Agenda item

Adborth ar Gynigion Llywodraeth Cymru i Gyflwyno Cyd-Bwyllgorau Corfforaethol

Pwrpas:        I dderbyn sylwadau gan Craffu ar gynigion Llywodraeth Cymru i gynnwys yr adolygiad o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a’u cynigion i gyflwyno Cydbwyllgorau Corfforaethol. 

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad yn gofyn am sylwadau ar gynigion Llywodraeth Cymru i gynnwys yr adolygiad o’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol  a’r cynigion i gyflwyno Cyd-bwyllgorau Corfforaethol. Cyflwynodd wybodaeth gefndir a chyfeiriodd at adran 1.12 yn yr adroddiad gan ddweud nad oedd yr Awdurdod yn gwrthwynebu mewn egwyddor y cynnig i sefydlu Cyd-bwyllgor Corfforaethol, fel dewis gwell ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol yng Nghymru a’r cost a’r amhariad fyddai’n deillio o hynny. Fodd bynnag, roedd pryderon yngl?n â chylch gorchwyl a swyddogaeth y Cyd-bwyllgorau ar y dechrau ac unrhyw bwerau yn y dyfodol, a’r effaith ar gapasiti lleol i gyflawni a rheoli swyddogaethau a chynlluniau lleol. Cyfeiriodd y Prif Weithredwr at ymatebion pellach y Cyngor i’r papur ymgynghorol ar y cynigion fel y nodir yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Yr Amgylchedd a’r Economi) mai’r dyddiad cau ar gyfer derbyn sylwadau ar ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar y Cyd-bwyllgorau oedd 4 Ionawr 2021.  Dywedodd y byddai’r Cyd-bwyllgorau yn cynnwys y chwe awdurdod lleol yng ngogledd Cymru, a Pharc Cenedlaethol Eryri. Esboniodd y byddai gan y Cyd-bwyllgorau y swyddogaethau cysylltiedig canlynol: gwella Datblygu Economaidd a Lles; Cynllunio Strategol, a Chynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol. Cyflwynodd drosolwg o’r ddwy swyddogaeth gyntaf a dywedodd fod y Cyngor yn cefnogi’r cynigion mewn egwyddor ond ei fod yn pryderu yngl?n ag amserlenni, cyllid a materion eraill. 

 

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth) wybodaeth gefndir gan adrodd ar sefyllfa’r Cyngor mewn ymateb i’r cynigion o safbwynt cynllunio trafnidiaeth. Roedd y Cyngor yn gefnogol mewn egwyddor i’r cynigion fel model rhanbarthol ond roedd ganddo rywfaint o bryderon fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Dywedodd y Cynghorydd Carolyn Thomas fod y Strategaeth Drafnidiaeth Newydd wedi cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Dywedodd ei bod hi wedi mynegi pryderon yn rheolaidd yngl?n â chadw arian ac adnoddau yn lleol, ond roedd yn cefnogi ymagwedd ranbarthol ar gyfer llwybrau rheilffyrdd a bysiau strategol. Hefyd, mynegodd ei phryderon yngl?n â’r goblygiadau wrth benodi swyddogion ar gyfer y Cyd-bwyllgorau o’r awdurdodau lleol ar gyfer pob rhanbarth, a disgwyliad Llywodraeth Cymru oedd y byddai’r rolau yn gofyn am ymrwymiad o 1-5 diwrnod yr wythnos. Pwysleisiodd yr angen i gadw gwybodaeth gwerthfawr y swyddogion lleol.  

 

Mynegodd y Cynghorydd Chris Bithell bryderon yngl?n ag amserlenni ac anawsterau posibl a fyddai’n gysylltiedig â datblygu Cynllun Datblygu Strategol rhanbarthol.  

 

Siaradodd y Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n â’r angen am seilwaith trafnidiaeth i fodloni gofynion economaidd a chymdeithasol Sir y Fflint.

 

Ymatebodd y Prif Weithredwr i sylwadau’r Aelodau a chytunodd fod angen osgoi dyblygu gweinyddiaeth a chostau a rhoddodd enghraifft o sut gellid osgoi hyn. 

 

Ategodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr angen i adrodd pryderon yr Awdurdod am y cynigion yn ôl i Lywodraeth Cymru ar faterion adnoddau, ariannu, a’r angen i gadw gwybodaeth a phrofiad swyddogion lleol. 

 

Mewn ymateb i’r pryderon a godwyd gan y Cynghorydd Patrick Heesom yngl?n ag effaith Brexit ar borthladd Caergybi, esboniodd y Prif Weithredwr fod gwaith mawr yn cael ei wneud ar lefel rhanbarthol yn ymwneud â chapasiti rheoli ffiniau a pharcio dros dro.   

 

Esboniodd y Prif Swyddog (Strydlun a Thrafnidiaeth), yn dilyn cymeradwyo a chytuno ar y strategaeth drafnidiaeth genedlaethol, y byddai angen adolygu cynlluniau a pholisïau trafnidiaeth lleol a byddent yn dod gerbron y Pwyllgor hwn i dderbyn sylwadau cyn derbyn cymeradwyaeth y Cabinet.

 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Derek Butler at y trefniadau a oedd eisoes yn eu lle ac yn gweithio ar lefel rhanbarthol, a phwysleisiodd yr angen i gyflwyno achos i Lywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer y Cyd-bwyllgorau Corfforaethol.

 

Cynigiwyd yr argymhelliad gan y Cynghorydd Joe Johnson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Paul Shotton

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn cefnogi’r ymateb i gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cyd-bwyllgorau Corfforaethol mewn perthynas â’r swyddogaeth trafnidiaeth strategol, y swyddogaeth datblygu economaidd, a’r cynigion ar gyfer llunio Cynllun Datblygu Strategol fel y nodwyd yn yr adroddiad ac yn ymateb y Gr?p Strategaeth Gynllunio.

 

Dogfennau ategol: