Agenda item

Cyllideb 2021/22 - Cam 1

Pwrpas:        Bod y Pwyllgor yn adolygu ac yn gwneud sylw am bwysau ariannol Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a strategaeth gyffredinol y gyllideb.  Ac yn rhoi cyngor am unrhyw feysydd o effeithlonrwydd costau yr hoffai weld yn cael eu harchwilio ymhellach.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Weithredwr a’r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) yr adroddiad cam cyntaf y gyllideb a oedd yn manylu ar y rhagolwg a’r pwysau o ran costau a fyddai’n cyfrif am ofyniad llawn y gyllideb.

 

Roedd adroddiad i’r Cabinet ym mis Hydref wedi darparu diweddariad ar y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22 a’r ddwy flynedd ariannol wedi hynny. Roedd adolygiad llawn o’r rhagolwg wedi’i gynnal i ffurfio llinell sylfaen gywir a chadarn o’r pwysau o ran costau a oedd angen ei gyllido. Roedd yr adolygiad wedi ystyried effeithiau parhaus y sefyllfa argyfwng gan gynnwys cyflymder yr adenillwyd incwm yn erbyn targedau a osodwyd.

 

Mae’r adroddiad hwn yn amlinellu’r datrysiadau cyfyngedig sydd ar gael i ariannu’r pwysau o ran costau gyda’r strategaeth gyllido yn ddibynnol iawn ar gyllid cenedlaethol digonol ar gyfer llywodraeth leol.  Roedd manylion y pwysau o ran costau ar gyfer Gofal Cymdeithasol ac Iechyd wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

 

Rhoddodd y Prif  Weithredwr a'r Rheolwr Cyllid Strategol (Strategaeth Ariannol ac Yswiriant) gyflwyniad manwl a oedd yn trafod y meysydd canlynol:

 

  • Y rhagolwg ariannol ar gyfer 2021/22;
  • Y Dyfodol – Yr hyn a gynghorwyd yn ôl ym mis Chwefror;
  • Crynodeb o Gyfanswm y Pwysau o ran Costau;
  • Datrysiadau Tair Rhan a Chymryd Risgiau;
  • Y Sefyllfa Genedlaethol a Chyllid;
  • Senarios Ariannu Posibl;
  • Yr Amserlen o ran y Gyllideb;
  • Cefnogi a Herio Heddiw

 

Darparwyd manylion ychwanegol o amgylch pwysau penodol o ran costau ar y Gwasanaethau Cymdeithasol gan y Prif Gyfrifydd fel rhan o’r cyflwyniad.

 

Gwnaeth y Cadeirydd sylw ar y pwysau o ran costau sydd wedi ei ddangos ar gyfer ehangu Cartref Gofal Preswyl Marleyfield a holodd a oedd y pwysau hwn yn ymwneud â chostau staff ychwanegol.  Gofynnodd y Cadeirydd hefyd a oedd swydd y Cydlynydd Plant Ar Goll o Gartref hefyd yn ymwneud â gweithio gyda phlant sydd ar goll o’r ysgol. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion) fod y pwysau o ran costau ar gyfer ehangiad Cartref Gofal Preswyl Marleyfield yn cynnwys costau staff i gefnogi’r gwlâu ychwanegol ond byddai hefyd yn cynnwys y cyllid ar gyfer y costau glanhau, bwyd a chyfleustodau ychwanegol oedd eu hangen. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Plant a’r Gweithlu) fod y Cydlynydd Plant Ar Goll o Gartref yn rôl a ragnodwyd gyda meini prawf clir yn amlinellu beth oedd yn cael ei ystyried yn blentyn ar goll. Byddai eu rôl yn cynnwys ymweld â phlant a oedd wedi dychwelyd i’w cartref / lleoliad er mwyn deall yn well pan fod y plentyn wedi bod ar goll a rhannu gwybodaeth gyda’r Heddlu i ddeall yn well y patrymau lle’r oedd plant mewn perygl o gael eu camfanteisio arnynt. Byddai cyswllt gydag addysg, os oedd plentyn ar goll gyda’r nos ac os nad oeddynt chwaith yn mynychu’r ysgol. Ategodd y Prif Weithredwr ei gefnogaeth i greu’r swydd hon a oedd wedi’i amlygu’n fater rhanbarthol gan Heddlu Gogledd Cymru er mwyn sicrhau mwy o wydnwch.

 

            Diolchodd y Cynghorydd Dave Mackie y swyddogion am eu gwaith i baratoi’r adroddiad cyllideb ac adleisiwyd ei sylwadau gan nifer o Aelodau'r pwyllgor. Gwnaeth sylw ar y grynodeb o’r pwysau o ran costau a holodd pa ganran o’r gyllideb gyffredinol roedd hyn yn ymwneud ag o a pham fod lleoliadau’r tu allan i’r sir wedi’u cynnwys fel pwysau o ran costau ar hyn o bryd.  Awgrymodd hefyd y dylid darparu gwybodaeth bellach i’r Pwyllgor ynghylch yr ystyriaeth i drin rhai risgiau fel ‘Risgiau Agored’ er mwyn rheoli’r gyllideb o fewn y flwyddyn, a gwnaeth sylw am y Gwasanaeth Mabwysiadu, gan holi a ellid gostwng y gost os byddai’r Gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu’n fewnol.

 

            Tynnodd y Prif Weithredwr sylw at y trafodaethau ar gostau comisiynu fel enghraifft o ‘Risg Agored’ a oedd wedi datblygu i fod yn un lefel uchel yn sgil y sefyllfa argyfwng, mewn perthynas â chostau cyffredinol uwch, hylendid ychwanegol a newidiadau i rotas staff.  Os na fyddai Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cyllid ychwanegol i gwrdd â’r angen hwn, byddai’n rhaid i’r Cyngor dalu’r gost. Eglurodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) fod y pwysau o ran costau a amlinellwyd yn y cyflwyniad a’r adroddiad yn gyfwerth â 5%-7% o gyllideb gyffredinol y portffolio. Roedd costau cynyddol Lleoliadau Tu Allan i’r Sir yn parhau i gael eu monitro gyda'r Cyngor yn bod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â'r pwysau hwn o ran cost a oedd yn parhau i fod yn newidiol. Roedd y dull a ddefnyddiwyd gan y Cyngor dros nifer o flynyddoedd wedi bod yn gynhwysfawr ac yn rhesymol i gefnogi'r risg hwn gan ddarparu gwasanaethau plant mewnol ychwanegol fel enghraifft o reoli’r risg hwn yn y tymor canolig.    

 

            Dywedodd yr Uwch-reolwr (Plant a Gweithlu) mai Gogledd Cymru oedd y rhanbarth gyntaf i sefydlu Gwasanaeth Mabwysiadu a chydnabuwyd fel rhanbarth fod rhywfaint o gyflymder y Gwasanaeth wedi’i golli. Comisiynwyd adolygiad o’r gwasanaeth a oedd wedi arwain at strwythur diwygiedig ac roedd gwasanaethau wedi’u hehangu. Nododd hefyd fod Archwilio Mewnol wedi eu comisiynu i gynnal Archwiliad o’r Gwasanaeth Mabwysiadu i brofi a oedd y gwasanaeth a ail-ddyluniwyd yn gweithio ac yn cyflawni canlyniadau da. Cytunwyd y dylid cyflwyno canlyniad yr adolygiad archwilio i’r Pwyllgor ar ôl ei gwblhau.

 

            Gwnaeth y Cynghorydd David Wisinger sylw ar y pwysau cynyddol yn Ysbyty Maelor Wrecsam a holodd a fyddai adnoddau ychwanegol yn cael eu darparu i’r Cyngor os gofynnwyd am gymorth ychwanegol i’w cynorthwyo. Holodd hefyd a fyddai’r pwysau posibl o ran costau ar gyfer y Dyfarniad Tâl Cysgu i Mewn yn cynnwys taliadau wedi’u hôl-dalu. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Gwasanaethau Integredig, Arweinydd Oedolion), fod y cyllid i barhau â gwasanaethau cleifion a oedd eisoes yn derbyn Gwasanaethau yn Ysbyty Maelor Wrecsam ar hyn o bryd oherwydd salwch, unwaith y byddent wedi gadael yr ysbyty wedi’i gyfrifo amdano yn y trefniadau cyllideb graidd. Roedd cynnig wedi ei gyflwyno’n ddiweddar i Lywodraeth Cymru ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) am gyllid pwysau’r gaeaf i gynorthwyo gyda chyfleusterau camu i lawr ychwanegol, cymorth gofal cartref, gwaith cymdeithasol a chymorth therapi galwedigaethol. Eglurodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) fod y pwysau o ran costau ar gyfer y Dyfarniad Tâl Cysgu i Mewn yn berthnasol i staff Cyngor Sir y Fflint a staff yn y sector annibynnol a oedd wedi'u comisiynu i ddarparu gwasanaethau cysgu i mewn.  Roedd penderfyniad eisoes wedi’i gymryd i ddal yn ôl unrhyw gynnydd ar gyfer gwasanaethau a gomisiynwyd nes fod y pwysau o ran costau’n cynnwys costau wedi’u ôl-ddyddio.        

 

            Mewn ymateb i gwestiwn pellach ynghylch y Dyfarniad Tâl Cysgu i Mewn, eglurodd yr Uwch-reolwr (Diogelu a Chomisiynu) y byddai’r Dyfarniad, pe bai’n cael ei gymeradwyo, yn golygu y byddai’r isafswm cyflog cenedlaethol yn cael ei dalu i’r holl staff sy’n cysgu i mewn am oriau a weithiwyd hyd yn oed os oeddent yn cysgu.

 

           Cynigiwyd yr argymhellion, fel yr amlinellir yn yr adroddiad a sleidiau’r cyflwyniad i'r Pwyllgor. Awgrymodd y Cynghorydd Dave Mackie argymhelliad ychwanegol gan ddiolch i swyddogion am y gwaith a wnaed wrth baratoi gwybodaeth y gyllideb. Cynigiwyd yr argymhellion gan y Cynghorydd David Wisinger ac fe'u heiliwyd gan y Cynghorydd Gladys Healey. 

       

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod y Pwyllgor yn cefnogi strategaeth gyffredinol y gyllideb;

 

 (b)      Dylai’r Pwyllgor gadarnhau safbwynt y Cyngor ar y polisi trethiant lleol.

 

 (c)       Bod y Pwyllgor yn cefnogi disgwyliadau'r Cyngor o Lywodraethau, fel yr amlinellwyd yn y cyflwyniad a ddarparwyd;

 

 (d)      Dylid nodi’r pwysau o ran costau Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, fel yr amlinellwyd yn yr adroddiad;

 

 (e)      Ni ddylai'r Pwyllgor gynnig unrhyw feysydd arbedion effeithlonrwydd pellach i’w harchwilio ymhellach; a

 

 (f)       Bod y Pwyllgor yn mynegi ei ddiolch i bob Swyddog a oedd ynghlwm â pharatoi’r `            gyllideb hyd yma.

Dogfennau ategol: