Agenda item

Cais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd)

Pwrpas:        Gofynnir i'r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gails am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat / Cerbyd Hacni (ar y cyd).

Cofnodion:

Cyflwynodd Arweinydd y Tîm Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am Drwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd). Tynnodd sylw at yr adrannau perthnasol o ganllawiau mabwysiedig y Cyngor ar drin euogfarnau, rhybuddion a chosbau eraill wedi’u cofnodi.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y panel, rhoddodd yr ymgeisydd wybodaeth gefndir am amgylchiadau’r euogfarn a thynnodd sylw at y cyfnod o amser a oedd wedi mynd heibio ers y drosedd gynharaf.  Roedd yn edifar am yr holl droseddau ac roedd yn cydnabod ei benderfyniadau gwael ar yr adeg honno. Aeth ymlaen i ddweud ei fod yn ystyried ei hun yn unigolyn cymwys a phriodol i ddal trwydded, ac nad oedd ganddo unrhyw faterion pellach gyda’r Heddlu.

 

Rhoddodd yr Arweinydd Tîm Trwyddedu wybod, ers cynhyrchu’r adroddiad, roedd yr ymgeisydd wedi rhoi gwybod yn syth am drosedd yrru bosibl arall. Roedd yr ymgeisydd wedi oedi i wirio efo’r Heddlu ar adeg y digwyddiad, ond nid oedd eto wedi cael gwybod am ddirwy.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cyfreithiwr, dywedodd yr ymgeisydd nad oedd ei fethiant i ddatgelu’r euogfarn gynharaf yn fwriadol, gan nad oedd wedi sylweddoli y byddai’n ffurfio rhan o’i dystysgrif Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gyda’r ail euogfarn, rhoddodd fanylion yr amgylchiadau a’i gyflwr meddyliol ar y pryd, a oedd wedi arwain ato’n cael “ennyd o orffwylledd”. Er ei fod wedi dadlau gyda chanlyniad yr erlyniad ar y pryd, roedd wedi dilyn cyngor cyfreithiol ac wedi dychryn gyda’r ddedfryd a roddwyd. Eglurodd fod ei gyflogwr wedi bod yn gefnogol iawn o’i eglurhad i’r fath raddau ei fod wedi cadw ei swydd.

 

Pan ofynnwyd gan y Cadeirydd a oedd yn dymuno gwneud rhagor o sylwadau, fe wnaeth yr ymgeisydd gydnabod bod dau benderfyniad dros nifer o flynyddoedd wedi costio’n ddrud iddo.  Roedd yn yrrwr rheolaidd ac fe ystyriodd ei hun yn ddibynadwy a gonest, ac nid oedd yn peri unrhyw risg i’r cyhoedd y byddai’n ei wasanaethu pe bai’r cais yn cael ei roi.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon bod yr holl gwestiynau perthnasol wedi’u gofyn, gofynnodd i’r ymgeisydd ac Arweinydd y Tîm Trwyddedu adael y cyfarfod tra’r oedd y panel yn dod i benderfyniad. 

 

5.1       Penderfynu ar y Cais

 

I bennu’r cais, rhoddodd y panel ystyriaeth i’r holl sylwadau llafar ac ysgrifenedig, ynghyd â Chanllaw’r Cyngor ar Drin Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill a gofnodir, yn cynnwys paragraffau 2.2, 4.1, 4.3, 4.9, 4.11 a 4.12.

 

Wrth adolygu euogfarnau blaenorol yr ymgeisydd, ystyriodd y panel ei esboniadau manwl a’i fod yn edifar am ei gamau, a hefyd ei onestrwydd yn syth, wrth roi gwybod am y drosedd yrru bosibl. O ganlyniad, teimlai’r panel – ar ôl pwyso a mesur – ei fod yn unigolyn addas a phriodol i gael Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni (ar y cyd). Fodd bynnag, wrth ystyried y drosedd ddiwethaf, roedd gan y panel rai pryderon a phenderfynwyd ei fod yn addas a chymesur i roi’r drwydded am gyfnod o 12 mis.

 

Gwahoddwyd Arweinydd y Tîm Trwyddedu a’r ymgeisydd yn ôl er mwyn ailgynnull y cyfarfod.

 

5.2       Penderfyniad

 

Rhoddodd y Cadeirydd wybod, ar ôl ystyried y sylwadau a wnaed, yn ogystal â Chanllawiau y Cyngor ar Drin Euogfarnau, Rhybuddion, Cyhuddiadau Troseddol neu gosbau eraill a gofnodir, cytunodd y panel y gellid rhoi Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni am 12 mis, lle byddai wedyn yn destun gwiriad pellach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (ar ei draul ei hun) ac y gallai ymgeisio am drwydded tair blynedd pe byddai’n dymuno.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod yr ymgeisydd, yn ôl pwysau tebygolrwydd, yn unigolyn cymwys ac addas i ddal Trwydded Yrru Cerbyd Hurio Preifat/Hacni o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 a chaniatáu Trwydded o’r fath iddo am 12 mis. 

 

Pan fydd ei Drwydded yn dod i ben, mae rhyddid i’r ymgeisydd ymgeisio am Drwydded tair blynedd a byddai’n destun gwiriad pellach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (i osgoi unrhyw amheuaeth ar ei draul ei hun).  Bydd yr holl gostau cysylltiedig, yn cynnwys y gwiriadau dywededig, yn cael eu talu gan yr ymgeisydd.