Agenda item
Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint - Ystyried Sylwadau’r Ymgynghoriad ynghylch y Ddogfen i'w Harchwilio Gan y Cyhoedd a Chyflwyno’r Cynllun ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus
- Cyfarfod Cabinet, Dydd Mawrth, 22ain Medi, 2020 9.30 am (Eitem 7.)
- View the declarations of interest for item 7.
- Cefndir eitem 7.
Pwrpas: Bod yr Aelodau yn ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod ymarfer ymgynghori’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn argymell bod y rhain yn cael eu hadrodd i'r Cyngor Llawn a bod y Cyngor yn cytuno â nhw ac yn cymeradwyo cyflwyno’r cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion yr archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol.
Cofnodion:
Roedd y Cynghorydd Banks wedi datgan cysylltiad personol sy’n rhagfarnu ar yr eitem hon, cafodd ei symud i'r lobi ar-lein yn ystod cyfnod y cyflwyniad, trafodaeth a phleidlais.
Cyflwynodd y Cynghorydd Bithell yr adroddiad ac eglurodd bod y Cabinet angen ystyried ac yn cytuno ar yr ymatebion i’r sylwadau a gafwyd yn ystod ymarfer ymgynghori’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd ac yn argymell bod y rhain yn cael eu hadrodd i'r Cyngor Sir a bod y Cyngor yn cytuno â nhw ac yn cymeradwyo cyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio (at ddibenion yr archwiliad cyhoeddus gan Arolygydd Cynllunio annibynnol).
Eglurodd y Prif Swyddog (Cynllunio, Amgylchedd a'r Economi) bod y CDLl i’w archwilio gan y cyhoedd wedi’i gymeradwyo ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus gan y Cyngor Sir ar 23 Gorffennaf 2019. Cafwyd ymgynghoriad rhwng 30 Medi a 11 Tachwedd 2019, a daeth 1281 sylwad i law gan 657 o ymatebwyr ar wahân. Yn dilyn yr ymgynghoriad, roedd gan y Cyngor, fel Awdurdod Cynllunio Lleol ddyletswydd statudol dan rheoliadau CDLl i wneud holl sylwadau a ddaeth i law i fod ar gael. Roedd hyn wedi cael ei wneud drwy eu rhoi ar y porth ymgynghoriad CDLl ac mewn tabl crynodeb ar wefan y Cyngor.
Yn y cyfarfod blaenorol o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio ar 30 Gorffennaf 2020, cymeradwyodd y Gr?p pob un o’r ymatebion a argymhellwyd i’r sylwadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r CDLl i’w Archwilio gan y Cyhoedd, ac argymhellwyd y dylai’r Cabinet a’r Cyngor Llawn ystyried y rhain fel rhan o’r broses o gytuno i gyflwyno’r Cynllun i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Archwiliad Cyhoeddus. Wrth wneud hyn, roedd rhai Aelodau yn deall bod ymatebion i'r cynllun angen eu hystyried ar y cyfan er mwyn symud ymlaen, a byddai rhai Aelodau o'r Cyngor a fyddai gyda phroblem gyda rhannau o’r Cynllun oherwydd rhesymau penodol i bolisi neu ward. Roedd yn bwysig bod gan yr holl Aelodau ddealltwriaeth bod y Cynllun angen ei symud ymlaen ar y cyfan, a bod Archwiliad Cyhoeddus yw’r lle y bydd y craffu annibynnol terfynol o gadernid y cynllun yn cael ei gyflawni.
Cafodd hyperddolen, gyda chrynodeb o sylwadau ei gynnwys yn adroddiad y Cabinet.
Diolchodd y Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi) i’r Cynghorydd Bithell am ei gefnogaeth hirdymor o’r broses CDLl ac am gadeirio'r Gr?p Strategaeth Cynllunio, a diolchodd i holl Aelodau eraill o'r gr?p hwn hefyd. Roedd nifer o sesiynau briffio i Aelodau wedi eu cynnal yr wythnos flaenorol lle cyflwynwyd crynodeb o’r sefyllfa. Cafodd y sesiynau eu rhannu i ardaloedd daearyddol, a bu i gyfanswm o 41 Aelod fynychu. Nid oedd unrhyw dystiolaeth yn dweud na ddylem barhau ar y llwybr hwn. Roedd nifer o bobl a wnaeth y sylwadau wedi dweud yr hoffent wneud sylwadau yn yr Ymholiad a roedd hyn o fewn pwerau’r Arolygydd. Bydd yr Ymholiad yn cael ei gynnal ar ddechrau 2021.
Bydd adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet i geisio awdurdod dirprwyedig ar gyfer unrhyw newidiadau bychain i’r Cynllun a fydd ei angen o bosib gan yr Arolygydd i’w gyflawni.
Hefyd diolchodd y Cynghorydd Roberts i’r holl Aelodau o’r Gr?p Strategaeth Cynllunio a’r swyddogion am eu gwaith caled ar y CDLl.
PENDERFYNWYD:
(a) Bod y sylwadau a wnaethpwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Lleol i’w archwilio gan y cyhoedd yn cael eu nodi, a bod cytundeb yn cael ei anfon ymlaen i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio i’w ystyried fel rhan o Archwiliad Cyhoeddus; a
(b) Penderfynu bod y Cynllun Datblygu Lleol Sir y Fflint (2015-2030) yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru a’r Arolygiaeth Gynllunio at ddibenion Archwiliad Cyhoeddus, ac yn cael ei argymell i’r Cyngor i gael ei gymeradwyo.
Dogfennau ategol:
- Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination, eitem 7. PDF 229 KB
- Enc. 2 for Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination, eitem 7. PDF 56 KB
- Enc. 3 for Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination, eitem 7. PDF 17 KB
- Enc. 4 for Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination, eitem 7. PDF 626 KB
- Enc. 5 for Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination, eitem 7. PDF 304 KB
- Enc. 6 for Flintshire Local Development Plan – Consideration of Deposit Consultation Representations and Responses and Submission for Public Examination, eitem 7. PDF 68 KB