Agenda item

Cyllideb 2021/22 - Cam 1

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol a strategaeth gyffredinol y gyllideb. Ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad cam cyntaf y gyllideb, a oedd yn nodi’r rhagolwg a’r pwysau o ran costau a fyddai’n llunio cyfanswm gofyniad y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol ddilynol. Roedd adolygiad llawn i’r rhagolwg wedi’i gynnal er mwyn llunio gwaelodlin gywir a chadarn o ran pwysau o ran costau oedd angen eu hariannu. Roedd yr adolygiad wedi rhoi ystyriaeth i effaith barhaus y sefyllfa frys gan gynnwys cyflymder adennill incwm yn erbyn targedau a osodwyd.

 

Roedd yr adroddiad hwn yn nodi’r datrysiadau cyfyngedig oedd ar gael i ariannu’r pwysau o ran costau ac roedd y strategaeth ariannu yn dibynnu’n fawr ar ddigon o gyllid cenedlaethol ar gyfer llywodraeth leol.  Roedd manylion pwysau o ran costau ar gyfer y Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol wedi’u cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Corfforaethol gyflwyniad manwl oedd yn trafod y meysydd canlynol:-      

 

  • Y Rhagolwg Ariannol ar gyfer 2021/22;
  • Y Dyfodol – Beth a gynghorwyd yn ôl ym mis Chwefror;
  • Crynodeb o Gyfansymiau Pwysau o ran Costau;
  • Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risgiau;
  • Sefyllfa Genedlaethol a Chyllid;
  • Senarios Ariannu Posibl;
  • Amserlen y Gyllideb;
  • Cefnogi a Herio Heddiw

 

Ar ôl y cyflwyniad, awgrymodd y Prif Weithredwr fod copi o’r llythyr Gweinidogol a’r datganiad a oedd yn nodi amserlen genedlaethol y gyllideb yn cael eu dosbarthu i’r Pwyllgor. Cytunwyd ar hyn.

 

Roedd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor, yn cefnogi sylwadau’r Prif Weithredwr fel rhan o’r cyflwyniad, a oedd yn amlygu’r berthynas weithio dda rhwng pob awdurdod lleol yng Nghymru a Llywodraeth Cymru (LlC). Rhoddodd sicrwydd fod negeseuon clir yn cael eu hanfon i LlC a oedd yn amlinellu’r angen i ddarparu cyllid ychwanegol fel rhan o’r Grant Cynnal Refeniw. Awgrymodd fod cyfarfod ychwanegol ar gyfer Aelodau’n cael ei alw ar ôl 22 Rhagfyr, pan oedd setliad llywodraeth leol dros dro wedi dod i law. Awgrymodd y Prif Weithredwr fod cyfarfod arbennig o’r Cabinet yn cael ei gynnal ar 23 Rhagfyr, gyda sesiwn friffio i’r Aelodau i gyd yn cael ei threfnu ar gyfer yr un diwrnod.  Roedd y Pwyllgor yn cefnogi’r awgrym hwn.    

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Patrick Heesom am y grant cefnogi busnesau, dywedodd y Prif Weithredwr y byddai adroddiad statws am y grant cefnogi busnesau ar gael i Aelodau yn ddiweddarach yn yr wythnos. Roedd ceisiadau ar agor o 26 Hydref.

 

Gan ymateb i gwestiwn gan y Cynghorydd Paul Shotton am bwysau o ran ariannu ar gyfer Profi, Olrhain, Diogelu, dywedodd y Prif Weithredwr fod y cynllun wedi’i ariannu’n llawn ar gyfer 2020/21.  Roedd wedi gofyn am gadarnhad cynnar o ran y gyllideb ar gyfer 2021/22 gan Lywodraeth Cymru.

 

Gan ymateb i ymholiad gan y Cadeirydd am y senarios ariannu posibl, fel a gafodd eu hamlinellu yn y cyflwyniad, eglurodd y Prif Weithredwr fod y sleidiau’n dangos graddfa symudol a bod isafswm bwlch y gyllideb, sef £14.423 miliwn, wedi’i ddangos ar hyd brig y tabl.  Roedd y tabl hwn yn dangos yr angen am Grant Cynnal Refeniw 5% o leiaf i ddarparu’r hyblygrwydd i gadw’r cynnydd lleol o ran Treth y Cyngor dan 5%.

 

Gofynnwyd bod ‘protocol’ yn cael ei lunio i Aelodau ar ddefnyddio’r bar sgwrsio yn ystod cyfarfodydd ffurfiol.

 

            Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion am eu presenoldeb a’r cyflwyniad a ddarparwyd i’r Pwyllgor.

 

            Cynigiodd y Cynghorydd Paul Shotton gymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad a’r sleidiau yn y cyflwyniad, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Andy Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi strategaeth gyffredinol y gyllideb;

 

(b)       Bod y Pwyllgor yn ailddatgan sefyllfa’r Cyngor ar bolisi trethiant lleol;

 

(c)        Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau’r Cyngor o Lywodraethau, fel a amlinellir yn y cyflwyniad a ddarparwyd;

 

(d)       Bod y pwysau o ran costau’r Gwasanaethau Corfforaethol a Chyllid Corfforaethol, fel a amlinellwyd yn yr adroddiad, yn cael eu nodi; a

 

(e)       Bod dim meysydd pellach o ran effeithlonrwydd costau’n cael eu cynnig gan y Pwyllgor i gael eu harchwilio ymhellach.

Dogfennau ategol: