etholiad America a COVID-19 wedi bod yn dda i asedau credyd gan eu bod yn bwydo drwy farchnadoedd credyd.

 

Nododd mai’r elw targed yw SONIA+ 4% y flwyddyn. Yr asedau a reolir ar gyfer Partneriaeth Pensiynau Cymru gyfan ar 31 Hydref 2020 yw £636 miliwn.  Amlinellodd Mr Fitzpatrick sut mae Russell yn bwriadu cyflawni’r targed perfformiad.

 

Parhaodd Mr Fitzpatrick i nodi fod gan farchnadoedd credyd rôl o hyd i’w chwarae fel rhan o ddyrannu asedau’n ehangach, o ystyried mai elw lefel ddisgwyliedig ganolig ydyw o’i gymharu ag ecwiti. O ran rheoli tactegol, mae Russell yn defnyddio dull “derbyn risg, gwrthod risg”.

 

Siaradodd Mr Mandich am y Gronfa Cyfleoedd Byd-Eang y buddsoddodd Cronfa Clwyd ynddi. Mae wedi ei gynllunio i dargedu ôl troed carbon sydd 25% yn is na’r meincnod ar ddechrau 2021. Daw hyn yn bosibl drwy wella gweithredu portffolio (EPI) sydd wedi ei gynllunio i roi mwy o reolaeth i Reolwr y Gronfa.

 

Aeth Mr Mandich yn ei flaen wedyn at bwnc Marchnadoedd Datblygol. Nododd Mr Mandich fod is-gronfa Marchnadoedd Datblygol i’w lansio yn y 3 i 6 mis nesaf. Nod yr is-gronfa oedd darparu elw tâl-dros-ben sefydlog a chreu arbedion ffi rheolwr yr un pryd. Ar gyfartaledd ar draws Partneriaeth Pensiynau Cymru, mae’r awdurdodau’n talu c0.7% mewn ffioedd rheolwyr, ond dim ond c0.4% y disgwylir i’r is-gronfa hon ei dalu (gydag arbediad cyffredinol o fwy na £1 miliwn). Ychwanegodd Mr Mandich hefyd y byddant yn llogi arbenigwr ar Tsieina i ddarganfod cyfleoedd ar ran y Gronfa.

 

Mynegodd Mr Hibbert ei bryderon a fydd y Gronfa’n dal i fuddsoddi ar gynnydd o 4 gradd ac yn targedu gostyngiad carbon o 25% yn unig. Atebodd Mr Mandich eu bod yn ceisio darganfod ffordd o gyflawni’r gofynion angenrheidiol yn y maes hwn.

 

Gadawodd y cyflwynwyr o Russell Investments a Link Fund Solutions y cyfarfod.

 

Gwnaeth Mr Latham sylw ei fod wedi ystyried o’r blaen wrth drafod buddsoddiadau ym Mhartneriaeth Pensiynau Cymru, a fyddai’r cynnig yn cynhyrchu gwell elw wedi ei addasu yn ôl risg i Gronfa Clwyd, ac a fyddai hynny’n arbed ffioedd. Teimlai ar gyfer is-gronfa Marchnadoedd Datblygol Partneriaeth Pensiynau Cymru ei bod yn sefyllfa fanteisiol gan fod y ddwy ystyriaeth yn cael eu bodloni. Ychwanegodd fod y posibilrwydd o allyriadau carbon is yn fantais arall.

 

Ychwanegodd fod trafodaeth yn parhau ym Mhartneriaeth Pensiynau Cymru o ran cael cynrychiolydd sy’n aelod o’r cynllun.  Ond, er mwyn symud ymlaen gyda hyn bydd angen cydsyniad llawn pob awdurdod gweinyddol sy'n cymryd rhan.  Diolchodd Mr Everett i’r swyddogion am barhau i godi mater cynrychiolydd aelod o’r cynllun.  Nododd y Pwyllgor eu gobeithion am gonsensws a chytuno y byddent yn cefnogi chwilio ar y Byrddau Pensiwn cyn belled ei fod yn gynrychiolydd aelod o’r cynllun.

 

Cytunodd y Pwyllgor ar yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi a thrafod y cyflwyniad gan Weithredwr a Rheolwr Buddsoddi Partneriaeth Pensiynau Cymru.

(b)  Bod y Pwyllgor yn cadarnhau’r penderfyniad i fuddsoddi yng Nghronfa Ecwiti Marchnad Ddatblygol Partneriaeth Pensiwn Cymru.

(c)  Bod y Pwyllgor yn cytuno y dylid trosglwyddo’r asedau a dirprwyo’r amseru penodol i swyddogion Cronfa Clwyd ar Weithgor y Swyddogion.

(d)  Bod y Pwyllgor yn nodi Adroddiad Blynyddol Partneriaeth Pensiynau Cymru.

Dogfennau ategol: