Agenda item

Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint - Ystyried Sylwadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Ddogfen i'w Harchwilio Gan y Cyhoedd a Chyflwyno’r Cynllun ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus

Pwrpas:        Bod yr Aelodau yn ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn cytuno i gyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion archwiliad cyhoeddus yr Arolygydd Cynllunio Annibynnol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) yr adroddiad er mwyn i’r Aelodau ystyried a chytuno ar ymateb y Cyngor i’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori ynghylch y CDLl.Mae hwn yn gam allweddol tuag at gyflawni un o flaenoriaethau Cynllun y Cyngor, sef mabwysiadu’r CDLl ac mae’r ddogfen wedi bod yn destun proses graffu faith gan y Gr?p Strategaeth Cynllunio trawsbleidiol. Un o flaenoriaethau'r gr?p hwn yw gwarchod tir rhwystr glas a ffiniau aneddiadau ble bynnag y bo’n bosibl.Os yw’r Aelodau yn cytuno arno, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion Archwiliad Cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol, gan ddarparu cyfle i dderbyn rhagor o sylwadau yn ôl disgresiwn yr Arolygydd. 

 

Rhoddodd y Rheolwr Gwasanaeth - Strategaeth gyflwyniad gan ymdrin â’r meysydd canlynol:

 

·         Pwrpas

·         Y CDLl i’w Archwilio gan y Cyngor, Cynllun y Cyngor

·         Prif elfennau strategaeth y cynllun

·         Dyraniadau tai y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd

·         Ymgynghoriad ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd

·         Gwaith y Gr?p Strategaeth Cynllunio

·         Ystyried sylwadau

·         Y prif faterion a godwyd

·         Pwysau

·         Map rhwystr glas cymharol enghreifftiol

·         Cyflwyno’r Cynllun

·         Sesiynau briffio ar gyfer Aelodau ac argymhelliad y Cabinet

 

Amlygodd y cyflwyniad y manteision amrywiol a geir wrth fabwysiadu Cynllun, y dull ar gyfer ymateb i sylwadau a’r gwasgariad eang o safleoedd mewn aneddiadau cynaliadwy - rhai ohonynt yn safleoedd posibl ar gyfer datblygiad cynnar.Elfen allweddol o’r broses oedd cyfraniad y Gr?p Strategaeth Cynllunio at graffu ar y cynnydd a gwneud argymhellion i’r Cabinet, sydd erbyn hyn wedi’u cyflwyno i’r Cyngor er cymeradwyaeth. Dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dod ar draws unrhyw broblem sylfaenol gyda chadernid y Cynllun ac nad oedd darparwyr isadeiledd/budd-ddeiliaid allweddol wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad mawr. Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda Chyfoeth Naturiol Cymru i ddatrys pryderon perygl llifogydd ar bum safle cyflogaeth bychan.Yn fras, ar ôl ystyried yr holl sylwadau a’r dystiolaeth, nid oes newidiadau sylweddol yn cael eu hargymell ar gyfer y Cynllun dim ond mân waith golygu a newid ambell i eiriad.

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r swyddogion a'u tîm, ynghyd ag aelodau’r Gr?p Strategaeth Cynllunio, am eu gwaith ar y mater hwn.

 

Yn ystod yr eitem, diolchodd nifer o Aelodau i’r swyddogion ac i aelodau’r Gr?p Strategaeth Cynllunio am eu hymrwymiad i’r broses faith o gynhyrchu cynllun cadarn.

 

Fel Cadeirydd y Gr?p Strategaeth Cynllunio, cynigiodd y Cyng. Bithell yr argymhellion - sydd wedi’u cefnogi gan y Cabinet, ac amlygodd bwysigrwydd bwrw ymlaen â mabwysiadu CDLl ar gyfer Sir y Fflint.

 

Fel Is-Gadeirydd y Gr?p Strategaeth Cynllunio, eiliodd y Cyng. Peers y cynnig ac ategu’r sylwadau cadarnhaol am waith y rheiny sydd wedi bod yn gysylltiedig â’r broses.Cyfeiriodd at wrthdaro posibl gyda'r ymateb i’r cynnig i newid safle ymgeisiol yn safle tai a gofynnodd a oes modd adolygu hyn cyn i’r Cyngor gyhoeddi ei ymateb llawn.Diolchodd i’r swyddogion am egluro’r newidiadau i’r rhwystrau glas a gofynnodd a oes modd i’r Aelodau wneud sylw ar y mapiau cymharol hynny.

 

Er bod croeso i Aelodau ofyn cwestiynau am yr adolygiad o’r Rhwystrau Glas, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oes modd estyn cyfnod yr ymgynghoriad.Bydd y mapiau cymharol yn cael eu cyhoeddi i gefnogi unrhyw sylw a gyflwynwyd gan drydydd parti yn ystod y cam archwilio.Cytunwyd y byddai’r swyddog yn cysylltu â’r Cyng. Peers o ran ei bwynt cyntaf gan ddarparu eglurhad hytrach na newid ymateb y Cyngor.

 

Yn dilyn sylwadau gan y Cyng. Dunbar, siaradodd y Rheolwr Gwasanaeth am adolygiad cynhwysfawr y Gr?p Strategaeth Cynllunio o rwystrau glas, a oedd yn ceisio diogelu ardaloedd fel Parc Gwepra.Bu iddo hefyd ddarparu eglurhad ar gyflwyno polisi penodol ar Dai Amlfeddiannaeth yn y CDLl.

 

Dywedodd y Cyng. Richard Jones bod yr oedi wrth fabwysiadu CDLl - nad yw’n adlewyrchu gwaith yr Adran Gynllunio - wedi arwain at ddefnyddio Cynllun Glannau Dyfrdwy fel dogfen i danategu ac, o ganlyniad, bod y CDLl wedi’i wanhau. Dywedodd na ddylai Cynllun Glannau Dyfrdwy, nad oedd wedi bod yn destun ymgynghoriad eang, fod wedi’i ddefnyddio i hysbysu’r CDLl a chredodd fod dogfennau eraill a ddefnyddiwyd fel tystiolaeth ar gyfer y CDLl yn ymddangos yn rhagfarnllyd tuag at ardal Glannau Dyfrdwy.Am y rheswm hwnnw, nid oedd yn gallu cefnogi’r argymhelliad cyntaf.

 

Mewn ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod Cynllun Glannau Dyfrdwy yn un o sawl cynllun a strategaeth berthnasol gyhoeddus a oedd wedi’u nodi’n ddogfennau cyfeiriol ar gyfer rhoi ystyriaeth berthnasol i gadernid y CDLl.Cyfeiriodd at y gwasgariad eang o safleoedd wedi’u dyrannu yn y CDLl ar hyd a lled Sir y Fflint.

 

Er bod y Cyng. Heesom yn cytuno gyda rhai rhannau o’r CDLl, dywedodd fod y CDLL yn canolbwyntio ar Borth y Gogledd a Warren Hall ac roedd yn pryderu nad oedd ardaloedd yng ngorllewin y sir, yn cynnwys Mostyn, wedi’u cynrychioli.Dywedodd nad yw materion fel trin tir cyflogaeth, amddiffynfeydd llifogydd a newid hinsawdd wedi derbyn digon o sylw.

 

O ran y pwyntiau a godwyd, dywedodd y Rheolwr Gwasanaeth fod nifer o safleoedd strategol wedi bodoli ers peth amser a oedd wedi’u hadlewyrchu’n briodol yn y Cynllun a bod pwysigrwydd Dociau Mostyn wedi’i gydnabod yn y Map Cynigion.Eglurodd nad yw’r trafodaethau sy’n parhau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, i ddatrys y materion tir cyflogaeth sy'n gysylltiedig â phum safle bach, yn cael effaith sylweddol ar gyflawni amcanion y cynllun na'i gadernid.

 

Wrth groesawu’r adroddiad, dywedodd y Cyng. Gay ei bod yn siomedig iawn nad yw Saltney yn cael sylw priodol yn y CDLl a dywedodd fod angen mwy o fuddsoddi yn yr ardal honno. Roedd hefyd yn rhannu’r un pryderon â’r Cyng. Dunbar ynghylch Tai Amlfeddiannaeth.

 

Croesawodd y Cyng. Christine Jones gynnydd datblygiad Porth y Gogledd fel safle strategol pwysig a all ddod â budd i ardaloedd eraill yn y sir a’r rhanbarth cyfan.

 

Cyfeiriodd y Cyng. Tony Sharps gam nesaf y broses a mynegodd bryderon ynghylch yr isadeiledd sydd ei angen i gefnogi datblygiadau tai.Mewn ymateb, eglurodd y Rheolwr Gwasanaeth nad oes cwmpas i gyflwyno safleoedd newydd ar y cam hwn ac y bydd yr Arolygydd Cynllunio yn adolygu’r sylwadau a’r dystiolaeth ategol a gyflwynwyd. Dywedodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) y bydd cysylltiadau â darparwyr isadeiledd allweddol yn parhau er mwyn darparu datganiadau tir cyffredin ar y cam archwiliad cyhoeddus.O ran cyfadeilad Neuadd y Sir, dywedodd y Prif Weithredwr nad oes defnydd cytunedig ar gyfer y rhan honno o’r safle yn dilyn gwaith dymchwel Camau 3 a 4, ac y bydd angen gwneud penderfyniad yn y dyfodol wrth i’r cyfle godi.

 

Canmolodd y Cyng. Ellis y gwaith sydd wedi’i wneud ond nid oedd yn cefnogi’r Cynllun gan ei bod yn teimlo na allai’r isadeiledd ffyrdd gefnogi’r safleoedd datblygu arfaethedig ym Mwcle.

 

Dywedodd y Cadeirydd, er ei bod yn cefnogi’r ddau argymhelliad, y bydd yn mynegi pryder ynghylch un agwedd ar safle ymgeisiol yn ystod cam nesaf y broses.

 

Yn dilyn y drafodaeth, awgrymodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) na ddylid newid yr argymhellion yn yr adroddiad ond y dylai Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) gyflwyno adroddiad arall i’r Aelodau ystyried a fyddai’n egluro’r cwmpas cyfyngedig sydd ar gael i wneud unrhyw newid i’r geiriad heb effeithio ar sylwedd y cynllun.

 

I adlewyrchu rhai o’r pryderon a godwyd yn ystod yr eitem hon, gwahoddwyd Aelodau i bleidleisio ar bob argymhelliad yn eu tro. Gan fod yr argymhellion wedi’u cynnig a’u heilio eisoes, cafwyd pleidlais a chymeradwywyd yr argymhellion.

 

PENDERFYNWYD:

 

(a)       Bod y Cyngor yn nodi’r sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad ynghylch y CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd (atodiad 1) ac yn cefnogi’r ymatebion a argymhellir, ac yn cytuno ar eu hanfon i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio eu hystyried fel rhan o’r Archwiliad Cyhoeddus; a

 

(b)       Bod y Cyngor yn cytuno i gyflwyno Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint (2015-2030) i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion Archwiliad Cyhoeddus.

Dogfennau ategol: