Agenda item

Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru – Bargen Dwf Derfynol

Cyflwyno’r dogfennau allweddol gofynnol ar gyfer cymeradwyaeth i lunio Cytundeb Bargen Terfynol ar gyfer Bargen Dwf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr adroddiad ar y  dogfennau allweddol angenrheidiol  er mwyn cael cymeradwyaeth i ddod at  y Cytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru. Dywedodd bod yr adroddiad yn cyflwyno argymhellion y Cabinet bod y Cyngor yn cefnogi ymrwymiad y rhanbarth i Gytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru.  Byddai’r Cyngor yn bartner yn, ac yn gyd-lofnodwr y Cytundeb.  Dywedodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet, mewn cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor Sir heddiw, ac yn dilyn cyngor y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yr Amgylchedd a’r Economi ac Adnoddau Corfforaethol, wedi cefnogi’r adroddiad a’r argymhellion yn llawn. 

 

Dywedodd y Prif Weithredwr bod ymrwymo i Gytundeb Terfynol ar gyfer Bargen Twf Gogledd Cymru yn bwynt arwyddocaol yn hanes y rhanbarth. Mae’r cytundeb yn bartneriaeth rhwng y chwe Awdurdod Lleol, Prifysgolion Bangor a Glynd?r,  Coleg Llandrillo a Choleg Cambria.  Eglurodd bod y 10 partner wedi derbyn ac wedi cytuno â’r ddogfennaeth berthnasol o fewn cyfnod byr gyda'r nod y byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru a Gweinidog yr Economi Cymru yn llofnodi'r Fargen Twf yn ffurfiol ganol mis Rhagfyr gan selio'r ymrwymiad a'r cyllid ar gyfer y rhanbarth ar gyfer y 15  mlynedd nesaf.  Dywedodd y byddai’r Fargen Twf yn golygu bod y rhanbarth yn cael ei gydnabod fel rhanbarth a fydd mewn sefyllfa dda i gystadlu am gyllid y DU a Llywodraeth Cymru ar gyfer twf economaidd, yn enwedig ar ôl Brexit. Mae’r Fargen Twf yn werth £1.1 biliwn i economi Gogledd Cymru a disgwylir y bydd yn creu 4,200 o swyddi newydd yng Ngogledd Cymru erbyn 2036. Yn dilyn ei lofnodi gan Lywodraethau Cymru a'r DU bydd modd gwneud  penderfyniadau ar pa bryd y gellid cychwyn rhaglenni a phrosiectau unigol ar sail ranbarthol. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai digon o gyfle i graffu ar fanylion yr holl brosiectau cyn iddynt gael eu lansio 

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a'r Economi) gyflwyniad ar y cyd ar Fargen Twf Gogledd Cymru a oedd yn ymwneud â'r pwyntiau allweddol canlynol:

 

  • partneriaeth - Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
  • Gweledigaeth Twf Gogledd Cymru
  • Strwythur Llywodraethu
  • Amserlen
  • Cytundeb Terfynol
  • Gofynion y Cytundeb Terfynol – Achosion Busnes
  • Cynllun busnes trosfwaol
  • Portffolio’r fargen twf
  • Rhaglenni
  • Incwm a gwariant
  • Goblygiadau ariannol
  • Cytundeb Llywodraethu 2
  • Cytundeb Terfynol drafft
  • Dyddiadau allweddol 

 

Adroddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol ar y goblygiadau ariannol. Cyfeiriodd at y data yn yr adroddiad a oedd yn dangos cyfanswm cyfraniadau’r partneriaid (15 mlynedd) i dalu cost y ‘benthyca’ sydd ei angen yn genedlaethol i hwyluso’r llif arian negyddol.   Dywedodd bod lefel y benthyca sydd ei angen i ddiwallu’r llif arian parod negyddol yn ddarbodus ac yn rhoi gwerth da am arian yng nghyd-destun darpariaeth amserol prosiect mor fawr. Byddai cyfraniad partner blynyddol ychwanegol y Cyngor yn cael ei gynnwys yn y gyllideb ar gyfer 2021/22 fel rhan o’r gwaith sy’n mynd yn ei flaen ar y broses gyllidol a barnwyd ei fod yn fforddiadwy.

 

Adroddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) ar y trefniadau llywodraethu ar gyfer Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Eglurodd bod Cytundeb Llywodraethu 2 yn nodi’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y Bwrdd a chyfeiriodd at y cylch gorchwyl, aelodaeth a’r trefniadau pleidleisio. Mae’r cytundeb hefyd yn nodi'r trefniadau rhwng Cyngor Sir y Fflint a Chyngor Gwynedd; ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i dalu ei siâr o’r costau a geir fel Partner yn y Cytundeb Terfynol a’r amodau tynnu’n ôl os bydd unrhyw bartner yn penderfynu peidio â mynd ymlaen.   Eglurodd y Prif Swyddog y byddai’r trefniadau craffu lleol yn berthnasol i unrhyw benderfyniad i fuddsoddi adnoddau lleol ym Mwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru.Adroddodd y Prif Swyddog ar y gwahaniaethau allweddol rhwng Cytundeb Llywodraethu 1 a Chytundeb Llywodraethu 2.

 

Dywedodd y Prif Swyddog bod yr argymhellion canlynol wedi’u gwneud gan y Cabinet yn y cyfarfod a gynhaliwyd cyn cyfarfod y Cyngor Sir.

 

(a)       Bod y Cabinet a'r Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol fel y ddogfen sy’n  amlinellu’r trefniadau  ar gyfer darparu Bargen Twf Gogledd Cymru fel y sail  dros ymrwymo i’r Cytundeb Terfynol ar y Fargen Twf a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a'r DU;

 

(b)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithredol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo'r darpariaethau perthnasol i swyddogaethau anweithredol, a bod y Cabinet y mabwysiadu'n benodol y dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl yn ‘Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1’, fel y sail dros gwblhau’r Cytundeb Terfynol ar y Fargen Twf a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.

 

(c)        Bod yn Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell yn ffurfiol bod y Cyngor yn awdurdodi'r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i lofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y partneriaid.

 

(d)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell yn ffurfiol bod y Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo cost y benthyca sydd ei angen yn ddamcaniaethol i hwyluso llif arian parod negyddol ar gyfer y Fargen Twf, a chynnwys darpariaeth yng nghyllideb y Cyngor i dalu'r cyfraniad hwn a'r cyfraniadau craidd ac atodol penodedig.

 

(e)      Bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sy’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb.

 

Adroddodd y Prif Swyddog ar swyddogaethau Gweithredol ac Anweithredol y Cyngor.

Dywedodd mai dim ond y Cyngor all arfer swyddogaethau gweithredol  a bod yn rhaid i’r Cyngor neu Bwyllgor arfer swyddogaethau anweithredol. Y Cyngor neu Bwyllgor ddylai arfer swyddogaethau’r Cabinet a swyddogaethau anweithredol. Mae’r swyddogaethau llywodraethu arfaethedig yn cwmpasu'r ddau. Eglurodd y gofynnir i’r Cyngor ystyried a chymeradwyo trefniadau anweithredol h.y. craffu y gyllideb hollgynhwysfawr, benthyca a dangosyddion darbodus. Yn ychwanegol gofynnir i’r CyngorGymeradwyo telerau hollgynhwysfawr y fargen.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Richard Jones at Atodlen 3, y Protocol Craffu, paragraff 2.5 yn yr adroddiad, a dywedodd nad yw’r datganiad yn ei farn ef yn disgrifio'r broses alw i mewn yn ddigon clir. Wrth gydnabod y pwynt a wnaed gan y Cynghorydd Jones, eglurodd y Prif Weithredwr   y byddai'r trefniadau galw  mewn fel y rhai a ddefnyddir yn barod ym mhob awdurdod lleol.  Unwaith y caiff penderfyniad ei alw i mewn ni ellir i alw’n ôl gan yr awdurdod lleol cychwynnol, fodd bynnag nid yw'r broses yn rhwystro'r 5 awdurdod lleol arall rhag galw'r un penderfyniad i mewn.   Cododd y Cynghorydd Jones  gwestiwn arall am Atodlen 7 gan ddweud  bod paragraff 11 yn cyfeirio at baragraff 12 ond yn J1 roedd y cyfeiriad at baragraff 10 nid 12. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai’n edrych i mewn i hyn c y byddai'n cael ei gynnwys fel newid bach i'r atodlen pe bai angen.

 

Siaradodd y Cynghorydd Ian Roberts o blaid y Fargen Twf Derfynol gan ddweud y byddai bron yn dyblu gwerth economi Gogledd Cymru erbyn 2035. Talodd deyrnged i'r Prif Weithredwr am ei waith diflino a'i ymrwymiad i'r Fargen Twf o’r camau cychwynnol i'r camau olaf. Yn ogystal talodd deyrnged i’r Cynghorydd Aaron Shotton am ei waith fel cyn Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru ac i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Arweinydd Cyngor Gwynedd. Canmolodd y gwaith partneriaeth a wnaed dan arweinyddiaeth Alwen Williams, Cyfarwyddwr y Rhaglen, a dywedodd bod Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru yn cael ei ddyfynnu fel enghraifft o arfer gorau gan Lywodraeth Cymru.  Cynigiodd y Cynghorydd Roberts yr argymhellion fel y’u  nodwyd uchod a gofynnodd i’r Aelodau am eu cefnogaeth. 

 

Wrth eilio’r argymhellion siaradodd y Cynghorydd Derek Butler am waith Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf a dywedodd y byddai’r Fargen Twf Derfynol yn sicrhau bod y rhanbarth mewn lle llawer gwell i wynebu'r dyfodol nag ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig. Diolchodd i’r Swyddogion am eu gwaith caled a thalodd deyrnged hefyd i Ashley Rogers, Cyngor Busnes Gogledd Cymru a Mersi a’r Ddyfrdwy am ei waith a’i gyfraniad.

 

Mynegodd y Cynghorydd Ian Dunbar bryderon am fuddsoddiad y dyfodol ym Mhorthladd Caergybi ac effaith Brexit ar Gymru a symudiad nwyddau yn y Porthladd.Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) nad yw buddsoddiad ym Mhorthladd Caergybi yn ymwneud â chludiant nwyddau yn unig ond hefyd sicrhau cyfleoedd masnachol eraill yn yr hirdymor ac enwodd fferïau a llongau mordeithiau fel enghreifftiau.  Cynghorodd y Prif Weithredwr bod Porthladd Caergybi wedi'i ddynodi fel y risg sengl mwyaf i'w reoli ar ôl Brexit yng Ngogledd Cymru a dywedodd bod trafodaethau'n cael eu cynnal gyda'r llu Rheoli Ffiniau yngl?n â chapasiti ac roedd gwaith ar y gweill yn ymwneud â gwella'r ffyrdd a lle parcio ychwanegol. Dywedodd bod Gr?p Cydlynu Strategol yn gweithio ar faterion yn ymwneud â Phorthladd Caergybi yng Ngogledd Cymru.

 

Ymatebodd y swyddogion i bryderon pellach y Cynghorydd Patrick Heesom ynghylch y polisi cludiant integredig a'r broses alw i mewn a chraffu. Dywedodd y Prif Weithredwr y byddai digon o gyfle ar gyfer craffu lleol ac i alw i mewn ddigwydd yn y ffordd aRhrferol. Rhoddodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) eglurhad ar sut a phryd y bydd y prosesau craffu a galw i mewn yn cael eu defnyddio mewn perthynas â phenderfyniadau a wneir gan y Cabined neu gan Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a chyfeiriodd at y trefniadau briffio ac adrodd.Dywedodd y Prif Weithredwr bod cyfarfodydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru yn cael eu cyhoeddi a bod gan yr aelodau hawl i'w mynychu.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Tony Sharps at bwysigrwydd Dociau Mostyn a’r bartneriaeth effeithiol a sefydlwyd gyda Chyngor Busnes Gogledd Cymru a Mersi a'r Ddyfrdwy Gofynnodd bod Dociau Mostyn a Chyngor Busnes Mersi a’r Ddyfrdwy yn cael eu cynnwys yn narpariaeth y Fargen Twf. 

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y gostyngiad hollgynhwysfawr mewn cyllid (£240m)  ar gyfer y prosiectau trawsnewid a gofynnodd a fyddai hyn yn cael effaith ar y ddarpariaeth ar gyfer gogledd Cymru. Cyfeiriodd hefyd at y trefniadau ariannu ar gyfer y Swyddfa Rheoli Portffolio a gofynnodd os oes gan unrhyw Bwyllgorau/Grwpiau eraill drefniadau talu tebyg ac a oedd angen cyfraniadau pellach i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.  Eglurodd y Prif Weithredwr bod y weledigaeth yn dal i fod yr un fath yn fras a bod y prif brosiectau'r un fath ond bod yn rhaid lleihau rhai o’r buddsoddiadau a’r rhaglenni.  Rhagwelwyd y byddai mwy o gyllid yn cael ei ddenu yn y dyfodol a soniodd am y posibilrwydd o ail Fargen Twf a chyllid atodol fel enghreifftiau. Rhoddodd y Prif Weithredwr hefyd eglurhad ar y trefniadau ar gyfer y Swyddfa Rhaglen a oedd yn cefnogi Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru. Cadarnhaodd nad oedd unrhyw daliadau i unrhyw bwyllgorau neu grwpiau eraill ac na wnaed unrhyw gyfraniadau i Fwrdd Uchelgais Gogledd Cymru ar wahân i gyfraniad partner craidd yr Awdurdod o £50 mil yn flwyddyn a chyfraniad atodol o £40k y flwyddyn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau pellach a wnaed gan y Cynghorydd Peers am graffu awgrymodd y Prif Weithredwr y dylid darparu Rhaglen Gwaith i’r Dyfodol ym mis Ionawr i hwyluso’r trefniadau ar gyfer pobl un o bwyllgorau trosolwg a chraffu’r Awdurdod.  Awgrymodd y Cynghorydd Richard Jones y dylid cynnwys y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol bob amser yn y broses graffu leol (fel cyd-bwyllgor os bydd angen) oherwydd effaith economaidd gwneud penderfyniadau.  Mewn ymateb i sylwadau pellach gan y Cynghorydd Jones rhoddodd y Prif Weithredwr eglurhad ar y broses alw i mewn a'r cyfraddau amser perthnasol.

 

Mewn ymateb i gais gan y Cynghorydd Dave Mackie cytunodd y Prif Weithredwr y byddai’n darparu rhestr o swyddogion prosiect ar gyfer y Fargen Twf unwaith y bydd wedi'i therfynu. 

 

Cafodd yr argymhelliad yn yr adroddiad ei gynnig gan y Cynghorydd Ian Roberts a’i eilio gan y Cynghorydd Derek Butler.  Ar ôl ei roi i bleidlais, cymeradwywyd yr argymhelliad yn unfrydol.  

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y cyngor yn derbyn ac yn mabwysiadu argymhellion y Cabinet, fel a ganlyn:

 

(a)       Bod y Cabinet a'r Cyngor yn cymeradwyo’r Cynllun Busnes Trosfwaol fel y ddogfen sy’n  amlinellu’r trefniadau  ar gyfer darparu Bargen Twf Gogledd Cymru fel y sail  dros ymrwymo i’r Cytundeb Terfynol ar y Fargen Twf a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a'r DU;

 

(b)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo’r darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithredol ac yn cymeradwyo'r darpariaethau perthnasol i swyddogaethau anweithredol, a bod y Cabinet y mabwysiadu'n benodol y dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl yn ‘Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1’, fel y sail dros gwblhau’r Cytundeb Terfynol ar y Fargen Twf a derbyn y Llythyr Cyllid Grant gyda Llywodraethau Cymru a’r DU.

 

(c)        Bod yn Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell yn ffurfiol bod y Cyngor yn awdurdodi'r corff atebol, Cyngor Gwynedd, i lofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y partneriaid.

 

(d)       Bod y Cabinet yn cymeradwyo ac yn argymell yn ffurfiol bod y Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo cost y benthyca sydd ei angen yn ddamcaniaethol i hwyluso llif arian parod negyddol ar gyfer y Fargen Twf, a chynnwys darpariaeth yng nghyllideb y Cyngor i dalu'r cyfraniad hwn a'r cyfraniadau craidd ac atodol penodedig.

 

(e)      Bod y Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran 151, yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sy’n angenrheidiol i gwblhau’r cytundeb.

 

Dogfennau ategol: