Agenda item

Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24

Pwrpas:        Cyflwyno’r Rhaglen Gyfalaf 2020/21 - 2022/23 ar gyfer ei adolygu.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) adroddiad ar y Rhaglen Gyfalaf arfaethedig ar gyfer 2021/22 - 2023/24 a oedd yn nodi buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir i alluogi darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel gyda gwerth am arian, wedi ei rannu rhwng y tair adran: Statudol / Rheoleiddio, Asedau Wrth Gefn a Buddsoddiad. Fel yr adroddiad yn yr eitem flaenorol, roedd amcangyfrif o £0.403 miliwn o arian dros ben, gyda £0.617 miliwn o arian dros ben ar gyfer 2020/21.

 

Cafwyd cyflwyniad manwl yn ymwneud â'r meysydd canlynol:

 

·         Strwythur - Rhaglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor

·         Rhaglen Gyfredol 2020/21-2022/23

·         Cyllid a Ragwelir 2021/22 - 2023/24

·         Dyraniadau Arfaethedig – Statudol/ Rheoleiddiol, Asedau wrth Gefn a Buddsoddiad

·         Crynodeb Rhaglen wedi ei hariannu’n gyffredinol

·         Cynlluniau sy’n cael eu hariannu’n benodol

·         Crynodeb Rhaglen Gyfalaf

·         Cynlluniau posib ar gyfer y dyfodol

·         Y camau nesaf

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan y Cadeirydd, cytunodd y Prif Swyddog i ddarparu gwybodaeth ar wahân ar ddatblygiad datrysiad ar gyfer mynwentydd Penarlâg.

 

Canmolodd y Cynghorydd Dunbobbin yr amrywiaeth o brosiectau oedd yn gysylltiedig â blaenoriaethau’r Cyngor. Mewn ymateb i gwestiynau eraill, byddai’r Prif Swyddog hefyd yn darparu ymateb ar wahân ar a oedd addasiadau i gartrefi gofalwyr maeth hefyd yn berthnasol i ofalwyr sy'n berthnasau. O safbwynt cymorth i blant sy’n derbyn gofal, siaradodd am yr amrywiol fentrau gyda’r bwriad o geisio cadw teuluoedd gyda’i gilydd.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Peers a ystyriwyd pryderon am y rhwydwaith ffyrdd lleol wrth wneud y dyraniad i orsaf trosglwyddo wastraff Standard Yard. Eglurodd Swyddogion fod y gwaith rhagarweiniol yn cael ei wneud ar opsiynau i aildrefnu’r rhwydwaith ffyrdd. Rhannwyd gwybodaeth hefyd ar raglenni ar gyfer gliniaduron newydd ac adnewyddu toiledau mewn ysgolion.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Thomas ddiweddariad ar gyllid ar gyfer gorsaf trosglwyddo gwastraff Standard Yard. O safbwynt y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd, mynegodd bryderon yngl?n â diwedd y rhaglen gyllido gan Lywodraeth Cymru a byddai’n ceisio cynnydd yng nghyllideb y flwyddyn nesaf er mwyn parhau i fuddsoddi yn isadeiledd ffyrdd y Sir tra’n parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth Cymru. Aeth ymlaen i ganmol dull gweithredu’r Prif Swyddog a’i dîm o wneud y mwyaf o dderbyniadau cyfalaf a chyllid grant i gefnogi’r Rhaglen Gyfalaf.

 

Wrth ganmol yr adroddiad, canmolodd y Cynghorydd Heesom yr Aelod Cabinet a’r Prif Swyddog am eu gwaith.

 

Talodd y Cynghorydd Banks deyrnged i’r Prif Swyddog a’i dîm am eu gwaith ar fynd i’r afael â digartrefedd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd yr argymhellion gan y Cynghorwyr Heesom a Collett.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 (paragraff 1.09) ar gyfer rhannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau Wrth Gefn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2021/22-2023/24;

 

 (b)      Bod y cynlluniau wedi'u cynnwys yn Nhabl 4 (paragraff 1.27) ar gyfer adran Buddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 1.27 - 2021/22-2023/24 yn cael eu cymeradwyo;

 

 (c)      Bod y Pwyllgor yn nodi bod y diffyg mewn cyllid i ariannu cynlluniau yn 2021/22 yn Nhabl 5 (paragraff 1.36) ar hyn o bryd yn y broses gymeradwyo yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau gan gynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os ydynt ar gael), benthyca darbodus neu gynlluniau fesul cam dros nifer o flynyddoedd yn cael eu hystyried yn ystod 2021/22, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau Rhaglen Gyfalaf y dyfodol.

 

 (d)      Bod y Pwyllgor yn cymeradwyo’r cynlluniau wedi'u cynnwys yn Nhabl 6 (paragraff 1.40) ar gyfer adran a ariennir yn benodol o Raglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor a fydd yn cael eu hariannu’n rhannol drwy fenthyca; a

 

 (e)      Nad oedd gan y Pwyllgor sylwadau i’r Cabinet i’w hystyried cyn bod y Cyngor yn ystyried adroddiad Rhaglen Gyfalaf 2021/22-2023/24.

Dogfennau ategol: