Agenda item

Monitro cyllideb refeniw 2020/21 (mis 5)

Pwrpas:        Darparu’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am sefyllfa fonitro Cyllideb Refeniw 2020/21 ym Mis 5.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol adroddiad ar sefyllfa monitro’r gyllideb refeniw fel yr oedd ym Mis 5 ar gyfer Cronfa’r Cyngor a’r Cyfrif Refeniw Tai cyn i’r Cabinet ei ystyried.  Roedd hyn yn adlewyrchu sefyllfa’r gyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol petai pethau’n parhau heb eu newid gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf o ran cyhoeddiadau Cyllid Grant Argyfwng Llywodraeth Cymru (LlC).

 

Roedd y diffyg gweithredol o £0.921m yn gadarnhaol o’i gymharu â’r £0.062m yn y mis blaenorol. Nid oedd yr amcanestyniad yma’n cynnwys effaith dau risg ariannol sylweddol ar incwm Treth y Cyngor a Chynllun Gostyngiad Treth y Cyngor, ynghyd â’r dyfarniad cyflog a fyddai’n dod allan o gronfeydd wrth gefn.  Yn gyffredinol, mae’r sefyllfa wedi elwa o £0.316m o arbedion dros dro sydd wedi’u nodi yn rhan o’r adolygiad o wariant dianghenraid, serch hynny gosodwyd hyn yn erbyn cynnydd sylweddol mewn gwariant y tu allan i’r sir o £0.144m yn fwy na’r lefel wrth gefn o £0.300m a neilltuwyd.

 

Mae swyddogion yn parhau i drafod gyda LlC ar gefnogaeth yn y dyfodol ar gyfer Cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor a byddant yn diweddaru Aelodau yngl?n â hynny, ynghyd â’r cynnydd am risgiau newydd ar brydau ysgol am ddim a chludiant. Er mwyn crynhoi adroddiadau yn y dyfodol, dim ond y rhai oedd wedi newid o’r mis blaenorol fyddai i’w gweld ym manylion yr amrywiaethau.

 

O ran Cronfeydd wrth Gefn a Balansau, y balans diwedd blwyddyn a ragamcanwyd ar Gronfeydd Arian at Raid oedd £1.418m gan dybio y bydd y gorwariant o £0.921m yn cael ei dalu gan y swm oedd ar gael yn y gronfa wedi'i glustnodi at argyfwng o £3m, a fyddai’n gadael swm o £1.965m. Y balans diwedd blwyddyn a ragamcanwyd ar gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd ar hyn o bryd oedd £11.4m.

 

Yn y Cyfrif Refeniw Tai, roedd gorwariant arfaethedig o £0.364m yn gadael balans terfynol heb ei neilltuo yn £2.373m, a oedd yn uwch na’r canllawiau argymelledig ar wariant.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Dunbobbin at effaith posibl prosiect Mockingbird a chynigiodd bod y gorwariant ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir yn cael ei gyfeirio at Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

 

Cafodd y cynnig ei eilio gan y Cynghorydd Richard Jones a ofynnodd hefyd am effaith Covid-19 ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir. Ar y tabl sy’n dangos sefyllfa ragamcanol yn ôl portffolio, gofynnodd am golofn ychwanegol er mwyn nodi incwm a chostau a gofynnodd am symud cyllid o fewn y golofn ‘cyllideb a gymeradwywyd’ ar gyfer rhai o’r portffolios (ac eithrio Cyllid Canolog a Chorfforaethol) gan gydnabod bod y cyfanswm yn cael ei gysoni ddiwedd y flwyddyn. O ran y pwynt cyntaf, cyfeiriodd y Rheolwr Cyllid Corfforaethol at y feddalwedd sy’n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r data ac awgrymodd y gallai adroddiadau yn y dyfodol ddarparu naratif ar gyfer portffolios allai helpu i ddarparu cyd-destun.  Cytunodd hefyd i edrych ar symud cyllid yng nghyllideb gymeradwyedig portffolios.

 

Siaradodd y Cynghorydd Banks am fanteision hir dymor posibl ar gyfer prosiect Mockingbird a oedd yng nghamau cyntaf ei ddatblygu a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru.

 

Cafodd yr argymhellion, a newidiwyd i adlewyrchu’r drafodaeth, eu cynnig gan y Cynghorwyr Jones a’u heilio gan y Cynghorydd Dunbobbin.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Ar ôl ystyried adroddiad Monitro Cyllideb Refeniw 2020/21 Mis 5, bod y Pwyllgor yn cadarnhau nad oedd yna faterion oedd angen eu codi gyda’r Cabinet y tro hwn;

 

 (b)      Gofyn i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ystyried eitem am Leoliadau y Tu Allan i’r Sir a menter Mockingbird;

 

 (c)      Bod swyddogion Cyllid yn edrych ar y posibilrwydd o gynnwys colofn ychwanegol yn Nhabl 1 adroddiadau yn y dyfodol er mwyn gwahanu incwm o gostau, a darparu ymateb ar symud o fewn cyllidebau portffolios a gymeradwywyd; a

 

 (d)      Darparu gwybodaeth am effaith Covid-19 ar Leoliadau y Tu Allan i’r Sir.

Dogfennau ategol: