Agenda item
Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24
Pwrpas: Cyflwyno Rhaglen Gyfalaf 2021/22 - 2023/24 i'w hargymell i'r Cyngor.
Cofnodion:
Cyflwynodd y Cynghorydd Banks yr adroddiad ac eglurodd fod Rhaglen Gyfalaf y Cyngor yn cynnwys buddsoddiadau mewn asedau ar gyfer y tymor hir er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy’n rhoi gwerth am arian. Roedd yr asedau’n cynnwys adeiladau, isadeiledd ac asedau nad oeddent yn eiddo i’r Cyngor.
Eglurodd y Prif Swyddog (Tai ac Asedau) bod y buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig a oedd yn yr adroddiad yn cyd-fynd yn agos â chynlluniau busnes gwasanaethau portffolio a Chynllun y Cyngor. Roedd y wybodaeth yn yr adroddiad yn cyfeirio at raglen Cronfa’r Cyngor yn unig, nid y rhaglen dai, a oedd yn cael ei hariannu o’r Cyfrif Refeniw Tai.
Roedd Strategaeth Gyfalaf y Cyngor yn rannu’r Rhaglen Gyfalaf yn dair rhan:
- Adran Statudol / Rheoleiddiol – ar gyfer gwaith rheoleiddiol a statudol. Roedd enghreifftiau’n cynnwys darparu cefnogaeth i wella ac addasu cartrefi’r sector preifat (Grantiau Cyfleusterau i'r Anabl), addasiadau i ysgolion ar gyfer plant oedd ag anableddau ac unrhyw waith oedd ei angen i gadw adeiladau ar agor trwy fodloni gofynion Iechyd a Diogelwch.
- Adran Asedau sy’n cael eu Cadw – i sicrhau parhad gwasanaeth a busnes. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau a oedd yn gwella’r asedau oedd yn cael eu cadw ac isadeiledd i ddarparu gwasanaethau a bodloni angen sylweddol a ddynodwyd gan gynlluniau gwasanaeth neu trwy arolygon cyflwr, ac ati.
- Adran Fuddsoddi – i ariannu costau ailfodelu a buddsoddi mewn gwasanaethau. Roedd hyn yn cynnwys cynlluniau newydd a oedd yn deillio o gynlluniau busnes Portffolios, Cynllun y Cyngor a chynlluniau eraill perthnasol a rhai oedd yn cael eu datblygu, a strategaethau eraill neu flaenoriaethau a oedd yn dod i’r amlwg i’r Cyngor oedd wedi’u cymeradwyo trwy broses ddethol yn seiliedig ar ddarparu achos busnes.
Eglurwyd pob un o’r tablau yn yr adroddiad, ynghyd â chynlluniau posib’ at y dyfodol.
Roedd yn rhaglen uchelgeisiol gyda llawer o brosiectau pwysig. Rhoddodd enghreifftiau o gynlluniau a gafodd eu cymeradwyo yn y gorffennol fel Ysgol Uwchradd Castell Alun – yr Hôb, a Chartref Preswyl Marleyfield – Bwcle, ac enghreifftiau o gynlluniau newydd i’w cymeradwyo fel ailddatblygu Theatr Clwyd a gwella Gorsaf Trosglwyddo Gwastraff Standard Yard.
Croesawai’r Aelodau’r adroddiad, oedd yn eu barn nhw’n gyffrous ac yn gosod gweledigaeth glir ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd y Cynghorydd Thomas bod Llywodraeth Cymru (LlC) yn y gorffennol wedi darparu grant am gyfnod o dair blynedd tuag at welliannau i briffyrdd. Roedd y grant hwnnw bellach yn dod i ben. Roedd wedi bod mewn cyswllt ag Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) i drafod bod angen parhau i gael cefnogaeth ariannol gan LlC ond nid oedd unrhyw wybodaeth ar gael am hynny eto. Gofynnodd a ellid cynyddu’r swm o £0.600 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer y Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd £0.400 miliwn fel bod cyfanswm y gyllideb yn £1 miliwn. Dywedodd y Prif Weithredwr y gellid edrych ar y posibiliadau gyda hyblygrwydd ac y gallai gael ei adolygu yn y flwyddyn newydd ar ôl i fanylion y Setliad gael eu cyhoeddi.
PENDERFYNWYD:
(a) Cymeradwyo’r dyraniadau a’r cynlluniau yn Nhabl 3 ar gyfer adrannau Statudol / Rheoleiddiol ac Asedau sy’n Cael eu Cadw yn Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2021/22–2023/24;
(b) Cymeradwyo’r cynlluniau yn Nhabl 4 ar gyfer adran Fuddsoddi Rhaglen Gyfalaf Cronfa'r Cyngor 2021/22–2023/24;
(c) Nodi bod y diffyg cyllid ar gyfer cynlluniau yn 2021/22 yn Nhabl 5, ar y pwynt hwn yn y broses gymeradwyo, yn caniatáu hyblygrwydd. Bydd opsiynau sy’n cynnwys cyfuniad o dderbyniadau cyfalaf yn y dyfodol, grantiau eraill (os oes rhai ar gael), benthyca darbodus neu addasu’r cynlluniau i gael eu cyflawni fesul cam yn cael eu hystyried yn ystod 2021/22, ac yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau am y Rhaglen Gyfalaf yn y dyfodol; a
(d) Chymeradwyo’r cynlluniau sydd wedi’u cynnwys yn Nhabl 6 ar gyfer yr adran sy’n cael ei hariannu’n benodol o Raglen Gyfalaf Cronfa’r Cyngor, a fydd yn cael ei hariannu’n rhannol trwy fenthyca.
Dogfennau ategol: