Agenda item

Cynllun y Cyngor 2020/21

Ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21 gan ganolbwyntio’n bennaf ar bortffolio(s) priodol y Pwyllgor.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) adroddiad i ystyried Cynllun arfaethedig y Cyngor ar gyfer 2020/21, gyda ffocws penodol ar bortffolio'r Pwyllgor.  Cyflwynodd wybodaeth gefndir a chrynodeb byr o’r Cynllun.

 

Gofynnodd y Prif Swyddog i’r Cynghorydd Perfformiad Strategol roi amlinelliad o’r cynllun drafft a’r broses ar gyfer ei ddatblygu ymhellach  Dywedodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol wrth y Pwyllgor bod nifer o elfennau yn y cynllun wedi’u diwygio.  Dywedodd bod yr amcanion Llesiant wedi’u hymgorffori yn y cynllun a bod gwaith pellach wedi’i wneud yn datblygu’r themâu.  O ran monitro’r Cynllun, ychwanegodd mai’r nod oedd gallu arddangos effaith fel awdurdod o safbwynt strategol.  Dywedodd y byddai’n croesawu unrhyw sylwadau ac awgrymiadau i’w cynnwys, a fyddai’n cael eu hadrodd yn ôl i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforol ym mis Chwefror cyn iddynt gael eu hystyried gan y Cabinet ym mis Mawrth/Ebrill.  Byddai gwaith ar Ran 2 y Cynllun yn dechrau maes o law i ddatblygu tasgau, cerrig milltir, mesurau a risgiau.  Dywedodd bod Cynllun y Cyngor yn uchelgeisiol ond hefyd yn realistig o ystyried yr amgylchiadau presennol.

 

Croesawodd y Cynghorydd David Mackie gynnwys y maes blaenoriaeth: Llesiant Personol a Chymunedol a oedd yn gynhwysfawr ac wedi’i gyflwyno’n dda yn ei farn ef.  Gofynnodd am wybodaeth bellach ar y canlynol, fel yr amlinellwyd ar dudalen 25 y Cynllun:

 

·         Y gwasanaeth Well Fed yn y cartref

·         Gwasanaeth prydau bwyd Ysbyty yn y Cartref

·         Gwasanaeth prydau symudol

 

Tynnodd y Cynghorydd Mackie sylw at ddyblygiad ar dudalen 27 (archwilio cyfleoedd i ddatblygu hwb i bobl ifanc ddigartref) sy’n ymddangos mewn dwy adran.  Gan gyfeirio at dudalen 28, gofynnodd a ddylai’r pedwerydd pwynt bwled (cefnogi ein tenantiaid i gael mynediad at dechnoleg a chynyddu cymunedau digidol) fod yn yr adran cymunedau digidol.  Ar dudalen 30, cyfeiriodd at yr adran Economi Gylchol ac, yn benodol, y pedwerydd pwynt bwled a oedd angen eglurhad pellach, yn ei farn ef.

 

Dywedodd y Prif Swyddog y gellir cael gwybodaeth bellach fanwl ar yr uchod gan y Rheolwr Budd-daliadau, sef y swyddog sy’n arwain y maes gwaith hwn.

 

Esboniodd y Cynghorydd Perfformiad Strategol y broses ar gyfer adolygu cynnydd y cynllun ar ôl ei fabwysiadu, a dywedodd y byddai adroddiad perfformiad yn cael ei gyflwyno ar y Cynllun cyfan i bob Pwyllgor Trosolwg a Chraffu, gyda’r meysydd perthnasol wedi’u hamlygu ar gyfer pob pwyllgor penodol.

 

Cyfeiriodd y Cadeirydd at y drafodaeth gynharach ar fonitro addysgu gartref ac awgrymodd y dylid cynnwys hyn yn y Cynllun.  Cytunodd y Cynghorydd Gladys Healy â’r safbwyntiau a fynegwyd gan y Cynghorydd y dylid cynnwys y maes hwn yn y Cynllun.  Awgrymodd y Prif Swyddog y gellir cynnwys y mater o addysgu gartref yn adran Addysg a Sgiliau y cynllun.  Dywedodd y Cynghorydd Carol Ellis bod hyn yn ddyhead ac awgrymodd y gellir ei gynnwys o dan tlodi plant mewn cysylltiad â chael mynediad at dechnoleg, cyfarpar a llyfrau ar gyfer addysgu gartref.

 

Cytunodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol bod parhau i adolygu addysgu gartref yn bwysig.  Esboniodd y gwahaniaeth rhwng plant a oedd yn cael eu haddysgu gartref oherwydd Covid-19 a phlant a oedd yn derbyn eu haddysg gartref oherwydd dewis eu rhieni.  Ychwanegodd bod plant a oedd fel arfer yn mynychu ysgol yn cael eu monitro pan oeddent yn cael eu haddysgu gartref gan eu hysgol eu hunain, fodd bynnag, nid oedd unrhyw broses fonitro ar waith ar gyfer plant a oedd yn cael eu haddysgu gartref drwy ddewis eu rhieni a bod y Comisiynydd Plant yn pryderu am hynny.  Er  gwaethaf y trefniadau a wnaed, dywedodd y Cadeirydd ei bod yn pryderu nad oedd plant yn cael eu haddysgu gartref i’r lefel addas a gytunwyd.

 

Rhoddodd y Cynghorydd Cindy Hinds sylwadau ar gam-drin domestig ac iechyd meddwl a’r effaith bosibl ar rai plant a oedd yn cael eu haddysgu gartref.  Awgrymodd y Cynghorydd Paul Cunningham y dylid hysbysu’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg a Phobl Ifanc ynghylch pryderon y Pwyllgor.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y sylwadau a wnaed gan y Cynghorydd Dave Mackie ar y flaenoriaeth Llesiant Personol a Chymunedol a gofynnodd i’r Pwyllgor gadarnhau eu bod yn cymeradwyo’r cynllun drafft o safbwynt Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Cynigiodd y Cynghorydd David Wisinger i gymeradwyo’r argymhelliad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Jean Davies.

 

PENDERFYNIAD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r themâu a ddatblygwyd yng Nghynllun y Cyngor 2021/22 cyn i’r Cabinet ei gymeradwyo.

 

 

Dogfennau ategol: