Agenda item

Materion Cyfansoddiadol: Pwyllgorau

Delio â'r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â rheol 1.1 (vii)-(xiii) Gweithdrefn y Cyngor.

Cofnodion:

Rhoddodd y Cyngor ystyriaeth i adroddiad y Prif Swyddog (Llywodraethu) a ddeliodd â’r materion hynny sydd angen penderfynu arnynt yn ystod Cyfarfod Blynyddol y Cyngor Sir, yn unol â Rheol 1.1 (vii)-(xiv) Gweithdrefn y Cyngor.  Rhannwyd yr adroddiad yn adrannau, pob un yn delio ag un penderfyniad oedd angen ei wneud a’r materion perthnasol i’w hystyried.

 

 (i)       Penodi Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod y Cyfansoddiad yn caniatáu penodi'r canlynol:

 

  • Pwyllgor Archwilio;
  • Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;
  • Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd;
  • Pwyllgor Cwynion;
  • Pwyllgor Apeliadau Cwynion;
  • Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu;
  • Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau);
  • Pwyllgor Trwyddedu;
  • Pwyllgor Cynllunio;
  • Pwyllgor Safonau; 

 

Yn ogystal, roedd y Cyfansoddiad yn caniatáu ar gyfer penodi 6 Phwyllgor Trosolwg a Chraffu. Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror 2020, cytunodd y Cyngor i leihau’r nifer hwnnw i 5 yn y Cyfarfod Blynyddol. Mae’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu diwygiedig i’w gweld isod.   

 

  • Y Gymuned, Tai ac Asedau
  • Adnoddau Corfforaethol
  • Addysg, Ieuenctid a Diwylliant
  • Yr Amgylchedd a’r Economi
  • Gofal Cymdeithasol ac Iechyd 

 

Nodwyd y cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu yn Atodiad 1, fodd bynnag, eglurodd y Prif Swyddog fod angen gwneud diwygiad pellach i’r cylch gorchwyl gan fod Cynllunio Rhag Argyfwng, a’r Bartneriaeth Trosedd ac Anhrefn wedi cael eu cynnwys dan gwmpas y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi trwy gamgymeriad ac roedd angen eu symud i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn penodi’r Pwyllgorau canlynol:

 

Pwyllgor Archwilio

Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Y Gymuned, Tai ac Asedau

Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Addysg, Ieuenctid a Diwylliant

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu'r Amgylchedd a’r Economi

Pwyllgor Cydlywodraethu (ar gyfer Pensiynau)

Pwyllgor Trwyddedu

Pwyllgor Cynllunio

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Pwyllgor Safonau

Pwyllgor Cwynion

Pwyllgor Apeliadau Cwynion

Pwyllgor Apeliadau

Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu

 

 (ii)       Pennu maint Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod rhaid penderfynu ar faint pob Pwyllgor yr oedd y Cyngor wedi’i benodi yn y Cyfarfod Blynyddol.  Yn ei gyfarfod ar 27 Chwefror, penderfynodd y Cyngor y dylid cael datrysiad cydbwysedd gwleidyddol newydd sy’n cyflawni gostyngiad cyffredinol yn nifer y lleoedd pwyllgor tra’n parhau i ddarparu ar gyfer cynrychiolaeth yr holl grwpiau gwleidyddol ar bwyllgorau mawr y Cyngor. Nodwyd manylion y ddarpariaeth ar gyfer maint y Pwyllgorau yn yr adroddiad (yn amodol ar y cywiriadau i gylch gorchwyl y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi a’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol fel yr eglurwyd yn yr eitem ar Benodi Pwyllgorau).

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod maint pob pwyllgor yn unol â’r hyn a nodwyd ym mharagraffau 1.03 ac 1.04 yr adroddiad.

 

 (iii)      Cylch Gorchwyl Pwyllgorau

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyfarfod Blynyddol benderfynu ar gylch gorchwyl y Pwyllgorau a benodwyd ganddo. Dywedodd fod cylch gorchwyl y Pwyllgorau presennol wedi’i nodi yn y Cyfansoddiad. Roedd y cylch gorchwyl ar gyfer y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu o fewn y strwythur diwygiedig, ynghlwm fel atodiad 1. Cytunwyd y rhain gan y Cyngor ar 27 Chwefror 2020. Fodd bynnag, ailadroddodd y Prif Swyddog fod angen gwneud diwygiadau pellach i symud Cynllunio Rhag Argyfwng a’r Bartneriaeth Trosedd ac Anhrefn o gwmpas y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

Byddai cylch gorchwyl newydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei gynnwys o fewn y Cyfansoddiad. 

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ian Roberts yr argymhellion yn yr adroddiad, yn amodol ar gwblhau’r diwygiadau uchod i’r cylch gorchwyl. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ted Palmer.

 

PENDERFYNWYD:

 

Cymeradwyo’r cylch gorchwyl ar gyfer pob Pwyllgor fel y nodwyd yn y Cyfansoddiad a’r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel y nodwyd yn Atodiad 1 i’r adroddiad, yn amodol ar symud Cynllunio Rhag Argyfwng, a’r Bartneriaeth Trosedd ac Anhrefn o’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu’r Amgylchedd a’r Economi i’r Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Adnoddau Corfforaethol.

 

 (iv)     Cydbwysedd Gwleidyddol

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod yn rhaid i’r Cyngor benderfynu yn, neu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl, y Cyfarfod Blynyddol, ar ddyraniad seddi i grwpiau gwleidyddol yn unol â’r Rheolau Cydbwysedd Gwleidyddol sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 a Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990 fel y'i diwygiwyd. Hysbyswyd yr Aelodau nad oedd y rheolau hyn yn berthnasol i’r Cabinet nac ychwaith i’r Pwyllgor Safonau.

 

Cyfeiriodd y Prif Swyddog at y pwyntiau allweddol fel sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad.  Eglurodd, wrth ddyrannu cydbwysedd gwleidyddol, lle nad oedd rhai cynghorwyr mewn gr?p gwleidyddol, fod rhaid i’r Cyngor sicrhau fod cyfran o’r seddi yn cael eu dyrannu i’r cynghorwyr hynny. Dywedodd fod un Cynghorydd heb gr?p gwleidyddol ar hyn o bryd a bod y ddarpariaeth ar gyfer yr Aelod hwnnw wedi’i nodi yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Eglurodd y Prif Swyddog, er mwyn cyrraedd cydbwysedd gwleidyddol, y bu’n angenrheidiol i wahanu’r pwyllgorau ‘cyflogaeth’, sef y Pwyllgorau, Cwynion, Apeliadau Cwynion ac Ymchwil a Disgyblu, neu fel arall byddai’r grwpiau gwleidyddol llai dan anfantais drwy orfod defnyddio rhan o’u dyraniad seddi ar gyfer pwyllgorau nad oeddent yn gorfod cyfarfod yn aml. Roedd y gwahaniad hwn yn gofyn am gytundeb penodol gan holl Aelodau’r Cyngor. 

 

Dywedodd y Prif Swyddog fod cyfanswm o 118 o seddi ar gyfer Cynghorwyr ar draws holl Bwyllgorau’r Cyngor yn seiliedig ar y gr?p presennol o aelodau. Roedd hawl pob gr?p i seddi wedi’i nodi ym mharagraff 1.14 yr adroddiad.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Carolyn Thomas yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Roberts. Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

Gofynnodd y Cynghorydd Patrick Heesom am eglurhad o ran y cytundeb ychwanegol fod gan yr holl Aelodau, ar ddisgresiwn y Cadeirydd, yr hawl i fynychu a siarad yn y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu ond nid i bleidleisio.  Cadarnhaodd y Prif Swyddog fod y Cynghorydd Heesom wedi deall yn iawn a dywedodd fod hon yn ystyriaeth bwysig o ran lleihau maint y Pwyllgorau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y seddi yn cael eu dyrannu yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol fel y nodwyd yn Atodiad 2 i’r adroddiad a’r rheolau ar aelodaeth y Pwyllgorau fel y nodwyd ym mharagraffau 1.08 - 1.14, a bod y seddi ar y Pwyllgorau Cwynion, Apeliadau Cwynion, ac Ymchwilio a Disgyblu, yn cael eu dyrannu i roi lledaeniad gwleidyddol eang o aelodaeth.

 

 (v)      Penodi Cadeiryddion y Pwyllgorau Sefydlog

 

Eglurodd y Prif Swyddog (Llywodraethu) fod Cadeiryddion Pwyllgorau yn cael eu penodi gan wahanol gyrff, rhai ohonynt a oedd yn destun cyfyngiadau.  Roedd y tabl ym mharagraff 1.16 yr adroddiad yn amlinellu pa gorff oedd yn penodi pa Gadeirydd a pha gyfyngiadau (os o gwbl) oedd yn berthnasol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts y canlynol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Kevin Hughes:

 

  • Penodi’r Cynghorydd Ted Palmer yn Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd;

 

Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers ddiwygiad bod y Cynghorydd Ralph Small yn cael ei benodi’n Gadeirydd Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Bob Connah.

 

Siaradodd y Cynghorwyr Bob Connah a Richard Jones o blaid enwebu’r Cynghorydd Ralph Small.

 

O'i roi i’r bleidlais, gwrthodwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Peers. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts, a chafodd ei gymeradwyo.

 

Diolchodd y Cynghorydd Ted Palmer i’r Aelodau am gefnogi ei enwebiad.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts y canlynol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Dolphin:

 

  • Penodi’r Cynghorydd Neville Phillips yn Gadeirydd ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd.

 

Cynigodd y Cynghorydd Mike Peers ddiwygiad bod y Cynghorydd Arnold Woolley yn cael ei benodi’n Gadeirydd ar Bwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd. Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Helen Brown. 

 

O'i roi i’r bleidlais, gwrthodwyd y diwygiad gan y Cynghorydd Peers. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig gwreiddiol, a gynigiwyd gan y Cynghorydd Ian Roberts, a chafodd ei gymeradwyo.

 

Diolchodd y Cynghorydd Neville Phillips i’r Aelodau am gefnogi ei enwebiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts y canlynol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Carolyn Thomas. Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

  • Penodi’r Cynghorydd Sharps yn Gadeirydd y Pwyllgor Trwyddedu.

 

Diolchodd y Cynghorydd Tony Sharps i’r Aelodau am eu cefnogaeth.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts y canlynol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Bithell.  Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

  • Penodi’r Cynghorydd Wisinger yn Gadeirydd y Pwyllgor Cynllunio.

 

Diolchodd y Cynghorydd David Wisinger i’r Aelodau am yr enwebiad ac am eu cefnogaeth barhaus.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Mike Peers at y dyraniad aelodaeth, a oedd, yn ei farn ef, yn rhoi ei gr?p, yr ail gr?p mwyaf yn y Cyngor, dan anfantais a soniodd am yr angen i ddyrannu seddi yn deg ar draws yr holl grwpiau gwleidyddol.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylai’r Pwyllgor Cwynion, y Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu benodi eu Cadeiryddion eu hunain o blith eu haelodau ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Chris Bithell. Pan gafwyd pleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod Cadeiryddion y Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu, dan Fesur Llywodraeth Leol 2011, yn cael eu dewis gan y grwpiau gwleidyddol yn seiliedig ar gryfder y gwahanol grwpiau a oedd â seddi ar y Cabinet.  Dyrannir swyddi Cadeiryddion i’r grwpiau gyda lle ar y Cabinet yn gyntaf a chaiff unrhyw hawl yn cael ei dalgrynnu i lawr i’r rhif cyfan agosaf. Yna, caiff y swyddi Cadeiryddion sy’n weddill eu dyrannu i grwpiau heb seddi ar y Cabinet, (gan dalgrynnu i fyny i’r rhif llawn agosaf).Nodwyd y dyraniad o swyddi’r Cadeiryddion yn Atodiad 2 i’r adroddiad.

 

Cynigiodd y Cynghorydd Ian Roberts y canlynol ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Carolyn Thomas.

 

Pwyllgor Trosolwg a Chraffu            Gr?p i Ddewis Cadeirydd

Adnoddau Corfforaethol                       Ceidwadwyr

Addysg, Ieuenctid a Diwylliant            Llafur (y Cynghorydd Dave Healey)

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd             Democratiaid Rhyddfrydol

Yr Amgylchedd a’r Economi                Y Gynghrair Annibynnol

Y Gymuned, Tai ac Asedau                 Llafur (y Cynghorydd Ian Dunbar)

 

O'i roi i bleidlais, cymeradwywyd hyn.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Bod Cadeiryddion y Pwyllgorau canlynol yn cael eu penodi (gan nodi unrhyw gyfyngiadau ar gymhwysedd):

 

·             Pwyllgor Cronfa Bensiynau Clwyd – y Cynghorydd Ted Palmer

·             Pwyllgor y Cyfansoddiad a Gwasanaethau Democrataidd – y Cynghorydd Neville Phillips

·             Pwyllgor Trwyddedu – y Cynghorydd Tony Sharps

·             Pwyllgor Cynllunio – y Cynghorydd David Wisinger

 

 (b)      Bod y Pwyllgor Cwynion, y Pwyllgor Apeliadau Cwynion a’r Pwyllgor Ymchwilio a Disgyblu yn penodi eu Cadeiryddion eu hunain o blith eu haelodau;

 

 (c)       Bod y grwpiau canlynol yn cadeirio'r Pwyllgorau Trosolwg a Chraffu fel yr amlinellwyd:

 

Adnoddau Corfforaethol                Ceidwadwyr

Addysg, Ieuenctid a Diwylliant                  Llafur (y Cynghorydd Dave Healey)

Gofal Cymdeithasol ac Iechyd      Democratiaid Rhyddfrydol

Yr Amgylchedd a’r Economi          Y Gynghrair Annibynnol

Y Gymuned, Tai ac Asedau           Llafur (y Cynghorydd Ian Dunbar)

 

 (vi)     Swyddogaethau Dewis Lleol

 

Eglurodd y Prif Swyddog ei bod yn ofynnol i’r Cyngor gytuno ar ran o’r fath o’r Cynllun Dirprwyo gan fod y Cyngor wedi penderfynu ei fod yn fater i’r Cyngor gytuno arno.  Roedd hyn yn ymwneud â swyddogaethau dewis lleol y gellir eu penderfynu naill ai gan y Cyngor neu'r Cabinet ac / neu swyddogion dirprwyedig.  Cafodd y tabl o Swyddogaethau Dewis Lleol ei gynnwys yn y Cyfansoddiad.

 

Cyfeiriodd y Cynghorydd Peers at y ddarpariaeth o fewn y Cyfansoddiad (swyddogaeth 20) i wneud taliadau i ddarparu iawndal mewn achosion o gamweinyddu a gofynnodd a fyddai modd cyflwyno taliadau o’r fath (taliadau mawr yn benodol) i’r Cyngor eu hystyried. Darparodd y Prif Swyddog eglurder o ran y swyddogaeth ac esboniodd fod taliadau o’r fath yn amrywio ond eu bod, yn gyffredinol, ar gyfer symiau bach ac yn cael eu penderfynu ar lefel Prif Swyddog. Cydnabu’r pwynt a wnaed gan y Cynghorydd Peers sef y byddai trosolwg o’r gweithdrefnau yn ddefnyddiol, ac fe awgrymodd y gallai’r Pwyllgor Archwilio neu’r Pwyllgor Safonau wneud hyn. Cytunodd y Prif Weithredwr i ddarparu adroddiadau anhysbys yn ôl-weithredol i’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Safonau (ddwywaith y flwyddyn) ar nifer yr achosion iawndal a chanlyniadau o ran setliadau anwirfoddol o fewn swyddogaeth 20 o’r Cyfansoddiad. Cymeradwyodd y Cynghorydd Mike Peers y cynnig ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Marion Bateman.

 

Cynigodd y Cynghorydd Ian Roberts y dylid cymeradwyo’r argymhellion yn yr adroddiad, sef i gymeradwyo’r Swyddogaethau Dewis Lleol fel y nodwyd yn y Cyfansoddiad, ac eiliwyd hynny.

 

PENDERFYNWYD:

 

 (a)      Cymeradwyo’r Swyddogaethau Dewis Lleol presennol fel y nodwyd yn y Cyfansoddiad; a

 

 (b)      Darparu adroddiadau anhysbys yn ôl-weithredol i’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Safonau (ddwywaith y flwyddyn) ar nifer yr achosion iawndal a chanlyniadau o ran setliadau anwirfoddol o fewn swyddogaeth 20 o’r Cyfansoddiad.

 

 (vii)    Enwebu i Gyrff Mewnol

 

Eglurodd y Prif Swyddog fod y Cynllun Dirprwyo presennol yn darparu ar gyfer Pwyllgor Penodiadau ar gyfer swyddogion haen gyntaf ac ail haen, yn cynnwys saith Aelod.  Nid oedd hwn yn bwyllgor sefydlog a byddai’n cael ei gynnull pan fo angen drwy geisio enwebiadau gan Arweinwyr Gr?p.  Argymhellwyd bod cyfansoddiad y Pwyllgor yn parhau, fel y nodwyd yn yr adroddiad.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Dunbar.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cyfansoddiad y Pwyllgor Penodiadau yn cael ei gymeradwyo.

 

 (viii)   Pwyllgor Safonau

 

Amlinellodd y Prif Swyddog gyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau a gofynnwyd i’r Aelodau nodi hyn.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Dunbar.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod cyfansoddiad ac aelodaeth y Pwyllgor Safonau yn cael eu nodi.

 

(ix)      Penodiadau i Gyrff Allanol

 

Eglurodd y Prif Swyddog y bu i’r Cyngor, yn y Cyfarfod Blynyddol yn 2017, benodi Aelodau i gyrff allanol ar gyfer tymor llawn y Cyngor. Rhoddodd hefyd b?er i’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad ag Arweinwyr Gr?p, wneud newidiadau i’r enwebiadau hynny fel y bo angen.

 

Cymeradwyodd y Cynghorydd Ted Palmer yr argymhellion yn yr adroddiad ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Ian Dunbar.

 

PENDERFYNWYD:

 

Bod y Cyngor yn nodi bod enwebeion i Gyrff Allanol wedi cael eu penodi ar gyfer tymor lawn y Cyngora ph?er y Prif Weithredwr i amrywio’r enwebiadau hynny (mewn

ymgynghoriad ag Arweinwyr Gr?p).

 

Dogfennau ategol: