Agenda item

Diweddariad Strategaeth Adferiad

Pwrpas:        Darparu goruchwyliaeth ar gyfer cynllunio adferiad ar gyfer portffolio(s) y Pwyllgor.

Cofnodion:

Rhoddodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) grynodeb byr o’r Strategaeth Adfer a nododd fod mwyafrif helaeth y gwasanaethau wedi parhau ar lefel uchel drwy gydol y cyfnod argyfwng, gan gynnig cymaint o gefnogaeth â phosibl i bobl ddiamddiffyn. Gwelodd rhai gwasanaethau newid yn y galw tra bod eraill wedi aros yr un fath. Esboniodd fod rhai gwasanaethau wedi cael eu haddasu, lle bo’r angen, er mwyn defnyddio dulliau cymysg, gyda rhai pobl yn y swyddfa fel bo’r angen.  Gwelwyd hefyd bwysau sylweddol yn ddiweddar o ran argaeledd Cartrefi Gofal a Gofal yn y Cartref ond roedd pethau’n fwy sefydlog erbyn hyn ac roedd yn gobeithio y byddai hyn yn parhau cyn i’r drefn frechu gael ei rhoi ar waith. Roedd ef a’r Aelod Cabinet wedi bod yn cwrdd â’r holl dimau gweithredol er mwyn dangos gwerthfawrogiad o’u hymroddiad.

 

Gofynnodd y Cadeirydd beth oedd heb ddychwelyd i’r drefn arferol ac esboniodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) nad oedd wedi bod yn bosibl cynnal rhai gwasanaethau seibiant ar gyfer pobl h?n, nid oedd rhai gwasanaethau dydd wedi agor yn llawn, nid oedd gwasanaethau seibiant i Blant – Arosfa a chyrsiau hyfforddi wyneb yn wyneb wedi bod yn digwydd ond roedden nhw wedi cael eu cynnal yn rhithiol. Roedd rhai bellach yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb. Ychwanegodd y byddai rhai newidiadau’n cael eu hadolygu ac, o bosib, yn cael eu cadw.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Gladys Healey a oedd digon o staff ar gael i fonitro sefyllfa’r plant a oedd ddim yn mynychu’r ysgol ac yn cael eu haddysg gartref ac ychwanegodd y byddai’n codi hyn gyda’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg ac Ieuenctid.   Dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) mai Gweithwyr Cymdeithasol ym maes Addysg oedd y gwasanaethau rheng flaen pan na fyddai plant yn mynychu’r ysgol ac o safbwynt Gwasanaethau Cymdeithasol nid oedden nhw wedi dod ar draws unrhyw broblemau. Pwysleisiodd ei bod yn bwysig cydweithio â nhw i gefnogi pobl a theuluoedd y plant hynny a oedd methu mynychu’r ysgol. Roedd Llywodraeth Cymru wedi holi a oeddem yn monitro Plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant ac rydym yn gwneud hynny’n rhagweithiol.

 

Dymunai’r Cadeirydd wybod beth sydd wedi ei golli o safbwynt diogelu drwy beidio â bod yn y swyddfa. Ni chredai’r Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) eu bod wedi colli rhyw lawer, a bod angen dysgu o hyn ar gyfer y dyfodol, a’u bod wedi addasu’n wych gan fod pobl ifanc yn llawer mwy cyfforddus gyda thechnoleg a dulliau digidol. O safbwynt iechyd a lles, roedd caniatáu i grwpiau bychain o staff fynd i’r swyddfa i greu ‘pod’ yn gam rhagweithiol iawn gan fod y staff yn hiraethu am y cyswllt roedden nhw’n ei gael yn y swyddfa wrth drafod achosion.

 

Wrth ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Cynghorydd Ellis ynghylch y cyfeiriadau at y gofrestr risg a chleifion yn cael eu rhyddhau o’r ysbyty, dywedodd y Prif Swyddog (Gwasanaethau Cymdeithasol) ei fod yn pryderu am y pwysau ond eu bod wedi gwneud popeth o fewn eu gallu i ymateb a chynnal gwasanaethau o ansawdd da ac roedd yn canmol y staff am hynny. Esboniodd fod y rhai sydd â graddfa risg waelodol goch yn fesur teg oherwydd y pwysau sylweddol. Roedd y raddfa risg felen yn awgrymu y gwelwyd gwelliannau a oedd wedi cryfhau’r maes gwasanaeth hwnnw. Dilynwyd y protocol yn fanwl ar gyfer rhyddhau cleifion o’r ysbyty ac roedd hyn yn golygu nad oedd symud pobl i Gartrefi Gofal Preswyl mor hawdd ag o’r blaen ac felly’n galw am drefn fwy hyblyg a datblygu gwasanaethau newydd h.y. The Oaks yn Shotton a Th? Treffynnon a oedd yn dal i gael eu defnyddio.

 

Pan ofynnodd y Cynghorydd Cunningham sut oedd T? Treffynnon yn cael ei redeg, cadarnhaodd yr Uwch-reolwr – Gwasanaethau Integredig ac Arweinydd Oedolion ei fod wedi bod yn gweithio’n dda, er iddo gael achosion, a’i fod bellach wedi ailagor. Cafwyd ymateb gwych o ran rhyddhau cleifion yn nhermau asesu ac adfer, sy’n golygu bod mwyafrif helaeth y bobl wedi dychwelyd gartref ac ychydig iawn o bobl a gafodd eu symud i ofal preswyl hirdymor ac roedd hyn yn fesur llwyddiant ardderchog.  Roedd disgwyl adolygiad i benderfynu ar y camau nesaf y mis hwn gan fod y brydles 12 mis yn dod i ben ym mis Ebrill 2021.

 

Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd gan y Cynghorydd Bateman ynghylch tystiolaeth fod pobl wedi cael eu brechu, dywedodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu y byddai cofnodion meddygol yn cael eu diweddaru fel y bydden nhw ar gyfer unrhyw frechlyn arall ond y byddai pobl sydd wedi cael y brechlyn yn dal i gael eu profi gan mai effeithlonrwydd o tua 90-95% sydd ganddo ac nid yw’n eglur a fydd y firws yn newid yn ei ymddangosiad wrth i amser fynd rhagddo, fel a welir gyda firws y ffliw. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd a yw hi’n ofynnol i staff sy’n cael eu recriwtio i weithio mewn Cartrefi Nyrsio fod wedi cael y brechlyn yn barod. Dywedodd yr Uwch-reolwr – Diogelu a Chomisiynu nad oedd yn credu y byddai’n ofynnol gan nad yw’n orfodol i unrhyw un gael y brechlyn, ac roedd cydweithwyr o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn trafod cofrestriad NFC a pha mor bwysig yw gwneud y peth iawn.

 

   Cynigiodd y Cynghorydd Paul Cunningham yr argymhellion yn yr adroddiad ac fe’i heiliwyd gan y Cynghorydd Healey.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn adolygu’r gofrestr risg ddiweddaraf a’r camau gweithredu i liniaru risg ym mhortffolio’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

 

Dogfennau ategol: