Agenda item

Diweddariad ar yr Economi a'r Farchnad a'r Strategaeth Fuddsoddi a Chrynodeb Rheolwyr

Pwrpas:  Rhoi diweddariad i Aelodau’r Pwyllgor ar yr economi a’r farchnad a pherfformiad buddsoddi’r gronfa a rheolwyr y gronfa ar gyfer trafodaeth.

Cofnodion:

            Cadarnhaodd Mr Harkin fod y Gronfa wedi elwa o’r fframwaith rheoli risg ac hefyd o arallgyfeiriad y portffolio asedau. Gan fod llawer o ansefydlogrwydd rhwng dosbarthiadau asedau, mae adlam cryf wedi bod mewn ecwitïau yn arbennig rhwng mis Mawrth 2020 a r?an. Pwysleisiodd Mr Harkin felly pa mor bwysig yw arallgyfeirio mewn portffolio.

 

            Nododd Mr Harkin y byddai buddsoddwr ecwiti UDA mewn sefyllfa gadarnhaol ac wedi gwneud arian yn y flwyddyn 2020. Amlinellodd hefyd fod enillion bondiau Llywodraeth y DU wedi gostwng; fodd bynnag, roedd cynnydd bychan wedi bod yn ddiweddar. Mae’r peryglon sydd o’n blaenau wedi’u chwyddo yn y tymor byr a’r hirdymor; yn arbennig yn yr hirdymor yn sgil COVID-19. Roedd y pandemig COVID-19 yn golygu fod Llywodraethau byd-eang yn ysgogi economïau ac yn diogelu swyddi lle bo modd. Roedd peryglon gwleidyddol a allai gael effaith ar farchnadoedd, er enghraifft; roedd llai na mis i fynd tan etholiad yr UDA. Roedd tensiynau hefyd yn parhau rhwng yr UDA a Tsieina ac roedd yn rhaid ystyried Brexit fel ffactor er gwaethaf yr holl bethau eraill a oedd yn mynd ymlaen. Pwysleisiodd Mr Harkin fod y Gronfa wedi ymdopi’n dda iawn o ystyried popeth a oedd wedi digwydd eleni.

 

            Nododd Mr Buckland fod gwerth asedau cyfredol y Gronfa ar 31 Awst 2020 yn tua £2 biliwn, ond ar 31 Mawrth 2020, roedd y ffigwr hwn yn tua £1.8 biliwn. Roedd hyn yn sgil gostyngiad mewn marchnadoedd a arweiniodd at ostyngiad sylweddol i’r Gronfa ym mis Mawrth, ond mae hyn wedi’i ddiogelu i ryw raddau gan y fframwaith rheoli risg. Roedd cyfanswm prisiad y Gronfa bellach mewn sefyllfa debyg i’r flwyddyn flaenorol.

 

            Gwnaeth Mr Middleman sylw ar y sleid monitro lefelau ariannu, ac eglurodd fod y linell ddu yn nodi’r lefel ariannu disgwyliedig yn seiliedig ar y cynllun cyfrannu a gytunwyd ym mhrisiad 2019, roedd y linell las yn dangos y lefel gyllido gwirioneddol a amcangyfrifir. Eglurodd mewn termau syml, os yw’r Gronfa’n uwch na’r lefel ddisgwyliedig, roedd hynny’n golygu fod y Gronfa’n perfformio’n well na’r hyn a nodwyd yn y cynllun â’i strategaethau, ac fel arall.

 

Amlygodd Mr Middleman fod tuedd y Gronfa yn unol â’r cynllun ar ddiwedd mis Awst er gwaethaf y gostyngiad i lefel ariannu o 85% ym mis Mawrth 2020 yn sgil effaith COVID-19 ar y farchnad. Tan ddiwedd mis Awst, y lefel ariannu oedd 92%.  Gan nad oedd y ffigurau presennol ar gael yn llawn, amcangyfrifodd Mr Middleman fod y Gronfa ar y trywydd iawn. Amlinellodd Mr Middleman bod ansicrwydd materol yn parhau ac fe allai hyn gael effaith ar y sefyllfa ariannol i’r dyfodol.  Fodd bynnag, drwy’r fframwaith llwybr hedfan, mae gan y Gronfa amddiffyniadau ar waith i gyfyngu gymaint o anfanteision â phosibl i sicrhau fod y Gronfa yn y sefyllfa orau bosibl i ymdopi â’r ansicrwydd hwn.

 

            Nododd Mrs McWilliam fod y sleid sy’n amlinellu gwerthoedd asedau misol yn dangos ein bod bellach mewn sefyllfa debyg i fis Rhagfyr 2019, sy’n dangos nad oedd twf buddsoddi’r Gronfa wedi cyflawni’r targedau cytunedig. Fodd bynnag, o’r sleid monitro lefel ariannu, ymddengys bod y lefel ariannu bresennol (ar 31 Awst 2020) wedi bodloni disgwyliadau’r cynllun cyfrannu h.y. y linell ddu. Eglurodd Mr Middleman fod y newid i’r sefyllfa ariannu yn ymwneud â mwy na chyfanswm yr enillion buddsoddi, mae hefyd yn dibynnu ar gyfraniadau a dderbynnir a disgwyliadau o ran chwyddiant. Amlygodd fod y cyfnod ers y dyddiad prisio (o 31 Mawrth 2019) yn parhau i fod ar y trywydd iawn yn gyffredinol ar gyfer y cyfnod hwnnw, o ystyried yr holl ffactorau.

 

            Gofynnodd Mr Everett a oedd yna unrhyw fwriad i greu cynlluniau wrth gefn i ail-adolygu’r strategaeth yn seiliedig ar y risgiau sydd o’n blaenau, yn arbennig o ran effaith etholiad yr UDA a Brexit. Cytunodd Mr Harkin y gallai hyn fod yn briodol, fodd bynnag, nododd hefyd y gellid defnyddio portffolio dyrannu asedau tactegol y Gronfa, sy’n gallu cael ei fasnachu o ddydd i ddydd, i adlewyrchu newid mewn safbwynt yn sydyn lle bo angen. O safbwynt strategol, nododd Mr Harkin y byddai’n rhaid trafod â swyddogion a’i gyflwyno gerbron y Pwyllgor os y credir bod rhywbeth yn y strategaeth fyddai angen cael ei adolygu. Nododd Mr Everett yr angen i fod yn ymarferol o ran rhagdybiaethau twf, am o leiaf blwyddyn arall yn sgil effaith COVID-19 a pherthnasoedd cenedlaethol yn sgil gwleidyddiaeth.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)  Bod y pwyllgor yn ystyried y diweddariad ar yr economi a’r farchnad, a pherfformiad buddsoddi’r Gronfa ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020 a’r diweddariad ar y sefyllfa ariannu. 

(b)  Bod y Pwyllgor yn ystyried crynodeb y rheolwr a’r strategaeth fuddsoddi ar gyfer y chwarter a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2020.

Dogfennau ategol: