Agenda item

Urgent Item of Business

Cofnodion:

Fel Arweinydd y Cyngor, darllenodd y Cynghorydd Roberts ddatganiad ar y cyd ar ei ran ei hun a'r Prif Weithredwr:

 

 “Rydym yn cydymdeimlo’n llwyr ac yn rhannu yn yr ymdeimlad o bryder ar draws cymunedau yn y sefyllfa genedlaethol bresennol - un nad oes ganddi gynsail yn ddiweddar.

 

Mae hon yn sefyllfa genedlaethol a rhyngwladol sy'n datblygu'n gyflym.Cewch fod yn dawel eich meddwl fod gennym gynllun parhad busnes llawn ar waith ar draws ein gwasanaethau yn barod.

 

Mae strwythur gorchymyn a gwneud penderfyniadau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol ar waith - o'r cyfarfod COBRA cenedlaethol dan arweiniad y Prif Weinidog - ac rydym yn chwarae ein rhan lawn fel eich Cyngor Sir chi.Mae hyn yn gwbl weithredol bellach.

 

Arweinir y gwaith cynllunio a'r ymateb rhanbarthol ar gyfer Gogledd Cymru gan y Gr?p Cydlynu Strategol, gr?p sy'n cynnwys uwch weithwyr proffesiynol o bartneriaid gwasanaethau iechyd, brys a chyhoeddus.Mae’r gr?p hwn yn cyfarfod yn aml, yn dilyn cyfarwyddyd y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a chynghorwyr cenedlaethol ac yn cyfrannu at eu gwaith gydag adborth a mwy o geisiadau am gefnogaeth.Rydym yn aelod gweithredol iawn o’r Gr?p Cydlynu Strategol drwy’r Prif Weithredwr a swyddogion arweiniol eraill.

 

Mae nifer o aelodau o’r cyhoedd wedi holi am ein rôl fel cyngor.Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau cenedlaethol datganoledig sy'n arwain yr ymateb i'r sefyllfa genedlaethol, ac mae'n ddibynnol iawn ar gyngor asiantaethau cenedlaethol Iechyd y Cyhoedd a'r arbenigwyr meddygol ac iechyd cyhoeddus penodedig. Rydym yn dilyn eu harweiniad ac yn gwneud penderfyniadau rhanbarthol a lleol yn unol â hynny.Er ein bod yn chwarae rhan bwysig iawn, nid ni yw'r arweinydd yn llygad y cyhoedd a rhaid i ni weithio drwy ddilyn cyngor a chyfarwyddyd cenedlaethol a rhanbarthol.Dyma pam rydyn ni'n cyfeirio pobl at y ffynonellau cyngor awdurdodol ar iechyd a lles personol, a chymorth meddygol, fel Iechyd Cyhoeddus Cymru.

 

Byddwn yn cyhoeddi datganiadau cyhoeddus lleol ar ymatebion lleol a threfniadau gwasanaeth yn ôl yr angen. Rydym yn croesawu a byddwn yn cefnogi camau hunangynhaliol cymunedol yn llawn trwy ein partneriaid gwirfoddol ac elusennol, Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint, sefydliadau cymunedol a Chynghorau Tref a Chymuned.  Bydd y sefyllfa’n datblygu’n gyflym a byddwn yn gwneud penderfyniadau am flaenoriaethu ein hadnoddau ar gyfer y gwasanaethau mwyaf hanfodol fel bo angen.

 

Byddwn yn gwneud ein cyhoeddiadau cyntaf ar gau cyfleusterau a gwasanaethau lleol dros dro o heddiw ymlaen.Rydym eisoes wedi cyfyngu ymweliadau â'r cartrefi gofal preswyl yr ydym yn eu gweithredu, ac wedi annog ein darparwyr cartrefi gofal annibynnol i wneud yr un peth.Rydym wedi cynghori penaethiaid i gyfyngu mynediad i ysgolion i bawb ond disgyblion a'u staff addysgu a chymorth ac i ganslo pob digwyddiad cyhoeddus nad yw'n hanfodol.Rydym yn cyhoeddi cyngor dyddiol i bartneriaid gofal cymdeithasol ac i ysgolion.

 

Mae holl wasanaethau hanfodol eraill y Cyngor yn rhedeg fel arfer ar hyn o bryd.Gall hyn newid.Fel cyflogwr rydym wedi bod yn cymryd camau i ddiogelu ein gweithlu dros y pythefnos diwethaf.Rydym ni bellach yn cyflwyno camau pellach i ymestyn y prosesau gweithio gartref ac o bell er mwyn cadw ein gweithlu’n ddiogel fel y gallan nhw barhau i ddarparu gwasanaethau i’r cyhoedd. 

 

Mae holl gyfarfodydd y Cyngor nad ydynt yn hanfodol wedi’u canslo nes clywir yn wahanol. Mae hyn yn cynnwys holl gyfarfodydd a digwyddiadau cyhoeddus y Cyngor. Rydym yn apelio ar bawb i’n helpu i gynnal ymdeimlad o dawelwch, i ddangos cyfrifoldeb personol wrth ddilyn cyngor cenedlaethol, ac i gyfrannu at weithredoedd cymunedol a theuluol i gefnogi’r rhai mwyaf diamddiffyn lle bynnag y gallwch.

 

Colin Everett, Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd

 

Ynghyd â hyn roedd datganiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dyddiedig 16 Mawrth 2020:

 

Rydym am roi tawelwch meddwl i drigolion y bydd yr holl gamau angenrheidiol, mewn cydweithrediad â'n partneriaid, yn cael eu cymryd i sicrhau lles ein cymunedau. Mae gwasanaethau’r cyngor yn parhau i fod ar agor ar hyn o bryd.Yn dilyn cyhoeddiad y llywodraeth heddiw, byddwn yn asesu’r sefyllfa ac yn gwneud cyhoeddiadau manwl pellach yfory.

 

Canllawiau'r llywodraeth yw y dylai ysgolion aros ar agor am y tro.Y neges i rieni yw, fel mewn ardaloedd eraill yng Nghymru, y bydd ysgolion yn agor yfory fel arfer a bydd y sefyllfa'n cael ei hadolygu'n barhaus. Anogir trigolion a rhieni i ddilyn canllawiau cadw pellter cymdeithasol diwygiedig y Llywodraeth a dylai unrhyw un â symptomau barhau i ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd ar gael yma: https://icc.gig.cymru/pynciau/coronafeirws/

 

Chris Llewellyn, Prif Weithredwr a’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad ar lafar.