Agenda item

Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru

Pwrpas: Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar gyfuno buddsoddiadau yng Nghymru ar gyfer trafodaeth.

Cofnodion:

Gwnaeth Mr Latham sylw ar ddwy agwedd o Bartneriaeth Pensiwn Cymru; llywodraethu a buddsoddiadau.Cyhoeddodd Mr Latham fod llawer o gynnydd wedi’i wneud yn ddiweddar ar yr ochr lywodraethu, a fod nifer o bolisïau wedi’u cynhyrchu (cyfeirir atynt yn eitem 1.01). Roedd cynllun busnes bellach ar waith ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru, polisi gwrthdaro buddiannau, cynllun hyfforddi, polisi risg a chofrestr risg.

Cododd Mr Latham y cwestiwn parhaus sef a ddylai Partneriaeth Pensiwn Cymru gael cynrychiolydd aelodau’r cynllun, a chyhoeddodd y bydd y mater yn cael ei ystyried yn y Cydbwyllgor Llywodraethu nesaf. Trafododd y Pwyllgor hyn a nodwyd eu cefnogaeth gryf i hyn.

O ran ochr fuddsoddi’r gronfa, penodwyd Robeco fel Ymgynghorydd Pleidleisio ac Ymgysylltu ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru a oedd yn benodiad allweddol i’r gronfa. Nododd Mr Hibbert ei fod eisoes wedi codi cwestiynau a phryderon gyda Mrs Fielder yn ymwneud â gallu’r Pwyllgor i fesur gweithgarwch Robeco ar ran y Pwyllgor. Ymatebodd gan ddweud bod hyfforddiant wedi’i gynnal ar y mater hwn y diwrnod cynt ac roedd Mrs Fielder eisoes wedi codi’r pwynt hwn â Robeco.

O ystyried pwysigrwydd buddsoddi cyfrifol a’r risg hinsawdd, mae is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd wedi’i gytuno, a fydd yn adrodd i’r Gweithgor Swyddogion ar sut i weithredu, mesur ac adrodd ar gynnydd gyda’r polisïau hyn. Byddai Mrs Fielder ar yr is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd ac felly’n adrodd i’r Gweithgor Swyddogion. Roedd Mrs Fielder yn falch o’r penderfyniad i greu is-gr?p Buddsoddi Cyfrifol newydd a theimlwyd y byddai’n fanteisiol i’r Gronfa gael ei chynrychioli arno. Nododd y byddai’r gr?p yn cael eu gwahodd i bob cyfarfod perthnasol a sesiynau gr?p cleient Robeco. Rhoddwyd y dasg o ystyried y polisi pleidleisio sydd ar waith ar hyn o bryd i’r gr?p a nododd Mr Latham fod gan y mwyafrif o gronfeydd eraill swyddog Buddsoddi Cyfrifol sy’n arbenigo yn y maes hwn. Er fod gan Mrs Fielder lefel uchel iawn o wybodaeth am Fuddsoddi Cyfrifol, roedd ganddi hefyd nifer o rolau a chyfrifoldebau eraill yn y Gronfa.

Yn dilyn cymeradwyaeth yng nghyfarfod y Pwyllgor ym mis Mehefin 2019, roedd £200 miliwn o asedau’r Gronfa wedi’u trosglwyddo o gyllidau credyd aml-ased Stone Harbour i gronfa credyd aml-ased Partneriaeth Pensiwn Cymru.  Nodwyd hefyd y byddai Link a Russell yn mynychu cyfarfod nesaf y Pwyllgor ac yn trafod ecwitïau marchnadoedd newydd.Roedd y dyddiad cau gwreiddiol wedi’i drefnu ar gyfer Mehefin 2020 o fewn cynllun gwaith Partneriaeth Pensiwn Cymru ar gyfer is-gronfa ecwitïau marchnadoedd newydd.Fodd bynnag, mae’r dyddiad bellach wedi newid i  Mai 2021.

Eglurodd Mr Latham fod holiadur yn cael ei baratoi ar gyfer awdurdodau cyfansoddol gyda’r bwriad o’i rannu â phob aelod o’r Pwyllgor. Bwriad yr holiadur yw cael amcan o farn pob awdurdod o Bartneriaeth Pensiwn Cymru a llywio’r ffocws i’r dyfodol.

Cyfeiriodd y Cynghorydd Bateman at yr eitem rheoli risg ar dudalen 330 a oedd yn nodi fod risg llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru yn y categori ‘sylweddol’ yng nghofrestr risg y Gronfa. Gofynnodd a ddylai’r Pwyllgor bryderu am hyn. Dywedodd Mr Latham fod y risg parhaus yn uchel gan fod y Cronfeydd sy’n cymryd rhan yn dibynnu’n fawr ar drydydd partïon oherwydd natur y strwythur.  Fodd bynnag, roedd hefyd yn golygu fod y Cronfeydd yn ddibynnol ar berfformiad ymgynghorwyr Partneriaeth Pensiwn Cymru h.y. Russell a Hymans.Mae’r risg yn uwch gan fod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ymchwilio i rai o faterion y gweithredwr trydydd parti, Link, ar hyn o bryd, a adroddwyd eisoes.

            Atgoffodd Mrs Fielder y Pwyllgor fod y buddsoddiadau a wnaed eisoes o fewn Partneriaeth Pensiwn Cymru yn ffafriol ar gyfer y Gronfa. O ran ecwiti byd-eang, roedd y gorberfformiad a gyflawnwyd gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru o’i gymharu â threfniadau rheoli blaenorol y Gronfa yn cyfateb i oddeutu £7 miliwn.

Roedd Mr Rutherford yn credu’n gryf y byddai angen i’r Pwyllgor barhau i gefnogi’r safbwynt y dylid cael cynrychiolydd aelodau’r cynllun ar Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru o ystyried y gyfran o asedau a gaiff ei rheoli gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru ar ran aelodau’r cynllun.Fe wnaeth y Pwyllgor gymeradwyo’r safbwynt hwn, yn ogystal â Mr Everett a Mrs McWilliam a siaradodd ar ran Bwrdd Cronfa Bensiynau Clwyd.

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Pwyllgor yn nodi’r adroddiad a’r wybodaeth ddiweddaraf am weithrediad Cyfuno Buddsoddiadau yng Nghymru.

Bod y Pwyllgor yn cytuno i argymell y dylid cael cynrychiolydd aelodau’r cynllun ar Gydbwyllgor Llywodraethu Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Dogfennau ategol: