Agenda item

Deddf Trwyddedu 2003 - Cais am amrywiad i Drwydded Eiddo

Gofynnir i’r Aelodau ystyried a phenderfynu ar gais am amrywiad i Drwydded Eiddo o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu yr adroddiad i ystyried a phenderfynu ar gais am amrywiad i Drwydded Eiddo a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003. Yr eiddo dan sylw oedd MPH Limited (Gwesty Mountain Park), Ffordd Llaneurgain, Mynydd y Fflint, Sir y Fflint, CH6 5QG a’r ymgeisydd oedd Mr Yan Chan. 

 

Y CAIS

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod gan yr eiddo ar hyn o bryd Drwydded Eiddo ar gyfer:

 

Cyflenwi alcohol ar y safle ac oddi ar y safle: 

Dydd Llun i ddydd Sadwrn 10.00 a.m.– 23.00 p.m.

Dydd Sul gan gynnwys Dydd Gwener y Groglith 12.00 (hanner dydd) – 22.30 p.m.

Dydd Nadolig 12.00 (hanner dydd) – 15.00 pm a 19.00 – 23.30 pm

Nos Galan – 24 awr

Dydd Llun i ddydd Sul 10.00 a.m. tan 01.00 a.m.(yn ardal y bar yn unig)

 

Cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi’i recordio, dawnsio (tu mewn yn unig):

Dydd Llun i ddydd Sadwrn 11.00 a.m. -hanner nos

Dydd Sul 12.00 (hanner dydd) – 23.30 p.m.

 

Lluniaeth hwyr yn y nos (dan do yn unig):

Dydd Llun 23.00 pm – 05.00 am

Dydd Mawrth tan ddydd Sul 23.00 pm – hanner nos

 

Roedd y cais i Amrywio i ganiatáu:

 

Cyflenwi alcohol ar y safle ac oddi ar y safle: 

Dydd Llun i Ddydd Sul 10.00  – 01.00 (yn yr holl ardaloedd trwyddedig)

Nos Galan i aros fel y drwydded bresennol

I ddiddymu’r cyfyngiad ar Ddydd Nadolig a Dydd Gwener y Groglith

 

I ychwanegu cerddoriaeth wedi'i recordio yn nhu blaen yr ardal y tu allan:

Dydd Llun i Ddydd Sadwrn 12.00 (hanner dydd) – 22.00 p.m.

Dydd Sul 12.00 (hanner dydd) – 20.00 p.m.

 

I ddiwygio’r lluniaeth Hwyr yn y Nos i:

Ddydd Llun i Ddydd Sul 23.00 - 05.00

 

Eglurodd y Swyddog Trwyddedu fod cynllun i nodi tu blaen yr ardal y tu allan yn cael ei ddangos fel Atodiad B1 yr adroddiad ac roedd cynllun i nodi’r tu mewn i’r adeilad yn cael ei ddangos fel Atodiad B2. 

 

Nid oedd Heddlu Gogledd Cymru wedi datgan unrhyw wrthwynebiad i'r cais ond roeddent wedi gofyn am amodau ychwanegol yn ymwneud â Theledu Cylch Caeëdig, Her 25 a goruchwylwyr drws.Roedd yr ymgeisydd wedi cytuno i'r amodau hyn gael eu hatodi i'r drwydded eiddo bresennol (Atodiad C).

 

Fe dderbyniwyd sylwadau yn ymwneud â’r cais i Amrywio gan adran Rheoli Llygredd Cyngor Sir y Fflint ar 24 Gorffennaf 2020 a chaiff y rhain eu cynnwys yn Atodiad D. Roedd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi cadarnhau na fyddant yn gwneud unrhyw sylwadau i'r Awdurdod Trwyddedu yn ymwneud â’r cais.

 

Roedd dau lythyr wedi ei dderbyn yn cynnwys sylwadau gan breswylwyr lleol yn gwrthwynebu’r cais i amrywio ac mae’r rhain wedi eu hatodi fel Atodiad F. 

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod angen i ymgeiswyr, ar gyfer ceisiadau i amrywio, gyflwyno amserlen weithredu yn rhoi manylion yngl?n ag unrhyw gamau ychwanegol yr oeddent yn bwriadu eu cymryd i hyrwyddo’r pedwar amcan trwyddedu.Mae’r camau yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu eu cymryd wedi eu nodi yn Atodiad G.

 

Roedd yr ymgeisydd wedi hysbysu’r adran drwyddedu yn flaenorol yngl?n â’r pedwar Rhybudd Digwyddiad Dros Dro (TENs) a oedd i gynnwys gweithgaredd trwyddedadwy yn yr ardal y tu allan fel nodwyd yn Atodiad B1. Roedd tri o’r Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro wedi eu hystyried mewn gwrandawiad o’r Is-bwyllgor Trwyddedu ar 31 Gorffennaf 2020, wedi i wrthwynebiadau gael eu gwneud gan Swyddog Rheoli Llygredd Cyngor Sir y Fflint.Cafodd y Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro eu cymeradwyo wedi i’r ymgeisydd awgrymu’n wirfoddol i ddiwygio amser gorffen pob un o'r Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro i 21.00 o’r gloch.Dywedodd y Cadeirydd wrth yr ymgeisydd (er nad oedd hyn yn amod o’r gymeradwyaeth) fod yr Is-bwyllgor yn dymuno iddo barhau i reoli a chynnal yr eiddo i sicrhau na fyddai yna unrhyw darfu ar breswylwyr lleol o ganlyniad i gerddoriaeth uchel yn dod o'r safle.

 

Dywedodd y Swyddog Trwyddedu fod pabell fawr wedi ei chodi yn ystod cyfnod y cais a hynny yn yr ardal y tu allan oedd yn cael ei hystyried fel rhan o’r amrywiad.  Nid oes yna unrhyw ganiatâd cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer y strwythur hwn.Yn ychwanegol at hyn yn ystod pandemig y coronafeirws roedd gan y tîm cydymffurfedd achos i siarad gyda’r ymgeisydd ar dri achlysur gwahanol yn ymwneud â phobl yn ymgynnull, cadw pellter cymdeithasol a pheidio â dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru yn ymwneud â gasebos a phebyll mawr.Pan ofynnwyd i'r ymgeisydd ddarparu ei asesiad risg sy’n orfodol o dan y rheoliadau coronafeirws, methodd â gwneud hynny.

 

3.1       Y Gwrandawiad a Phenderfyniad ar y Cais  

 

Dywedodd y Cadeirydd y byddai’r Is-bwyllgor yn mynd ymlaen i wrando ar y cais gan ystyried Deddf Trwyddedu 2003 – Adran 182 Canllawiau i Awdurdodau Trwyddedu.Eglurodd y byddai'n caniatáu i Mr Yan Chan (yr ymgeisydd) a Mrs Harley (llefarydd ar ran y partïon cysylltiedig) swm cyfartal o amser i drafod eu safbwynt.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd Mr Chan i gyflwyno ei resymau dros gyflwyno'r Amrywiad.

Cyfeiriodd Mr Chan at y pryderon a oedd wedi eu codi yn ymwneud â’r babell fawr yn yr ardal y tu allan.Dywedodd ei fod wedi gwneud ymholiadau gyda’r cwmni oedd wedi cyflenwi’r babell fawr i bennu a fyddai angen caniatâd cynllunio. Dywedodd ei fod wedi cael gwybod na fyddai angen hynny gan nad oedd yn rhywbeth parhaol ac roedd i'w dynnu i lawr ym mis Ionawr.Dywedodd Mr Chan ei fod i'w ddefnyddio ar gyfer bwyta y tu mewn a'r tu allan a bod yna ddwy allanfa argyfwng a phan fo’r tywydd yn ffafriol roedd y rhan fwyaf o’r ochrau yn cael eu hagor.Dywedodd y cedwir at reolau cadw pellter cymdeithasol a bod yn rhaid i bobl gadw 2 fetr ar wahân ac na chaniateir i grwpiau o fwy na 6 o bobl i eistedd gyda'i gilydd. 

 

Wrth gyfeirio at y cwynion yngl?n â llygredd s?n oedd wedi eu gwneud gan breswylydd cyfagos, dywedodd Mr Chan ei fod ef yn bersonol wedi monitro’r lefelau s?n rhwng y ddau eiddo ac nad oedd ef yn gallu clywed y gerddoriaeth pan oedd yn agos i’r ffin â’r eiddo cyfagos, ond roedd s?n cefndir oedolion a phlant i’w glywed.Eglurodd Mr Chan fod yna ardal chwarae wedi bodoli ar y safle ers tua 28 mlynedd.Dywedodd fod y gerddoriaeth yn dod i ben rhwng 8.30 – 9.00 pm gyda’r nos.

 

Dywedodd Mr Chan ei fod yn deall nad oedd ymgynnull yn gymdeithasol yn cael ei ganiatáu o dan reolau Covid-19.Ymddiheurodd am ei gamgymeriad yn peidio â thynnu hysbyseb y tu allan am ddigwyddiad Calan Gaeaf oedd wedi ei gynllunio a dywedodd fod y bwrdd A ac unrhyw hysbysebu ar y cyfryngau cymdeithasol wedi ei dynnu.Dim ond enwau a manylion cyswllt y bobl a oedd wedi mynegi diddordeb yn y digwyddiad oedd wedi ei nodi ac nid oedd unrhyw daliadau wedi eu derbyn gan y cyhoedd. 

 

Cadarnhaodd Mr Chan fod asesiadau risg wedi eu cynnal.Eglurodd fod system tracio ac olrhain 28 diwrnod mewn grym, gwasanaeth bwrdd yn cael ei ddarparu, a bod yn rhaid i staff a chwsmeriaid wisgo gorchudd wyneb amddiffynnol.Er mwyn cydymffurfio gyda’r rheoliadau newydd byddai tymheredd cwsmeriaid oedd yn mynd i mewn i’r eiddo yn cael ei wirio hefyd.Gosodwyd Teledu Cylch Caeëdig ar y safle a byddai camera ychwanegol yn cael ei osod yn y babell fawr. 

 

Wrth grynhoi fe wnaeth Mr Chan sylw ar yr heriau yn ymwneud â Covid-19 a'r sefyllfa sy'n newid yn gyflym. Dywedodd fod Gwesty’r Mountain Park yn darparu gwasanaeth gwerthfawr i’r gymuned leol a’i fod yn cyflogi pobl leol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mr Chan am gyflwyno ei achos a gwahoddodd Mrs Harley i gyflwyno’r sylwadau ar ei rhan hi ei hun a Mr a Mrs Silcock (y partïon cysylltiedig eraill).

 

Cyfeiriodd Mrs Harley at y gwrandawiad blaenorol i ystyried y cais am Rybuddion Digwyddiad Dros Dro gan Mr Chan a dymuniad y Pwyllgor ei fod yn parhau i reoli a chynnal yr eiddo i sicrhau na fyddai yna unrhyw darfu ar breswylwyr lleol o ganlyniad i gerddoriaeth uchel yn deillio o'r safle.Dywedodd nad oedd lefel y s?n wedi gostwng a'i fod yn parhau i achosi niwsans a gofid iddi hi a’r partïon cysylltiedig eraill.Aeth ymlaen i ddweud nad oedd yna unrhyw hysbysiad wedi bod ymlaen llaw nac ymgynghoriad gyda phreswylwyr lleol yn ymwneud â'r bwriad i godi pabell fawr yn yr ardal y tu allan i'r eiddo a dywedodd fod hyn yn dangos nad oedd unrhyw ystyriaeth i'r effaith ar breswylwyr lleol. Teimlai Mrs Harley ei fod hefyd yn dangos diffyg ystyriaeth o reoliadau trwyddedu a chynllunio’r Awdurdod Lleol a deddfwriaeth y Llywodraeth yn ymwneud â Covid 19.

 

Dywedodd Mrs Harley fod y partïon cysylltiedig wedi ceisio cyngor annibynnol yn ymwneud â lefel y s?n a bod hynny wedi cadarnhau fod y s?n yn ormodol. Nododd enghreifftiau pellach o ddyddiadau ac amseroedd pan oedd Swyddog Rheoli Llygredd Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn dyst i’r lefelau uchel o s?n a gweithgaredd cysylltiedig.

 

Dywedodd Mrs Harley y rhagwelwyd yn ystod y misoedd nesaf y byddai’r defnydd o’r ardal y tu allan yn lleihau ac awgrymodd y byddai hyn yn rhoi cyfle i’r ymgeisydd geisio caniatâd cynllunio ar gyfer y strwythur y tu allan a gwella cynllun yr ardal chwarae a’r offer chwarae i liniaru’r effaith ar yr eiddo cyfagos.

 

Diolchodd y Cadeirydd i Mrs Harley am gyflwyno’r achos ar ran y partïon cysylltiedig.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Aelodau'r Panel a oedd ganddynt unrhyw gwestiynau. 

 

Gofynnodd y Cynghorydd Adele Davies-Cooke i’r ymgeisydd a fyddai’n gallu symud yr offer chwarae i blant i safle arall yn yr ardal y tu allan yn unol â chais y partïon cysylltiedig.Cytunodd yr ymgeisydd i edrych ar hyn.Mewn ymateb i gwestiwn arall gan y Cynghorydd Davies-Cooke yn ymwneud â'r Teledu Cylch Caeëdig yn y babell fawr cadarnhaodd yr ymgeisydd y byddai’n gwneud y trefniadau angenrheidiol i gael camera wedi ei osod yn y strwythur. 

 

Pwysleisiodd y Cynghorydd Ron Davies bwysigrwydd sicrhau fod cwsmeriaid a staff yn gadael yr eiddo erbyn yr amser y cytunwyd arno, yn dilyn yr archebion olaf/amser cau.Gofynnodd y Cynghorydd Davies i’r ymgeisydd egluro'r effaith ar ei fusnes pe na ddarperir cerddoriaeth.Eglurodd Mr Chan fod y gerddoriaeth yn angenrheidiol i greu naws gymdeithasol ymlaciol i gwsmeriaid a phwysleisiodd mai cerddoriaeth gefndir ydoedd a bod y gwesty yn fusnes oedd yn canolbwyntio ar y teulu.Wrth ymateb i’r pryderon ychwanegol a godwyd gan y Cadeirydd yngl?n â’r math o gerddoriaeth oedd yn cael ei chwarae, pwysleisiodd yr ymgeisydd y gellid ei disgrifio fel cerddoriaeth ymlaciol a hawdd i wrando arni.  

 

Gwahoddodd y Cadeirydd y Cyfreithiwr i ofyn cwestiynau.Holodd y Cyfreithiwr Mr Chan yngl?n â’r amrywiad i ychwanegu cerddoriaeth wedi'i recordio yn nhu blaen yr ardal y tu allan ac i egluro'r angen i ddarparu cerddoriaeth tan 22.00 pm.  Dywedodd Mr Chan y byddai’n cytuno i ddiwygio’r amser gorffen o 22.00 o’r gloch i 20.00 o’r gloch i annog cwsmeriaid i adael yr eiddo erbyn yr amser a gytunwyd.Mewn ymateb i ragor o gwestiynau gan y Cyfreithiwr rhoddodd yr ymgeisydd eglurhad yn ymwneud â’i gais i ddiddymu'r cyfyngiadau ar Ddydd Nadolig a Dydd Gwener y Groglith ac eglurodd yr oriau y gofynnai amdanynt.  Hefyd holodd y Cyfreithiwr yr ymgeisydd yngl?n â’r rheswm dros ddiwygio'r drwydded eiddo mewn perthynas â lluniaeth hwyr yn y nos.Eglurodd Mr Chan fod y cais er mwyn galluogi i luniaeth gael ei weini i westeion y gwesty.

                                                            

Wrth ymateb i’r Cyfreithiwr cadarnhaodd yr ymgeisydd nad oedd ganddo unrhyw wrthwynebiad i’r amodau ychwanegol yr oedd Heddlu Gogledd Cymru yn gofyn amdanynt mewn perthynas â Theledu Cylch Caeëdig, Her 25 a’r Goruchwylwyr Drws.Eglurodd y byddai’n gwneud ymholiadau yngl?n â gosod Teledu Cylch Caeëdig yn y babell fawr yn dilyn y gwrandawiad.

 

Pan ofynnwyd iddo cadarnhaodd yr ymgeisydd ei fod yn monitro lefelau s?n yn rheolaidd rhwng yr eiddo ac eiddo cyfagos ac roedd yn nodi dyddiadau ac amseroedd.Roedd yn cydnabod fod gweithgarwch a lefelau s?n wedi cynyddu yn ystod mis Awst o ganlyniad i gynllun 'estyn llaw drwy fwyta allan’ y Llywodraeth, ond roedd busnes wedi bod yn llai prysur ym mis Medi.

 

Gofynnodd y Cyfreithiwr i’r ymgeisydd a oedd wedi dilyn y cais a wnaed gan y Cadeirydd yn y gwrandawiad blaenorol ar y Rhybuddion Digwyddiad Dros Dro i barhau i reoli a chynnal yr eiddo i sicrhau na fyddai unrhyw darfu ar breswylwyr lleol o ganlyniad i gerddoriaeth uchel yn dod o'r safle.Dywedodd yr ymgeisydd eto fod y math o gerddoriaeth yn ymlaciol ac yn hawdd i wrando arni ac nad oedd fel arfer yn cael ei chwarae ar ôl 20.00 pm.

 

Wrth ymateb i gwestiynau pellach a godwyd gan y Cyfreithiwr yn ymwneud â chydymffurfio â chanllawiau Covid-19, cadarnhaodd Mr Chan ei fod wedi cymryd y mesurau priodol yn ymwneud ag arwyddion i orfodi cadw pellter cymdeithasol ar y safle. Hefyd cadarnhaodd Mr Chan fod asesiadau risg wedi eu gwneud ac y gallai eu darparu ar gais.Gan gyfeirio at y babell fawr yn yr ardal y tu allan gofynnodd y Cyfreithiwr i Mr Chan egluro ei ddealltwriaeth o'r sefyllfa yn ymwneud â'r angen am ganiatâd cynllunio.Dywedodd Mr Chan eto ei fod wedi gwneud ymholiadau gyda’r cwmni oedd wedi cyflenwi'r babell fawr ac y dywedwyd wrtho na fyddai angen caniatâd cynllunio gan nad oedd y babell yn un a gâi ei gosod yn barhaol (a’i bod yn ei lle am gyfnod llai na 12 mis).  Cadarnhaodd Mr Chan y byddai’r babell fawr yn cael ei thynnu i lawr ym mis Ionawr.

 

Gofynnodd y Cadeirydd i Mrs Harley a oedd ganddi ragor o gwestiynau i'w codi ar ran y partïon cysylltiedig.Gofynnodd Mrs Harley am ragor o wybodaeth yn ymwneud â’r defnydd o Deledu Cylch Caeëdig, y lefel a’r math o gerddoriaeth gefndir a gâi ei chwarae, a’r defnydd o gynwysyddion storio ar y safle. 

 

Gofynnodd y Cadeirydd i’r ymgeisydd a oedd ganddo ragor o gwestiynau neu sylwadau i’w codi.Gwahoddodd Mr Chan Mrs Harley a’r partïon cysylltiedig i'w gyfarfod i drafod y math o gerddoriaeth i'w chwarae ac unrhyw faterion pellach o bryder a oedd ganddynt.Dywedodd ei fod eisiau meithrin perthynas gadarnhaol gyda’r preswylwyr cyfagos a’r gymuned leol a fyddai er budd i bawb.Diolchodd Mrs Harley i Mr Chan am ei wahoddiad.

 

Pan oedd y Cadeirydd yn fodlon fod yr holl gwestiynau perthnasol wedi eu gofyn ac nad oedd dim byd pellach i’w ychwanegu dywedodd y byddai’r Panel yn mynd ati i ddod i benderfyniad ac y byddai’r holl gyfranogwyr eraill yn cael eu rhoi mewn lobi rithiol hyd nes y byddai yna benderfyniad.

 

Wedi gohiriad byr croesawodd y Cadeirydd y cyfranogwyr yn ôl i'r cyfarfod ac ailddechreuodd y cyfarfod. 

 

3.2       Penderfyniad

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth Mr Chan, yr Ymgeisydd, ar ôl ystyried y sylwadau a’r dystiolaeth yn ofalus, a chymryd camau er mwyn hyrwyddo’r Amcanion Trwyddedu, roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu wedi penderfynu, yn unol ag Adran 35 Deddf Trwyddedu 2003 i amrywio’r drwydded eiddo drwy ei haddasu fel a ganlyn:

 

  • cyflenwi alcohol ar y safle ac oddi ar y safle:

Dydd Llun i Ddydd Sul 10.00  – 01.00 (yn yr holl ardaloedd trwyddedig)

 

  • Nos Galan i aros fel y drwydded bresennol

 

  • i ddiddymu’r cyfyngiadau ar Ddydd Nadolig a Dydd Gwener y Groglith

 

  • i ychwanegu cerddoriaeth wedi'i recordio yn nhu blaen yr ardal y tu allan:

Dydd Llun i ddydd Sul 12:00 – 20:00

 

  • i ddiwygio’r lluniaeth Hwyr yn y Nos:

Dydd Llun i ddydd Sul 23:00 – 05:00

 

Dywedodd y Cadeirydd wrth Mr Chan (er nad oedd yn amod o’r gymeradwyaeth) fod yr Is-bwyllgor yn dymuno ei fod yn parhau i fonitro lefel y s?n yn ardal chwarae'r plant i osgoi unrhyw darfu ar breswylwyr lleol.

 

PENDERFYNWYD:

 

Fod y cais am amrywiad i Drwydded Eiddo yn cael ei gymeradwyo yn ddibynnol ar yr addasiadau fel y nodwyd uchod. 

Dogfennau ategol: