Agenda item

Diweddariad Gweinyddu/ Cyfathrebu Pensiynau

Pwrpas:  Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar faterion yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

Cofnodion:

            Pwysleisiodd Mrs Williams y llwyth gwaith yr oedd y tîm gweinyddol yn gyfrifol amdano gan gynnwys busnes fel arfer, y datrysiad McCloud, yr achos Goodwin, y cap 95,000 a mwy. Dywedodd hefyd, yn sgil yr holl newidiadau rheoleiddiol, bod perygl na fydd eu systemau’n cael eu diweddaru mewn pryd ar gyfer newid, ac felly byddai’n rhaid i’r tîm wneud cyfrifiadau unigol fesul achos. 

 

Amlygodd hefyd fod y tîm gweinyddol hefyd yn gyfrifol am gynnwys gwefan y Gronfa, sy’n gallu bod yn heriol o ystyried y cymhlethdodau sydd ynghlwm ag uwchlwytho cynnwys a’r diffyg profiad â gwefannau o fewn y tîm.  Roedd swydd swyddog gwefan dynodedig newydd wedi’i gymeradwyo gan ddefnyddio’r dyraniadau brys yn ogystal â swydd swyddog arweiniol arall yn ymwneud â’r gyflogres a fyddai’n caniatáu i’r arweinydd tîm ganolbwyntio ar eu dyletswyddau a’u cyfrifoldebau, yn ogystal â chyflwyno rheolaethau mewnol gwell.

 

            Amlygodd Mrs Williams lwyddant y tîm o ran cefnogi lles ei gilydd yn sgil yr  heriau sydd ynghlwm â gweithio o gartref a llwythi gwaith ychwanegol. Roedd cyfarfodydd lles rheolaidd yn cael eu cynnal ar-lein gyda phob aelod o’r tîm i sicrhau eu bod yn ymdopi. Roedd y mwyafrif o’r staff yn teimlo fod gweithio o gartref yn gweithio’n dda. Amlygodd Mr Everett ei fod yn debygol y byddai’n rhaid iddynt barhau i weithio o gartref yn bennaf am dipyn.Mae cyswllt cymdeithasol yn rhan o gynllun rheoli’r Cyngor ar gyfer bob tîm.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r diweddariad ar faterion yn ymwneud â gweinyddu a chyfathrebu ar gyfer Cronfa Bensiynau Clwyd.

(b)  Bod y Pwyllgor yn nodi’r estyniad i amserlenni mewn perthynas â nifer y camau gweithredu o fewn y cynllun busnes.

Dogfennau ategol: