Agenda item
Monitro cyllideb refeniw 2020/21 (mis 7)
- Cyfarfod Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol, Dydd Iau, 10fed Rhagfyr, 2020 10.00 am (Eitem 42.)
- Cefndir eitem 42.
Pwrpas: Mae’r adroddiad misol rheolaidd hwn yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am fonitro cyllideb refeniw 2019/20 Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae’r sefyllfa yn seiliedig ar incwm a gwariant gwirioneddol fel yr oedd hyd at Fis 9 a rhagamcan ymlaen i ddiwedd y flwyddyn.
Cofnodion:
Rhoddodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad ar lwyddiant y Cyngor wrth wneud hawliadau i Lywodraeth Cymru am gyllid Grant Argyfwng a sut y cysonwyd yr hawliadau hyn yn erbyn y gronfa argyfwng wrth gefn o £3m a neilltuwyd ar ddechrau’r argyfwng.Roedd y cyflwyniad yn trafod:
· Cyhoeddiadau Cyllid Cenedlaethol
· Hawliadau’r Gronfa Galedi
· Hawliadau Colled Incwm
· Cronfa Hapddigwyddiad Gymeradwy o £3m
Cydnabu’r cyflwyniad lwyddiant cydweithio rhwng Llywodraeth Leol a Llywodraeth Cymru ers dechrau’r sefyllfa argyfwng. Nodwyd y byddai balans y Gronfa Hapddigwyddiad gymeradwy yn £2.616m pe bai pob hawliad yn cael ei gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr. Roedd yr elfennau colled incwm, a oedd yn aros am gymeradwyaeth, wedi cael eu hystyried yn y rhagamcanion monitro cyllideb a byddent yn arwain at symudiad cadarnhaol pe baent yn cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Byddai’r cyflwyniad yn cael ei ddosbarthu i’r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod.
Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Strategol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 7 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried. Roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai pethau’n parhau heb eu newid gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Cyllid Grant Argyfwng Llywodraeth Cymru.
Roedd y diffyg gweithredol o £0.196m yn gadarnhaol o’i gymharu â’r £0.373m yn y mis blaenorol a byddai’n gadael balans disgwyliedig o £1.415m Gronfa Hapddigwyddiad. Roedd yr adolygiad o wariant dianghenraid wedi helpu i leihau’r sefyllfa gyffredinol o £0.700m hyd yma drwy oedi gwariant a chadw swyddi gwag.
Ymysg yr amrywiadau sylweddol oedd £0.345m o gostau ychwanegol ar gyfer Lleoliadau y Tu Allan i’r Sir, a sefyllfa well o £0.148m ar gyfer Gwasanaethau Stryd a Chludiant a £0.270m ar gyfer Llywodraethu, fel y nodir yn yr adroddiad. Roedd risgiau newydd megis y cynnydd i’r galw am brydau ysgol am ddim yn cael eu monitro’n agos.
Amcangyfrifwyd y byddai 96% o arbedion effeithlonrwydd wedi’u cyflawni erbyn diwedd y flwyddyn.
Roedd y balans diwedd blwyddyn a ragamcanwyd o Gronfeydd Hapddigwyddiad yn £1.415m, gan dybio y byddai’r gorwariant o £0.196m yn cael ei dalu gan y swm oedd ar gael yn y gronfa wedi'i glustnodi at argyfwng o £3m, a fyddai’n gadael swm o £2.446m.
Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd tanwariant arfaethedig o £0.460m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £2.469m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.
Diolchodd y Cynghorydd Banks i’r swyddogion am yr adroddiad a’u llwyddiannau gyda chael cyllid grant.
Diolchodd y Cynghorydd Heesom i’r swyddogion am y cyflwyniad gwell o amrywiadau. Mewn ymateb i gwestiynau, adroddodd y Prif Weithredwr ganlyniad cadarnhaol ar drafodaethau gyda Llywodraeth Cymru ar ad-dalu colledion incwm meysydd parcio yn ystod Chwarter 2. Siaradodd hefyd am yr heriau o ran adfer marchnadoedd yn ystod y sefyllfa argyfwng oherwydd pryderon diogelwch.
Gofynnodd y Cynghorydd Jones am eglurhad ar y gostyngiad yn y gyllideb a gymeradwywyd ar gyfer Cyllid Corfforaethol a Chanolog a byddai swyddogion yn darparu ymateb ar wahân. Galwodd am barhau ag atal ffioedd meysydd parcio i gynorthwyo canol trefi. Mewn ymateb i gwestiynau, darparodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol eglurder o ran effaith y dyfarniad cyflog i athrawon. O ran y Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor, gobeithiwyd y byddai Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth ariannol ar gyfer y ddau chwarter sy’n weddill.
Siaradodd y Cynghorydd Thomas am ei phryderon ynghylch costau cynyddol cludiant a byddent yn parhau i gael eu monitro.
Yn dilyn awgrym gan y Prif Weithredwr, cytunwyd y byddai’r Pwyllgor yn derbyn adroddiad ym mis Ionawr ar y risgiau agored o’r cyfnod argyfwng a chysoni cyllid Grant Argyfwng, ynghyd â dadansoddiad o risgiau tymor hirach ar y gofrestr risg.
Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhelliad gan y Cynghorwyr Shotton a Jones.
PENDERFYNWYD:
Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 Mis 7, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd yna faterion oedd angen eu codi gyda’r Cabinet y tro hwn.
Dogfennau ategol:
- Revenue Budget Monitoring 2020/21 (Month 7), eitem 42. PDF 74 KB
- Enc. 1 - Cabinet report, eitem 42. PDF 963 KB